Dros y pedwar mis diwethaf, mae Shirish Kulkarni o Monnow Media a Chyd-Gyfarwyddwr y Clwstwr, Robin Moore, wedi bod yn gweithio ar gam Ymchwil a Datblygu Festival UK* 2022. Roeddent yn rhan o dîm amlddisgyblaethol, dan arweiniad National Theatre Wales, a oedd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o sectorau’r celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg. Yma, mae Shirish yn esbonio'r hyn a ddysgodd o brofiad Ymchwil a Datblygu arbennig o unigryw.
Mae Festival UK 2022 yn gasgliad o ddeg prosiect ymgysylltu mawr sydd wedi'u cynllunio i arddangos creadigrwydd ac arloesedd y DU i'r byd. Yn syml, y briff oedd bod yn “Agored, Gwreiddiol ac Optimistaidd”. Roedd 30 tîm o bob rhan o'r DU yn rhan o'r cam Ymchwil a Datblygu cychwynnol, gyda'n tîm ni yn un o ddau dîm a gyflwynodd gynnig i gynrychioli Cymru.
Ymhlith pethau eraill, rydw i wedi fy nghyflogi fel Trefnydd Cymunedol yn y Swyddfa Newyddiaduraeth Ymchwiliol ac felly rwy'n credu'n gryf yng ngwerth cydweithredu a chysylltiad i ysbrydoli a sicrhau newid cymdeithasol. Felly, roeddwn yn awyddus i weld sut y gallai proses Ymchwil a Datblygu sy'n cynnwys cymaint o unigolion - rhai sy'n wahanol yn arwynebol (ac yng nghyfnod y pandemig sydd wedi'u datgysylltu'n gorfforol) - weithio. Sut y byddai'n bosibl creu cyd-ddealltwriaeth? Dyma wnes i ddarganfod.
Yn gyntaf, nid yw'n hawdd, ond mae yn bosib. Mae dod â 12 artist, technolegydd a gwyddonydd at ei gilydd yn creu cyfle anhygoel, ond mae ehangder ac ystod pur y profiad, y wybodaeth a'r creadigrwydd yn golygu y bydd tensiynau, anghytundebau a gwahaniaethau barn sylfaenol weithiau. Mae pobl yn mynd i'r afael â phroblemau o wahanol safbwyntiau, yn defnyddio gwahanol iaith ac mae ganddyn nhw wahanol bethau sy'n bwysig iddyn nhw. Dyna’r prydferthwch o ddod â thîm gwirioneddol amrywiol at ei gilydd, ond hefyd yr her.
Mae'r pwyntiau tensiwn hynny'n naturiol, ac yn aml lle mae'r syniadau gorau’n datblygu, ond yr hyn a ddaeth yn amlwg i mi yn gyflym oedd bod y sgiliau mwyaf hanfodol mewn proses fel hon yn y gwaith o ddal gofod - cynnull, gwrando a chynnwys. Yn aml, gelwir y rhain yn sgiliau “meddal”, ond mewn byd cynyddol bolareiddiedig dylent o bosib fod yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydyn ni'n treulio cymaint o amser yn dysgu siarad neu ddarllen, ond faint o amser rydyn ni'n ei dreulio’n dysgu gwrando? Daw'r creadigrwydd gorau allan o ofodau lle mae gwrando cyn bwysiced â siarad, a lle mae pawb yn cael eu cynnwys - nid dim ond y rhai sydd â'r lleisiau uchaf.
Wrth gynnull y gofodau hynny, mae hefyd yn bwysig ystyried yr offer rydych chi'n ei ddefnyddio. Fe ddefnyddion ni gymysgedd eang o Zoom, Slack, Miro, Google Drive ac e-bost, ac er bod gwahanol raglenni wedi rhoi ystod o ffyrdd i bobl fynegi eu hunain, nid oes yr un o'r rhain yn wirioneddol hygyrch. Cawsom ein rhwystro gan linell amser dynn iawn, ond mae'n amlwg ar draws y diwydiannau creadigol na fydd cael timau “amrywiol” fyth yn ddigon os na allwn greu offer a gofodau sy'n galluogi pawb i ymgysylltu a chymryd rhan ar sail gyfartal.
Yr ail beth a ddysgais yw bod artistiaid yn Ymchwilwyr a Datblygwyr da iawn. Rwy'n credu bod llawer y tu allan i'r byd creadigol o’r farn bod gwneuthurwyr theatr neu ysgrifenwyr yn ofnadwy o amddiffynnol o’u syniadau a'u gwaith ac nad ydynt yn ymateb yn dda i unrhyw feirniadaeth. Mae fy mhrofiad i o broses Ymchwil a Datblygu Festival UK 2022 yn awgrymu mai’r gwrthwyneb sy’n gywir.
