Agile Kinetic
Mae Agile Kinetic yn fusnes technoleg-ganolog sy'n ymdrechu i ddefnyddio technoleg i wella iechyd cymdeithas. Mae ei lwyfan yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i fonitro iechyd cyhyrysgerbydol cleifion, sydd yn ei dro yn gwella’r broses o rannu gwybodaeth rhwng cleifion a'u timau clinigol ac yn llywio'r penderfyniadau a'r argymhellion a wneir ganddynt.
Mae Amcangyfrif Ystumiau yn cymryd delwedd neu fideo o unigolyn o unrhyw ddyfais ac yn plotio ystumiau eu cymalau yn awtomatig. I ddechrau, roeddem yn edrych ar ei ddefnyddio i awtomeiddio hyfforddi a chwaraeon, ond yna gwnaethom gyfarfod â llawfeddyg a oedd yn meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol iawn yn ei sector.
Dechreuon ni ddatblygu rhaglen ar gyfer ffisiotherapyddion a llawfeddygon
Nod y rhaglen oedd eu galluogi i fonitro eu cleifion yn dilyn anaf neu lawdriniaeth. Mae hyn oherwydd ei bod yn bwysig eu bod yn gwybod a yw ystod symudiadau claf yn gwella ai peidio dros amser.
Roeddem wedi llunio prototeip o lwyfan seiliedig ar ap i’w ddefnyddio gan gleifion
Gallai cleifion nodi pethau fel eu sgôr cysur dyddiol er mwyn i'r ap eu monitro. Gallent hefyd lanlwytho delweddau y gofynnwyd amdanynt o'u cymalau pan fyddant wedi'u hystwytho neu eu hymestyn, a fyddai wedyn yn cofnodi ystod o symudiadau claf gan ddefnyddio’r dechnoleg Amcangyfrif Ystumiau.
Aethom i'r afael â dwy her a ddangosodd i ni fod angen i ni wneud rhagor o waith ymchwil a datblygu
Un her oedd bod angen i ni ddod o hyd i ffordd o ysgogi cleifion i ddefnyddio'r ap ac ymgysylltu ag ef; roedd angen iddynt gyflwyno gwybodaeth ddyddiol am eu sgoriau poen a chysur a gweithredu ar yr argymhellion yr oedd y clinigwyr yn eu bwydo yn ôl iddynt, yn seiliedig ar eu hystod o symudiadau a lefelau cysur.
Yr her arall oedd bod angen i ni ddod o hyd i ffordd o helpu cleifion i dynnu'r delweddau gofynnol ohonyn nhw eu hunain. Y cyfan roedd ei angen arnom i ddechrau oedd dwy ddelwedd, un o'r cymal wedi'i ystwytho'n llawn ac un o'r cymal wedi'i ymestyn yn llawn. Roedden ni’n datblygu’r ap ar gyfer pobl hŷn nad oeddent yn gyfarwydd â thechnoleg ddigidol. Roedd angen iddynt allu defnyddio'r ap a sefyll yn yr ystumiau cywir wrth dynnu’r delweddau. Daeth yn amlwg bod angen i ni ddatblygu ffordd o’u hyfforddi sut i dynnu'r delweddau hynny.
Rhoddodd cyllid Clwstwr gyfle i ni ystyried opsiynau trwy ymchwil a datblygu
Rhannwyd y prosiect yn ddau faes ymchwil a datblygu – 1. Dod o hyd i ddull hyfforddi a fyddai'n dangos i gleifion sut i fynd i'r ystumiau gofynnol a thynnu'r delweddau, a 2. datblygu ffordd o ddefnyddio technegau gemeiddio i annog cleifion i ddefnyddio’r ap.
Gwnaethon ni arbrofi gyda thair ffordd o hyfforddi cleifion i dynnu'r lluniau gofynnol
Opsiwn 1 oedd cael sbardun awtomataidd ar y camera. Byddai hyn yn caniatáu i'r claf fod yn ei le, ymhell o'i ffôn, yn copïo person ar y sgrin sy'n gwneud y symudiadau gofynnol. Yn y cyfamser, byddai ei gamera ffôn yn cymryd delwedd ohono yn awtomatig ar adegau penodol i gofnodi ei ystod o symudiadau.
Opsiwn 2 oedd cael sbardun wedi'i ysgogi gan lais. Byddai'n galluogi’r claf i symud i ffwrdd o'i ffôn clyfar, ei osod ei hun yn yr hyn y credai oedd yr ystum cywir ac yna ddefnyddio ei lais i actifadu'r sbardun.
Opsiwn 3 oedd gofyn i gleifion ffilmio eu hunain yn perfformio'r dilyniant cyfan o symudiadau, yna byddai'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd, ar y diwedd, o gyrraedd y mannau cywir yn y symudiad i'w recordio wedyn.
