Nod y Prosiect
Ar hyn o bryd, gall gosod pŵer dros dro ar gyfer darlledu a chanolbwyntiau uned cynhyrchu yn y diwydiant sgrîn fod yn broblemus. Gall cynyrchiadau sgrîn greu llawer iawn o allyriadau niweidiol a chael effaith fawr ar yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus i bob uned o ynni a ddefnyddir. Gweledigaeth ZAP Concepts yw symud at lefel isel o allyriadau, os o gwbl, gyda chyflenwadau pŵer dros dro, â manylebau mwy penodol ac wedi’u cysylltu â systemau ynni adnewyddadwy, pŵer grid a systemau storio ynni. Y nod yw nad yw’n cynhyrchu allyriadau wrth ei ddefnyddio. Ein prosiect yw datblygu Adnodd Cynllunio Pŵer Clyfar ZAP Concepts i alluogi defnyddwyr i fanylebu systemau pŵer dros dro mwy cynaliadwy’n haws.