Object Matrix
Tŷ meddalwedd yng Nghaerdydd yw Object Matrix sydd wedi bodoli ers yn agos i 20 mlynedd. Mae'n creu datrysiadau i ddiwydiant y cyfryngau, gan alluogi cwsmeriaid i storio a gwneud gwell defnydd o'u deunydd ffilm. Mae'n gwneud hyn drwy ei lyfrgell cyfryngau a systemau archif a ddarperir ar y safle ac fel gwasanaeth drwy'r cwmwl.
AI yw un o'r meysydd pwysicaf ym maes fideo ar hyn o bryd
Yn ein sector ni, un defnydd a wneir o AI yw dadansoddi fideo. Gall AI ddadansoddi pwy sydd mewn fideo, beth sy'n digwydd mewn fideo, pa seiniau sydd mewn fideo ac ati. Mae algorithmau AI yn glyfar iawn. Gallwch chwilio am dermau fel 'car chase' neu 'man running' a chael rhestr o olygfeydd lle mae hynny'n digwydd. Neu os yw'r gallu yno, gallwch fynd ymhellach drwy chwilio er enghraifft am ‘Harrison Ford running’, neu ‘Harrison Ford running and Bon Jovi playing in the background’.
Sylweddolon ni fod angen gwell ffyrdd ar grewyr fideo i chwilio archifau fideo
Er ei bod yn bosibl chwilio, dyw hyn ddim bob amser yn cael ei gyflwyno mewn ffyrdd rhwydd. Roedden ni am sicrhau galluoedd chwilio gwell mewn archifau fideo, yn enwedig y mathau o archifau y mae ein cwmni ni'n eu gwerthu. Felly, gwnaethom gais i Clwstwr am gyllid i ymchwilio a datblygu'r syniad hwn yn gynnyrch. Roeddem ni am iddo gynnwys yr algorithmau penodol sydd eu hangen i echdynnu mathau penodol o wybodaeth a metadata o fideo, fel bod defnyddwyr yn gallu chwilio'n gyflym drwy archifau fideo mawr i ddod o hyd i fathau penodol o ffilm yn y llinell amser.
Dechreuodd ein prosiect Clwstwr drwy ymchwilio i'r hyn roedd darpar ddefnyddwyr am ei gael
Mae gennym ni dros 200 o gwsmeriaid sy'n defnyddio ein datrysiadau storio cyfryngau, ond roedd angen syniad clir o'r hyn y byddai rhai crewyr fideo am ei gael gan AI a'r nodwedd chwilio roeddem ni'n ei dychmygu. Holwyd pobl o amrywiaeth eang o gwmnïau sy'n defnyddio fideo i weld beth fydden nhw am ei gael gan ein cynnyrch chwilio. Roedd y cwmnïau’n amrywiol iawn, o ddarlledwr i stadiwm chwaraeon.
Crynhowyd y canfyddiadau mewn adroddiad.
Roedd pob un o'r darpar ddefnyddwyr y cyfwelwyd â nhw yn dymuno gwneud pethau gwahanol gydag AI. Roedd yn ddiddorol gweld sut y gallai eu defnydd o'r nodwedd chwilio amrywio. Er enghraifft, gallai'r stadiwm chwaraeon ddefnyddio chwiliad data dwfn i gael ffigurau am faint o amlygiad mae hysbysebwr penodol wedi'i gael yn ystod eu gemau. Neu, os oedd un o'r cwmnïau oedd wedi talu am hysbysebu am gael darn o ffilm yn cynnwys eu hysbyseb ar gyfer eu portffolio, gallai'r stadiwm ddefnyddio'r cynnyrch a ddychmygwyd yn rhwydd i ddod o hyd i'r darn hwnnw yn eu harchif enfawr. Roedd darlledwyr am gael dadansoddiad fideo AI cwbl wahanol. Doedd y ffaith fod gan bobl ddefnydd gwahanol ar gyfer y darpar gynnyrch ddim yn bwysig; roedden ni'n gwybod bod marchnad iddo.
