Nod y Prosiect
Bydd Cysylltu â Gofal yn trin a thrafod y cyfleoedd ar gyfer technoleg newydd ar y sgrîn i wella ansawdd gwasanaethau iechyd a gofal, ynghyd â'r mynediad atynt.
O sgriniau arloesol wedi'u mewnosod i gysylltu preswylwyr ynysig ag anwyliaid, i swyddogaeth disgrifio symptomau a thriniaeth ar sail animeiddiad er mwyn mynd i'r afael â rhwystrau cyfathrebu ym maes gofal iechyd, gan gynnwys profiadau ymgolli mewn atgofion i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Nod y prosiect ymchwil yw nodi anghydraddoldebau iechyd cyfredol a chynnig atebion effeithiol.
Arweinir Cysylltu â Gofal gan y gweithiwr celfyddydau proffesiynol Amy Taylor, a bydd y gwaith yn adlewyrchu ei phrofiad yn y diwydiannau creadigol a'i gwybodaeth o'r sector gofal.