Ynglŷn â Bombastic
Mae Bombastic yn gwmni sy'n archwilio'r rhyng-gysylltiad rhwng y celfyddydau byw a'r cyfryngau digidol trwy ddawns, theatr a thechnoleg. Mae ei gynyrchiadau theatrig ar gyfer teuluoedd a grwpiau ysgol yn cyfuno perfformio â delweddau wedi’u taflunio, gweithdai drama a dawns a gemau ar-lein digidol.
Roedd y rhan fwyaf o waith cynnar Bombastic wedi’i seilio ar gelfyddydau byw
Am tua deng mlynedd ar ôl ei lansio yn 2007, canolbwyntiais yn bennaf ar gelfyddydau byw gyda rhyw fath o elfen ddigidol. Rwy'n mwynhau defnyddio meddalwedd newydd i gyfuno a rhyngweithio â pherfformiad byw; roedd yn boblogaidd iawn ar ein teithiau cenedlaethol ar gyfer cynulleidfaoedd mawr ac ysgolion.
Ymhen amser roeddwn am edrych y tu hwnt i'r system deithio celfyddydau byw
Gan fod y prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, roeddwn am edrych ar gyfeiriadau newydd i'r busnes, fel creu prosiectau ar gyfer gwahanol fformatau neu blatfformau. O ganlyniad i hyn, symudodd Bombastic tuag at gyfnod newydd tua phum mlynedd yn ôl, gan ddechrau gyda phrosiect ymchwil a datblygu gyda Nesta yn archwilio rhyngweithioldeb digidol ar gyfer ysgolion.
Gosododd waith ymchwil a datblygu blaenorol y sylfeini ar gyfer ein prosiect Clwstwr
Datblygwyd prototeip ar gyfer platfform digidol rhyngweithiol ar y we. Roeddem am i'r platfform alluogi darparu sesiynau celfyddydau digidol rhyngweithiol mewn ysgolion cynradd, lle'r oedd yr holl ddyfeisiau'n siarad â'i gilydd, yn cyfleu gwybodaeth ac yn casglu data ar berfformiadau plant. Roedd hefyd yn arbrawf ynghylch pa fath o gynnwys ffilm digidol y gallem ei greu i ddatblygu ein huchelgeisiau ein hunain o ran gwneud ffilmiau.
Ar ôl dangos y prototeip mewn cynhadledd addysg, gwelais le i dyfu
Sylweddolais y gallai’r platfform gyfuno'r cwricwlwm, y celfyddydau a dysgu digidol. Sylweddolais hefyd y gallai, o’i ddatblygu ymhellach, ddarparu ffordd i athrawon greu a rhannu eu cynnwys eu hunain, yn hytrach na’n bod ni’n creu'r holl gynnwys ar gyfer y platfform. Mae'r system addysg gynradd gyfan yn newid yng Nghymru, a bydd yn blaenoriaethu'r celfyddydau mynegiannol fel un o chwe maes blaenoriaeth. Roeddem am ddatblygu'r prototeip ymhellach i gyfuno'r creadigol, yr ymarferol a’r digidol mewn platfform defnyddiol, hyblyg i’w ddefnyddio gan athrawon a disgyblion.
Gwnaethom gais i Clwstwr am gyllid i wneud y cam ymchwil a datblygu nesaf
Fel rhan o'r cais, daethom â phartner technoleg, sef Proper Design, i'n helpu â’r ochr dechnegol. Gyda'n gilydd, myfyriom ar yr hyn oedd y platfform bryd hynny a phenderfynu ar y camau penodol i ymchwilio iddynt nesaf. Cawsom £50,000 o gyllid gan Clwstwr, gyda'r nod o gwblhau'r prosiect mewn chwech i 12 mis.