Yn dilyn yr ymchwil, dechreuwyd ar y cam adeiladu
Roedd gennym ni syniad ar gyfer gwneud y nodwedd chwilio yn fwy effeithlon. Yn syml, roedd yn cynnwys dod o hyd i ffordd i rag-brosesu'r fideo fel bod modd ei ddadansoddi'n gyflymach heb golli llawer o gywirdeb. Gyda'r prototeip, roedden ni am brofi ei bod yn bosibl gosod ac arddangos gwybodaeth yn seiliedig ar chwiliadau archif.
Cymeron ni'r data a gasglwyd a'i ddefnyddio i lywio nodwedd y prototeip
Roeddem ni am iddi fod yn bosibl dangos pethau yn y llinell amser; roedd bron pawb angen metadata llinell amser. Datblygwyd y prototeip yn y fath fodd fel nad yw defnyddwyr yn cael canlyniad cadarnhaol neu negyddol yn unig wrth chwilio am derm. Yn lle hynny, mae'n dangos ymhle yn union yn y fideo mae'r term y chwiliwyd amdano. Mae hefyd yn eu galluogi i osod metadata ar gyfer y lleoliadau hynny. Mae hyn yn gymharol syml i ni ei wneud, ond roedd yn rhan fawr o'r prosiect a gymerodd gryn amser.
Cynhaliwyd profion defnyddwyr ar y cynnyrch prototeip o'r prosiect Focus Image Vision
Roedd yn gadarnhaol iawn, felly roedden ni'n falch iawn gyda'r canlyniad. Fe'n gwthiodd i gyflwyno'r nodwedd i'n cwsmeriaid. Yn wir, nid yn unig ydym ni wedi profi'r cysyniad, ond mae gennym ni gwsmeriaid sydd wrthi'n ei ddefnyddio. Mae nodwedd Focus Image Vision bellach yn un o set ehangach o ddatrysiadau rydym ni'n eu darparu. Yn ddiddorol, mae rhai o'n cwsmeriaid mwy diweddar wedi dweud yn benodol bod nodwedd Focus Image Vision yn allweddol wrth iddyn nhw benderfynu dod atom ni.
Mae mwy y gallech neu y dymunwch chi ei wneud bob amser, ond mae sawl cam ar y ffordd at gynnydd
Gyda'r £50,000 o gyllid a gawsom gan Clwstwr, rydym ni wedi gwneud cam pwysig at ddod â'r cynnyrch i'r farchnad. Bob blwyddyn, rydym ni'n gwario hyd at £600,000 ar ymchwil a datblygu, ond roedd cael £50,000 ychwanegol yn help aruthrol a wnaeth wahaniaeth anferth. Rhoddodd y cyfle i ni godi ein pennau uwchlaw'r parapet er mwyn gallu gwneud rhywbeth na fyddem ni wedi gallu ei wneud fel arall.
Mae'r pandemig wedi taflu goleuni ar yr angen am gynhyrchion fel hwn yn y cwmwl
Dechreuon ni ar gyfnod ymchwil y prosiect cyn y pandemig. Ond unwaith i'r pandemig daro, trowyd ein sylw at yr ochr ddatblygu drwy gyflymu'r gwaith o adeiladu nodweddion newydd ein platfformau cwmwl. Canolbwyntiwyd ar ddarparu'r prototeip er mwyn gallu ei ddangos yn cael ei ddefnyddio mewn amgylcheddau cwmwl, y mae pobl yn fwy dibynnol arnynt bellach wrth weithio o bell.
Rydym ni'n canolbwyntio ar ddod â mwy o wasanaethau cwmwl i'r diwydiant
Mae diddordeb pobl yn y cwmwl yn cynyddu, felly mae cael nodwedd chwilio y gellir ei defnyddio ar fideo yn y cwmwl yn sicrhau'r defnyddioldeb y mae pobl yn disgwyl ei gael yn yr amgylchedd hwnnw. Rydym ni am barhau i ddatblygu a gwella datrysiadau y gallwn ni eu cyflwyno'n fyd-eang er mwyn tyfu'r cwmni. Mae angen pendant am ddatrysiadau cwmwl yn niwydiant y cyfryngau, felly bwriadwn barhau'n rhan o'r farchnad honno a chyflwyno datrysiadau newydd iddi.