Mewn gwirionedd, mae'r artistiaid yn ein tîm yn gweithio'n debyg iawn i'r ffordd y mae aelodau’r garfan Clwstwr yn cael eu haddysgu gan y tîm PDR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Gan rannu meddyliau wrth i ni geisio pennu ffocws ein prosiect terfynol, yr artistiaid oedd fwyaf parod i daflu cymaint o syniadau â phosibl at y wal i weld pa rai fyddai’n sticio. Nhw hefyd oedd y rhai mwyaf agored i feirniadaeth neu i addasu'r syniadau hynny, a hefyd y rhai mwyaf arbenigol - ar ôl i ni ddod o hyd i'n hegwyddor arweiniol - wrth droi'r cysyniad trosfwaol hwnnw'n rhywbeth y gellid ei gyflawni'n ymarferol.
Wrth i mi fyfyrio ar y broses honno, cefais fy atgoffa o’r broses ddylunio diemwnt dwbl - a ddefnyddir amlaf mewn Ymchwil a Datblygu ar gyfer cynhyrchion. Yn y broses hon, rydych chi’n mynd yn “eang” yn gyntaf wrth i chi ymchwilio i natur y broblem, cyn culhau pethau ar ôl i chi ddiffinio'r dasg allweddol yn glir. Yna rydych chi’n ehangu pethau eto wrth i chi ddylunio a phrofi'ch datrysiad, cyn pwyso a mesur eich ateb.
Pan feddyliwch chi am y peth, mae'n gwneud synnwyr fod artistiaid yn arbenigwyr yn y math hwn o broses, gan ei fod yn cyfateb yn union i sut y byddech yn mynd ati i gynnal gweithdy ar gyfer drama neu ddarn o ysgrifennu. Fel rhan o'r gwaith hwnnw, rhaid i chi fod yn an-amddiffynnol iawn o’ch cyfraniadau, gan fod yn rhaid i chi fod yn barod i ddiystyru llawer o syniadau a allai fod yn annwyl iawn i chi, a rhoi rhan o’ch ego o’r neilltu er budd y gwaith cydweithredol ehangach.
Yn olaf, dysgais pa mor werthfawr y gall fod i weithio y tu allan i'n cyd-destunau arferol - i fod yn agored i wahanol syniadau a dysgu i feddwl yn fwy creadigol o ganlyniad. Yn ein haddysg a’n bywydau gwaith rydym yn aml yn cael ein gorfodi i lawr coridorau cul ac yn y pen draw yn gweithredu o fewn paramedrau cyfyngedig iawn.
Mae gan y rhan fwyaf ohonom ystod lawer ehangach o feddyliau, diddordebau a syniadau nag y cawn eu mynegi yn aml, a byddem yn elwa fel cymdeithas pe bai mwy o'n gwaith yn gydweithredol ac yn rhyngddisgyblaethol.
Mae dysgu sut mae pobl sy'n gweithio mewn meysydd eraill yn mynd i'r afael â phroblem, mewn ffyrdd gwahanol iawn, yn brofiad anhygoel o bwerus ac yn un sydd wedi cael effaith enfawr ar sut rydw i'n gwneud fy ngwaith fy hun.
O’m profiad i, mae Festival UK 2022 wedi bod yn un o'r prosesau mwyaf cynhwysol rydw i wedi bod yn rhan ohoni erioed, ac wedi dathlu a chynrychioli ystod wirioneddol amrywiol o syniadau a phrofiadau. Roedd y digwyddiadau ysbrydoli a gynhaliwyd gan dîm canolog Festival yn cynnwys lleisiau o bob rhan o’r sbectrwm creadigol - Bernardine Evaristo, Nile Rodgers, Stephen Daldry, David Olusoga a Nadha Tolokonnikova o Pussy Riot ond i enwi rhai. Roedd pob sesiwn yn wirioneddol hygyrch ac mae'r egwyddorion hynny o gynhwysiant a chynrychiolaeth yn amlwg yn ganolog i sut y bydd y prosiect yn datblygu.
Roedd yr egwyddorion hynny hefyd yn ganolog i'n Ymchwil a Datblygu, ac rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein dewis i gyflawni prosiect a fydd yn gydweithredol, yn gynhwysol, yn sylfaenol Gymreig wrth galon ac yn fyd-eang yn ei weledigaeth. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at allu datgelu mwy o fanylion am yr union beth rydyn ni'n mynd i'w wneud ac (yr un mor bwysig) sut rydyn ni'n mynd i'w wneud, yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Rydw i wedi dysgu cymaint o'r broses, a chredaf y gallai pob diwydiant elwa o gael agwedd fwy agored a rhyngddisgyblaethol tuag at Ymchwil a Datblygu. Os gallwn, trwy brosiectau fel ein un ni, adeiladu dyfodol gwell, mwy grymus a mwy creadigol, yna byddwn wedi gwneud yr hyn yr oeddem yn bwriadu ei wneud.
*Teitl dros dro