Gwybodaeth am Yvonne Murphy
Mae Yvonne Murphy wedi bod yn gyfarwyddwr theatr, yn gynhyrchydd creadigol ac yn ymarferydd creadigol ac ymgynghorydd oddi ar 1992, a hynny ar sail llawrydd, gan weithio ledled y DU ac yn rhyngwladol, ac mae’n teimlo'n angerddol ynghylch y croestoriad rhwng cyfranogiad democrataidd a diwylliannol a dulliau o ddatrys problemau a newid systemau sy’n canolbwyntio ar elfennau creadigol/artistig.
Yn 2008 sefydlwyd Omidaze (O My Days!) Productions gan Yvonne, sef sefydliad partneriaeth, gyda Dick Johns sydd hefyd yn weithiwr llawrydd. Yvonne yw partner arweiniol Omidaze Productions a hi hefyd a greodd The Talking Shop a The Democracy Box Mae’r ddau brototeip yn ceisio mynd i’r afael â’n diffyg democrataidd presennol trwy roi gwybod i bob cenhedlaeth mewn modd creadigol am egwyddorion sylfaenol ein democratiaeth yn y DU i ysbrydoli pawb i ymgysylltu a chymryd rhan, a hynny wrth y blwch pleidleisio a thu hwnt.
Cenhadaeth Omidaze yw defnyddio theatr, y celfyddydau a chreadigrwydd i rymuso, hysbysu a difyrru cynulleidfaoedd newydd, ac i ysbrydoli newid cymdeithasol cadarnhaol. Mae Omidaze yn weithredwyr celfyddydol sy’n ymdrechu i greu cymdeithas decach, fwy cyfartal a chyfiawn, yn ogystal â chreu prosiectau theatr a phrosiectau creadigol arloesol ac ysbrydoledig.
Fe’m gwnaed yn Gymrawd Clore a’m secondio yn arweinydd strategol y DU i What Next? sef mudiad cymharol newydd yn y sector diwylliannol, a dechreuodd pennod gyntaf What Next? yng Nghymru. Trwy gydol fy nghyfnod gyda What Next? roedd gennyf ddiddordeb yn y modd y gallem gynnwys y cyhoedd yn y sgwrs hon ynghylch pwysigrwydd a gwerth y celfyddydau, diwylliant a chreadigrwydd i gymdeithas. Roeddwn yn parhau i feddwl am hyn wrth i mi greu trioleg Shakespeare gyda Chanolfan Mileniwm Cymru dros y tair blynedd nesaf, a dechreuais archwilio’r croestoriad rhwng cyfranogiad diwylliannol a democrataidd yn rhan olaf y drioleg. Creais weithdy i gyd-fynd â'r cynhyrchiad a aeth ar daith o gwmpas ysgolion. Roedd y gweithdy rhyngweithiol hwn, a oedd yn para am ddwyawr, yn esbonio hanfodion Romeo a Juliet, ac yn cyflwyno Shakespeare i’r myfyrwyr, ac yna, yn ystod gorffwylledd yr ail awr wallgof, yn esbonio sut y mae ein democratiaeth yn gweithio ac yn ffitio ynghyd. Roedd yr ymateb i’r gweithdy hwn yn hynod o gadarnhaol, ac roedd oedolion ac addysgwyr yn dweud wrthyf fod arnynt angen y gweithdy hwn. Arweiniodd yr holl feddwl a’r gwaith hwn at greu ac, yn y pen draw, treialu The Talking Shop yn 2019 mewn siop wag yng Nghaerdydd.
Mae The Talking Shop yn ganolfan wybodaeth ddiwylliannol a democrataidd amhleidiol.