Roeddem am gynnal profion defnyddwyr wyneb yn wyneb gyda 40 o gyfranogwyr yn y Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff
Fodd bynnag, oherwydd y pandemig, bu’n rhaid i ni newid ein cynlluniau. Yn lle hynny, gwnaethon ni ddefnyddio carfan ychydig yn llai a chynnal y profion dros Zoom. Gwnaethom ddyfeisio ffordd o rannu ein sgrin â nhw er mwyn rhoi'r cyfarwyddiadau iddynt, wrth eu recordio ar yr un pryd fel y gallem fesur eu hystod o symudiadau. Yna, casglwyd eu hadborth ar y gwahanol opsiynau.
Nid yr hyn yr oeddem yn meddwl fyddai’r dull mwyaf hawdd i’w ddefnyddio oedd yr un mwyaf poblogaidd
Roeddem yn meddwl y byddai'n well gan ddefnyddwyr opsiwn 3 oherwydd y byddai'n golygu'r ymdrech leiaf ar eu rhan, ond mewn gwirionedd dyma'r opsiwn lleiaf cywir a’r un lleiaf poblogaidd. Y rheswm dros hyn oedd ei bod yn well gan ein defnyddwyr gael eu harwain yn glir iawn; byddent yn aml yn rhewi neu'n symud yn anghywir oherwydd nad oeddent yn cael arweiniad clir. Y dulliau eraill, megis y sbardun awtomataidd, oedd y rhai mwyaf poblogaidd oherwydd rhoesom fwy o arweiniad i gleifion gan fod angen i ni sicrhau eu bod yn yr ystum cywir pan oeddent yn tynnu'r llun. Roedd hyn i gyd yn dangos i ni pa mor bwysig yw sicrhau bod dull yn hawdd i’w ddefnyddio a rhoi arweiniad trylwyr i'n defnyddwyr.
Gwnaethom hefyd lunio rhaglen galedwedd i leihau gwallau ffotograffiaeth
Roedd y dasg sylfaenol o sicrhau bod rhywun yn cymryd y camera a’i fod yn ei wynebu gyda'i gorff cyfan mewn ffocws yn her fawr nad oeddem yn ei disgwyl mewn gwirionedd. Felly, gwnaethom arbrofi gyda llawer o wahanol setiau trybedd cost isel i weld a oedd ateb marchnad dorfol a fyddai'n dal y ffôn yn y safle cywir. Yn y diwedd, gwnaethom ddefnyddio rhai atebion rhad a syml iawn a oedd yn cynnwys clip. Gyda PDR, gwnaethom ddylunio fersiwn wedi'i haddasu ohono i greu prototeip, gan greu dyluniad y gallem ei gynhyrchu am lai na £1.
Drwy gyfuno elfennau o'r ddau ganlyniad, rydym bellach yn gwybod sut i berswadio pobl i ddefnyddio'r dechnoleg a gallwn ddarparu'r offer sydd eu hangen arnynt.
Roedd yr ymchwil i dechnegau gemeiddio yn ddiddorol iawn
Gwnaethom recriwtio unigolyn â gradd mewn dylunio gemau i wneud ymchwil eilaidd i ni am tua dau fis, gyda'r dasg o geisio darganfod pa fathau o bethau sy'n ysgogi defnyddwyr hŷn a phobl nad ydynt yn gyfarwydd â thechnoleg ddigidol, a beth allai sicrhau eu bod yn parhau i ddefnyddio’r ap. Darparodd lawer iawn o ymchwil ac awgrymiadau, y gwnaethom eu datblygu wedyn drwy brototeipio rhai o'r opsiynau mwyaf addawol.
Yr ateb mwyaf diddorol oedd rhywbeth a allai yn hawdd ymddangos yn ddibwys ar y dechrau
Roedd ein defnyddwyr yn gwneud y defnydd mwyaf o’r ap pan oeddent yn cael eu gwobrwyo â neges longyfarch ac adborth haptig (fel y ffôn yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn hapus am eiliad fer) ar ôl cwblhau rhai gweithgareddau.
Yn wir, yr adborth oedd bod angen i ni fynd ymhellach gyda’r math hwn o wobr; yn hytrach na’i chael ar ôl cwblhau pob un o'r ymarferion ar ddiwrnod penodol, roedden nhw am ei chael bob tro y byddent yn cwblhau pob set o ymarferion. Fel hynny, byddent yn cael eu gwobrwyo'n amlach ac yn adeiladu rhediadau. Dyma’r peth nesaf yr hoffem ei roi ar waith.
Rydym yn fodlon iawn ar y cynnydd a wnaethom ac rydym eisoes wedi gwneud gwaith ymchwil a datblygu dilynol
Ers gorffen ein prosiect Clwstwr, rydym wedi bod yn adeiladu ar ein technoleg sylfaenol gydag ymchwilydd dysgu peirianyddol ac yn edrych ar ddilysu ein meddalwedd i brofi ei chywirdeb wrth gymryd mesuriadau. Rydym newydd gau rownd o fuddsoddiad yn cynnwys cwmni meddygol a fydd yn ymuno â'n bwrdd, sy’n garreg filltir fawr i ni. Ein carreg filltir nesaf yw cael y marc UKCA gofynnol i fynd â hyn i'r farchnad.