Nod y Prosiect
Y camau cychwynnol yw ymchwiliad i blatfform ar gyfer ein cwmni newydd Laku Neg, i gasglu a rhannu straeon o Affrica brodorol a ledled y byd ar y sgrîn. Mae'r prosiect hwn yn gofyn; sut mae ymgysylltu â ffurf sy'n osgoi natur echdynnol dogfennaeth ymchwil wrth gynnal a chyflwyno ein straeon? Sut ydyn ni'n mesur ymgysylltiad, gwerth ac effaith a chreu sianel glyweledol gynaliadwy o ddeunydd archif? Y nod yw deall yn well - trwy gyfres o brototeipiau cyfweliad - y ffyrdd y gellir plethu gofal ac asiantaeth wrth adrodd straeon bywyd, gan roi sylw arbennig ar ffurf, cynnwys a chynaliadwyedd.