Cloth Cat Animation
Stiwdio animeiddio yw Cloth Cat Animation a sefydlwyd yn 2012 ac sy'n cynnig gwasanaethau animeiddio i gyfresi darlledu, gemau rhyngweithiol ac ar-lein.
Proses greadigol yw animeiddio, ond mae'n dibynnu'n helaeth ar wasanaethau digidol.
Ambell waith fe welwn fod gwelliannau o ran technoleg animeiddio'n cael effaith anfwriadol drwy arafu cynhyrchu, all effeithio ar greadigrwydd y broses animeiddio. Gan fod Clwstwr yn cyllido ymchwil a datblygu ar gyfer technoleg greadigol, ymgeision ni am gyllid a'i ddefnyddio i weld a allen ni ddatrys rhai o'r problemau.
Roedd ein prosiect yn ymwneud ag un peth: cyflymder rendro.
Yn syml, mae rendro fel tynnu ffotograff gydag amlygiad hir iawn. Pan fyddwch chi wedi gosod popeth yn y cyfrifiadur ar gyfer eich animeiddiad - h.y. wedi adeiladu popeth, goleuo popeth, gwneud i gymeriadau a gwrthrychau symud mewn ffyrdd gwahanol - y cam nesaf yw rendro'r animeiddiad. Mae hyn yn gadael i chi gymryd ffrâm neu lun llonydd o un rhan fach o'r animeiddiad, ac yna ailadrodd y broses tan fod gennych chi ddilyniant cyflawn.
Yn anffodus gall rendro gymryd llawer o amser am ei fod mor gymhleth. Gall ffrâm unigol o animeiddio gymryd unrhyw beth rhwng ychydig eiliadau ac ychydig oriau i rendro. Nid yn unig mae hyn yn bwyta i mewn i'r amser cynhyrchu, ond mae hefyd yn arafu'r broses adolygu gyda chleientiaid, ac yn ei dro y cyflymder y gallwn wneud addasiadau i'r animeiddiad.
Cyllidodd Clwstwr ni, a rhoddon ni arian cyfatebol i ateb cwestiwn: a allwn ni gael rendrwr peiriant gemau i rendro animeiddiad, gan ddefnyddio meddalwedd animeiddio safonol i'w yrru?
Ymchwilion ni i ddichonoldeb defnyddio peiriannau gemau fel datrysiad i rendro araf.
Mae rendro gyda pheiriant gemau lawer yn gyflymach na rendro gyda meddalwedd animeiddio, yn arbed amser ac yn ei wneud yn gost effeithiol. Drwy ddefnyddio peiriannau gemau, gallwn ailedrych ar yr animeiddiad yn fyw, cywiro pethau mewn amser real a chael pobl yn gweithio ar siots yr un pryd. Fodd bynnag, gan fod peiriannau gemau wedi'u cynllunio i wneud pethau'n fyw, dydyn nhw ddim yn addas ar gyfer ailadrodd; ceir triciau mewn peiriannau gemau i bobi camau, fel goleuo neu efelychiadau o olygfeydd.
Pan fyddwch chi'n ceisio rendro rhywbeth ffrâm wrth ffrâm neu dro ar ôl tro mewn peiriant gemau, caiff y llwybrau byr hyn eu hamlygu. Gyda hyn yn ein meddwl, ein nod oedd archwilio a fyddai'n bosibl rendro animeiddiadau drwy beiriannau gemau heb golli ansawdd. Roeddem ni am gael achos prawf i brofi y gallai weithio ac y byddai'r broses yn ddigon syml i animeiddwyr ac artistiaid ei defnyddio.
Rhannwyd ein prosiect yn ddau gam penodol dros chwe mis.
Y cam cyntaf oedd cymryd gwaith celf o brosiect 3D blaenorol, rhywbeth a gymerodd amser hir i'w rendro'n wreiddiol gyda meddalwedd animeiddio. Yna ailweithion ni'r gwaith celf i gydweddu â'r ffordd roedd y peiriant yn trin gweadau a llawer o geometreg. Profodd y gallem ni ddod â phethau i mewn o brosiectau animeiddio a sut y gallem ni optimeiddio neu addasu'r meddalwedd i gael y canlyniadau a’r ansawdd animeiddio gorau.
Mewn rhai achosion cyflymodd y broses hon yr amser rendro o 40 munud y ffrâm i lai nag eiliad y ffrâm. Rhaid cyfaddef fod rhywfaint o ansawdd yn cael ei golli yn y manylion, fel dyfnder maes, ond roedd yr enillion amser yn anfesuradwy. Pan ddeallon ni'r cyfyngiadau, roedd modd i ni weithio o'u cwmpas.
Yn yr ail gam, ceision ni greu gwaith newydd yn defnyddio ein dull rendro amgen.
Roedden ni am wybod a allem ni ddod â rendro peiriant gemau'n ymarferol i'n llif gwaith yn y dyfodol. Roedd pryderon ynghylch faint y byddem ni'n gallu ymestyn ein tîm fel bod rhai ohonom ni'n gallu animeiddio tra bo eraill yn gweithio ar elfennau eraill, fel y cefndiroedd. Mae'n braf dweud ein bod wedi profi y gallwn reoli'r llif gwaith; yr unig broblem yw ei fod yn costio llawer o arian i'w adeiladu.
Aethom ni ati i weld beth oedd modd ei wneud, ac yn wir fe weithiodd yn dda dros ben.
Rydym ni'n hapus iawn gyda chanlyniadau ein prosiect; fe wyddom ni nawr y gallwn gynhyrchu animeiddiadau'n fwy effeithlon drwy eu rendro drwy beiriannau gemau. Mae'n golygu bod ein hanimeiddwyr yn gallu gweld eu siots yn fyw ac wedi'u goleuo wrth weithio arnyn nhw, sy'n golygu nad oes angen iddyn nhw wneud cymaint o olygu ar ôl rendro.
Mae hyn yn fwy nag ansawdd y ddelwedd; mae'n golygu eich bod yn gallu profi pethau, gadael i'r goruchwyliwr a'r cyfarwyddwr eu cymeradwyo a'u cwblhau'n gyflymach. Os gallwch wneud rhywbeth mewn tri cham yn hytrach na saith, bydd hynny'n gadael i'r criw ganolbwyntio ar ansawdd eu gwaith heb orfod treulio llawer o amser yn trwsio pethau. Ein camau nesaf fydd rhoi cynnig ar y math hwn o weithio ar brosiect arall, gan obeithio ei ddechrau erbyn diwedd y flwyddyn.