Man cyhoeddus sy'n archwilio'r croestoriad rhwng cyfranogiad diwylliannol a democrataidd. Mae’n siop nad yw’n gwerthu dim, ac mae syniadau, gwybodaeth a sgwrs yn rhad ac am ddim – yn ogystal â’r te. Man sydd â gwybodaeth, creu a sgwrs yn greiddiol iddo. Rhywle i fynegi, hyrwyddo a chryfhau rôl creadigrwydd a democratiaeth mewn cymdeithas, a grymuso trwy rannu gwybodaeth. Rhywle sy'n annog ac yn hwyluso ymgysylltiad y cyhoedd â chreadigrwydd, y celfyddydau a diwylliant, a chyfranogiad democrataidd. Man agored a diogel i’r cyhoedd a phobl greadigol fod yn ddinasyddion gwybodus a gwrthdaro, sgwrsio, cysylltu, cynllwynio a chreu. Ymwelodd dros 550 o ymwelwyr rhwng dwy a 92 oed â’r cynllun peilot bychan hwnnw a fu’n rhedeg am fis, a dywedwyd un peth dro ar ôl tro. A allwch ddangos i mi rhywle ar fy ffôn sy'n esbonio ein democratiaeth yn y DU yn y modd yr ydych newydd ei wneud? Ac ni allwn wneud hynny. Ni allwn ddod o hyd i un lle ar-lein a oedd yn esbonio popeth mewn modd syml a chryno.
Roedd y bwlch gwybodaeth hwn a welwyd gyntaf yn y gweithdy i ysgolion, a ’nawr gan The Talking Shop, wedi ennyn fy chwilfrydedd.
Roeddwn am wybod sut yr oeddem wedi cyrraedd yma, a pham. Roeddwn yn credu’n angerddol bryd hynny, ac yn dal i wneud ’nawr, fod angen i ni fynd i’r afael â hyn ar fyrder ac, oni bai fod y diffyg democrataidd hwn yn cael sylw a bod gan bob dinesydd gyd-ddealltwriaeth sylfaenol o’r modd y mae ein democratiaeth yn y DU yn gweithio mewn gwirionedd ac yn ffitio ynghyd, ni allwn honni mewn difrif fod gennym ddemocratiaeth weithredol yn y DU. Roedd hefyd yn fy atgoffa o rôl ffilmiau gwybodaeth i’r cyhoedd a oedd yn rhan amlwg o’m plentyndod. Meddyliais tybed sut olwg a fyddai ar ffilm ac ymgyrch gwybodaeth i’r cyhoedd ’nawr, 40 mlynedd yn ddiweddarach, ble y byddai’n perthyn a sut y gallem ennyn diddordeb 65 miliwn o bobl yn y pwnc hwn.
Roedd Labordy Syniadau Clwstwr yn ofod i drafod a phrofi fy syniadau.
Pan gyrhaeddais gyntaf roeddwn yn teimlo'n eithaf anghyfforddus ac allan o le. Nid wyf yn gweithio ym maes datblygu technoleg na gemau, ac a minnau’n unigolyn sy'n gweithio'n bennaf yn creu perfformiadau byw, digwyddiadau, prosiectau a phrofiadau, nid oeddwn yn siŵr sut yr oeddwn yn ffitio gyda Clwstwr. Fodd bynnag, rwyf bob amser wedi teimlo’n angerddol iawn bod y diwydiannau creadigol a’r sector celfyddydol/diwylliannol yn un sector ecoleg ac un sector creadigol, ac mae’r cyfle hwn dros ddeuddydd wedi troi’n dair blynedd o waith dwys yn amlygu hynny ac yn dangos tystiolaeth o’r union beth hynny. Roeddwn yn ffodus iawn i weithio gyda phedwar unigolyn gwych yn y Labordy Syniadau deuddydd hwnnw a ganiataodd i mi ddefnyddio fy ngwaith ar The Talking Shop yn ffocws ar gyfer prosiect a ddatblygwyd gennym ar y cyd. Rhoddodd i mi’r hyder a'r gefnogaeth yr oedd arnaf eu hangen i ddechrau arni. Mae pob un o’r pedwar unigolyn o’r diwrnod hwnnw ym mis Chwefror 2019 yn dal i fod yn bwysig i’m ffordd o feddwl ac yn rhan annatod ohoni wrth i mi barhau i brototeipio.
I ddechrau cefais £10,000 mewn cyllid i ddatblygu fy syniadau.