Canolbwyntiodd gam cyntaf ein prosiect ar fireinio'r platfform
Treuliodd Bombastic a Proper Design amser yn nodi darpar ddefnyddwyr a phenderfynwyr, yn ogystal â'r agweddau allweddol a fyddai'n gwneud y platfform yn werthfawr i'n defnyddwyr – o'r disgyblion i'r athrawon a chyd-destun ehangach posibl defnyddwyr y tu allan i addysg gynradd yn y dyfodol. Ar ôl gwneud rhai mapiau meddwl i sicrhau ein bod ar yr un trywydd, dechreuom ddau gam a gynhaliwyd ar y cyd. Datblygodd Proper Design saernïaeth y feddalwedd ac fe ymchwiliais i i'r cwricwlwm a'r cynnwys addysgol. Cawsom amserlen glir, a'r nod oedd mynd i’r ysgolion i wneud sawl rownd o brofion defnyddwyr a chael adborth gan y defnyddwyr yn ystod ein hymchwil.
Llunion ni dri phrif brawf ar gyfer defnyddwyr mewn ysgolion, ond yn sgîl y pandemig newidiodd pethau
Llunion ni’r prawf cyntaf, sef edrych ar hanfodion pensaernïaeth y platfform gyda grŵp o athrawon o Gaerdydd a 3 ysgol gynradd yn Abertawe. Roedd yn golygu mynd i’r ysgolion cynradd i ddangos y platfform ar y cyd â'r athro a fyddai'n cynnal y sesiwn ac yna'n rhoi adborth. Pan oedden ni’n datblygu'r ail gylch o brofion, sef edrych ar sut y byddai modd gwneud y platfform yn hawdd ei ddefnyddio, dechreuodd y pandemig. Roeddem yn gwybod bryd hynny na fyddai'n bosibl gwneud profion ffisegol gyda defnyddwyr yn yr ystafell ddosbarth.
Manteisiwyd ar y cyfle i weld a ellid defnyddio'r platfform ar gyfer dysgu o bell
Rhoddodd y cyfnod clo gyfle i ni brofi'r platfform gydag athrawon, gan weld ei bosibiliadau dysgu ar-lein ac o bell. Rydym hefyd wedi cael cyfle i roi cynnig ar ddefnyddio'r platfform, y rhoddwyd yr enw 'Poli' iddo, fel rhan o gomisiwn ffrydio byw a ffrydiom i ysgolion yr Haf hwn. Mae hynny'n rhywbeth nad oeddem yn disgwyl gallu ei wneud yn ystod y cam hwn o'r ymchwil a datblygu, a rhoddodd lawer o ddata defnyddiol i ni.
O safbwynt y defnyddiwr, mae gennym bellach ddigon o brawf o'r angen am y platfform
Mae’r adborth a’r ymateb wedi bod yn galonogol, sydd wedi symud y pethau technegol ymlaen. Gan fod y prosiect hwn wedi cael ei ymestyn llawer, roedd gennyf fwy o amser i fyfyrio ar sut gallai’r newidiadau i'r cwricwlwm weithio orau gyda gwahanol fformatau ar y platfform. Rwyf wedi sylweddoli bod mwy o botensial i'r platfform gynnal sesiynau gweithdy rhyngweithiol ymarferol, lle rydym yn arwain athrawon a disgyblion trwy ymarferion creadigol neu'n awgrymu ffyrdd y gall creadigrwydd gysylltu â'r cwricwlwm.
Mae gennym ddigon i symud ymlaen ato ac rydym yn gyffrous am ddyfodol Poli
O'n gwaith ymchwil a datblygu, gallwn weld y llwybr tuag at wneud Poli yn blatfform gwirioneddol, ymarferol a masnachol hyfyw. Bydd ein camau nesaf yn cynnwys profi gwahanol fformatau cynnwys a'r gwahaniaeth rhwng ymyrraeth gorfforol fyw ac ymyrraeth ddigidol yn yr ystafell ddosbarth. Byddwn hefyd yn dod o hyd i ffordd briodol i athrawon olrhain cynnydd disgyblion ac yn edrych ar sut rydym yn coladu a storio gwybodaeth y disgyblion a’i lledaenu i'r athrawon.