Roeddwn am weithio gyda phobl ifanc rhwng 16 a 26 oed o’r pum etholaeth â’r nifer isaf o bobl sy’n mynd ati i bleidleisio, oherwydd roeddwn yn meddwl pe gallem ddarganfod sut i ymgysylltu â’r ddemograffeg hon, y byddai’r gweddill yn dilyn. Roeddwn am edrych ar ba gynnwys digidol a oedd eisoes yn bodoli a esboniai ein democratiaeth yn y DU, a gweithio gyda nhw (a’u talu), a hwythau’n Gyd-grewyr Ifanc, i weld sut y byddent yn creu neu'n curadu'r wybodaeth hon mewn modd gwahanol. Roeddwn hefyd am weld a allwn greu pecyn cymorth ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc mewn rôl Cyd-grewyr. Tarodd y pandemig yn union ar ôl i mi gael y cyllid, a dyma’r unig waith a oedd gennyf ar ôl – roedd fy holl waith theatr a’r gwaith yn ymwneud â The Talking Shop wedi diflannu dros nos. Roedd y pandemig yn golygu bod yn rhaid i mi weithio mewn modd gwahanol i'r hyn a oedd wedi’i gynllunio. Yn hytrach na gweithio gyda phum unigolyn ifanc yn unig, a hynny wyneb yn wyneb am wythnos, recriwtiais ddeg unigolyn a gweithio ar-lein. Roedd y gwaith hwn yn hynod o addysgiadol. Sylweddolais yn fuan fod gweithio ar-lein yn well o lawer na gweithio yn y ffordd hen ffasiwn – mewn ystafell. Roedd yn chwalu rhwystrau o ran hygyrchedd a lleoliad, ac yn golygu y gallent ymuno â mi o fan yr oeddent yn teimlo'n gyfforddus ynddo.
Yn lle cynnal wythnos ddwys o waith wyneb yn wyneb, gwnaethom bethau mewn modd rhithwir, a hynny awr ar y tro.
Byddem yn cynnal ein hawr ar-lein pan fyddem yn siarad am hanfodion democratiaeth. Yna, byddwn yn gosod tasgau iddynt eu gwneud neu bethau iddynt feddwl amdanynt cyn ein galwad nesaf – er enghraifft, dod o hyd i wybodaeth am bwnc penodol, myfyrio ar wybodaeth yr oeddwn wedi'i rhannu â nhw, neu weld pa gynnwys am ddemocratiaeth sydd ar gael a sut y gallai fod yn well. Ar yr un pryd cynhaliais grwpiau ffocws gyda llawer o bobl ifanc eraill i edrych ar gynnwys am ddemocratiaeth sydd eisoes yn bodoli, i ddysgu a deall yr hyn y mae democratiaeth yn ei olygu iddynt, ac i ddeall sut a ble y maent yn cael gwybodaeth ac adloniant ar sgriniau. Cafodd y bobl ifanc hyn eu recriwtio gan ymgynghorydd cymunedol cyflogedig a oedd hefyd yn un o’r Cyd-grewyr Ifanc.
Yn olaf, es ati i wneud ymchwil bwrdd gwaith, a chynnal cyfweliadau ac arolygon i gasglu tystiolaeth. Dangosodd hyn i mi beth yr oedd pobl yn ei ddeall, o ble yr oeddent wedi ei ddysgu, sut yr oeddent yn gwylio cynnwys, sut yr oeddent yn defnyddio eu ffonau ac i ble yr oeddent yn mynd i gael gwybodaeth yn gyflym o gymharu â chloddio’n ddwfn am wybodaeth. Ymchwiliais hefyd i’r modd y mae systemau’n newid, i ddemocratiaeth yn gyffredinol, i’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag deall a chymryd rhan, ac i’r modd yr ydym yn adrodd storïau a sut i ddefnyddio storïau i gyfleu gwybodaeth gymhleth.
Ar ôl cwblhau’r gwaith ymchwil a datblygu roedd gennyf nifer o ganlyniadau.
Roeddwn yn gwybod bod arnom angen ymgyrch gwybodaeth i’r cyhoedd ac ymgyrch gwybodaeth addysg mewn ysgolion ac amgylcheddau addysg anffurfiol. At hynny, roeddwn wedi dechrau creu prototeip o becyn cymorth yn ymwneud â gweithio gyda phobl ifanc mewn rôl Cyd-grewyr. Hefyd, roeddwn yn gwybod bod angen i ni greu hyb democratiaeth ar gyfer cynnwys, sef siop un stop ar gyfer yr holl wybodaeth sydd ar gael fel ei bod mewn un lle ac yn hawdd i bawb ddod o hyd iddi a chael mynediad ati. Penderfynais roi’r enw The Democracy Box ar yr ymgyrch ymbarél, oherwydd, os ydym am lwyddo i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd presennol a chynyddu cyfranogiad democrataidd mewn modd ystyrlon a chynaliadwy, mae angen i ni esbonio ac ennyn diddordeb pobl mewn democratiaeth yn eang a thu hwnt i’r blwch pleidleisio.
Yna, gwnes gais llwyddiannus am £50,000 o gyllid Clwstwr i ddylunio prototeipiau.
Es yn ôl i weithio gyda'r bobl ifanc a recriwtio llawer mwy ohonynt i edrych ar y syniadau a'r adborth a ddeilliodd o'r cam cyntaf. Comisiynais rai ohonynt i archwilio a datblygu eu syniadau. Er enghraifft, roedd un o’r bobl wedi meddwl am y syniad o egluro democratiaeth trwy fideos canu a cherddoriaeth, felly fe’i comisiynais i greu pum fideo, Yn dilyn hynny, comisiynwyd pedwar ohonynt gan BBC Bitesize, ar ôl i’r Pennaeth Addysg ddod i un o fy sesiynau rhannu ar-lein.
Cafodd person ifanc arall y syniad o greu podlediad a fyddai’n cynnwys cyfweliadau chwim â chynrychiolwyr etholedig. Cafodd dau arall y syniad o greu podlediad o sgwrs rhwng cyfoedion, lle byddai un person ifanc yn gwybod ychydig mwy na’r llall, er mwyn iddynt ddysgu gyda’i gilydd. Felly fe’u comisiynais i gyfuno’r ddau syniad a chreu chwe phennod, gyda rhan gyntaf pob pennod yn sgwrs rhwng y bobl ifanc a'r ail ran yn gyfweliad chwim â chynrychiolydd.
Cyd-grëwr Ifanc a oedd yn astudio dylunio graffeg a greodd holl frandio The Democracy Box, gan ddylunio'r logo, y cynllun lliwiau a'r ffont. Darluniwyd y stori gan Gyd-grëwr Ifanc arall.
Ysgrifennais The Story of our UK Democracy That Everyone Should Know, in Seven Short Chapters.
Y gweithdy hwnnw a greais yn ôl yn 2017 sy’n sail iddo. Profais y stori gyda phobl ifanc a rhanddeiliaid gwahanol, a gofynnais i’r Comisiwn Etholiadol wirio’r ffeithiau. Mae hwn bellach yn sail i holl waith The Democracy Box. Mae'r Cyd-grewyr Ifanc yn brysur yn dod o hyd i ffyrdd creadigol o ailadrodd y stori hon a chynnal y prototeip hwn o ymgyrch gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws llwyfannau amlgyfrwng. O gerddoriaeth a phodlediadau, i’r cyfryngau cymdeithasol a YouTube. Mae hwn yn brototeip o ymgyrch gwybodaeth i’r cyhoedd gynaliadwy sydd â'r gynulleidfa darged yn greiddiol iddi yn Gyd-grewyr cyflogedig.
Gweithiais allan y lefelau gwahanol o wybodaeth i bleidleiswyr, eu diffinio ar ffurf pedair lefel o wybodaeth i bleidleiswyr, a gofyn i rywun eu darlunio. Rhannais hefyd yr wybodaeth y mae ar ddinasyddion/bleidleiswyr ei heisiau a'i hangen yn bedair lefel.
Mae Lefelau 1 a 2 yn cynnwys gwybodaeth i bleidleiswyr/ddinasyddion nad yw’n ymwneud yn benodol ag etholiadau. Mae Lefelau 3 a 4 yn cynnwys gwybodaeth i bleidleiswyr/ddinasyddion sy’n ymwneud yn benodol ag etholiadau.
- Lefel 1 yw ffocws The Democracy Box, Cyd-grewyr Ifanc a phob un o’r pedwar prototeip – sut i adrodd stori ein democratiaeth yn y DU fel bod pawb yn ei chlywed ac yn ei deall.
- Lefel 2 yw'r wybodaeth ffeithiol am yr holl bleidiau gwleidyddol nad yw’n ymwneud ag etholiadau. Eu hanes, eu gwerthoedd a’u hideolegau. Crynodeb sylfaenol o'r hyn y maent yn ei gynrychioli, a pham, ac sydd ar gael trwy gydol y flwyddyn – nid dim ond pan maent yn gofyn am eich pleidlais. Mae hyn yn rhywbeth y mae mwyafrif y bobl ifanc yr ydym wedi gwrando arnynt wedi gofyn amdano.
- Lefel 3 yw'r deunydd gweithdrefnol etholiadol y mae'r Comisiwn Etholiadol yn ei wneud mor dda. Sut a ble i bleidleisio. Sut i gofrestru, ble y mae eich gorsaf bleidleisio, llinellau amser etholiadau, sut i lenwi pleidlais bost neu gais am bleidlais trwy ddirprwy.
- Lefel 4 yw’r wybodaeth sy’n ymwneud yn benodol ag etholiadau pleidiau gwleidyddol. Yr wybodaeth a’r offer cymharol a dadansoddol y mae eu hangen ar bob dinesydd i benderfynu pwy i bleidleisio drosto, e.e. pwy yw'r ymgeiswyr a beth y maent yn addo ei wneud os cânt eu hethol. Maniffesto pob plaid wleidyddol. Yr hustyngau. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn gwybod beth yw ystyr y geiriau maniffesto a hustyngau. Yn y bôn, pwy yw'r ymgeiswyr, beth y maent yn addo ei wneud, a beth y maen nhw a'u pleidiau yn ei gynrychioli.
Lefelau 3 a 4 yw’r man lle treulir y rhan fwyaf o’r amser a’r man lle defnyddir y rhan fwyaf o’r egni, ffocws ac adnoddau, ond heb fuddsoddi yn sylfaen Lefel 1 (a Lefel 2 hefyd y byddwn yn dadlau) ni fyddwn byth yn newid y sefyllfa bresennol mewn gwirionedd, a bydd y nifer sy’n cofrestru i bleidleisio, y nifer sy’n mynd ati i bleidleisio, a chyfranogiad democrataidd yn gyffredinol yn parhau i fod yn isel neu, yn waeth byth, yn gostwng.
Roedd y bobl ifanc, a phawb yr oeddem wedi cwrdd â nhw yn The Talking Shop ac ym mhob grŵp ffocws a phob ymateb i’r arolwg yn teimlo y dylai’r wybodaeth yr oeddem yn ei rhannu gael ei haddysgu mewn ysgolion.
Felly, es ati i greu fersiwn o The Democracy Box y gellid ei defnyddio mewn lleoliadau addysgol. Fe'i gelwir yn rhaglen The Democracy Box Creative Cascade, ac yr wyf wedi ei threialu'n llwyddiannus mewn 15 o ysgolion mewn partneriaeth â Chonsortia Canolbarth y De, ac mae'n barod i'w chyflwyno ledled Cymru. Yn syml, mae’n golygu ein bod yn addysgu hanfodion ein democratiaeth yn y DU i’r athrawon gan ddefnyddio’r stori a’r holl gynnwys y mae’r Cyd-grewyr Ifanc eisoes wedi’i greu. Yna, trwy gyfres o bum sesiwn ar-lein, rydym yn cefnogi’r athrawon wrth iddynt rannu’r stori â’u myfyrwyr sy’n meddwl am ffyrdd creadigol o ailadrodd rhan o’r stori i’r disgyblion sydd flwyddyn yn iau, a hynny gyda chymorth pobl greadigol broffesiynol. Rydym hefyd yn eu cyflwyno i’r holl randdeiliaid eraill, o’r Comisiwn Etholiadol a thîm Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i dîm Ymgysylltu’r Senedd, a all wedyn gefnogi eu gwaith parhaus yn y maes hwn.
Yn ystod y cynllun peilot, arweiniodd yr ailadrodd at blant yn codio gemau fideo, yn gwneud sioeau pypedau, yn ysgrifennu caneuon a cherddi, yn creu darluniau ... ac yn rhaeadru'r stori o flwyddyn 11 i flwyddyn 2. Rhagorodd y cynllun peilot ar ein disgwyliadau o bell ffordd.
Rwy'n credu y gallwn newid y dyfodol gyda The Democracy Box
Fy namcaniaeth i yw, os caiff rhaglen The Democracy Box Creative Cascade ei chyflwyno ledled Cymru, lle caiff ei haddysgu i holl blant blwyddyn 11, ac yna ei hailadrodd yr holl ffordd i lawr at ddisgyblion blwyddyn 2, bydd pawb sy’n gadael yr ysgol ymhen 10 mlynedd yn deall hanfodion ein democratiaeth ac wedi meithrin eu harferion meddwl creadigol.
Aeth rhan olaf fy mhrosiect â mi yn ôl i'r man lle roeddwn wedi dechrau.
Dywedodd y Cyd-grewyr Ifanc wrthyf, yn ogystal â’r holl bobl ifanc a recriwtiais ar gyfer syniadau creadigol ychwanegol, eu bod am gael pwyntiau gwybodaeth wyneb yn wyneb. Roeddent yn dymuno cael mannau digidol ac wyneb yn wyneb i gael gwybodaeth, ac felly deuthum yn ôl, mewn cylch cyflawn, i The Talking Shop.
Rhoddais The Democracy Box y tu mewn ar y wal, ar y sgriniau ac mewn llyfrynnau dwyieithog y gallwch fynd â nhw gyda chi. Rwy’n hyfforddi pobl greadigol llawrydd a Chyd-grewyr Ifanc The Democracy Box i hwyluso The Talking Shop, ac yn parhau i recriwtio rhagor o Gyd-grewyr Ifanc o bob rhan o Gymru a hyfforddi’r Cyd-grewyr Ifanc hŷn i fod yn Gynhyrchwyr Cynorthwyol. Rwyf bellach wedi hyfforddi saith Cyd-grëwr Ifanc a dau unigolyn creadigol sy’n dod i’r amlwg i fod yn Gynhyrchwyr Cynorthwyol; rwyf wedi recriwtio a hyfforddi 32 o weithwyr creadigol llawrydd/Cyd-grewyr Ifanc i hwyluso The Talking Shop ac wedi recriwtio a hyfforddi 47 o Gyd-grewyr Ifanc.
Byddaf yn treialu The Talking Shop mewn trefi ledled Cymru hyd at haf 2023 er mwyn creu glasbrint ar gyfer defnyddio The Talking Shop a The Democracy Box yn fodelau ar gyfer sgwrs â’r genedl a chynnal trafodaeth ddemocrataidd greadigol a all gynyddu cyfranogiad democrataidd, a hynny wrth y blwch pleidleisio a’r tu hwnt iddo.
Rwy’n credu’n angerddol nad oes angen arian newydd i greu Talking Shop sy’n gynaliadwy ac yn hirdymor. Mae angen, yn hytrach, i randdeiliaid lluosog (ar draws adrannau awdurdodau lleol, ynghyd â sefydliadau diwylliannol, byrddau gwasanaethau cyhoeddus, byrddau partneriaeth rhanbarthol, a phartneriaid a chyd-weithwyr ychwanegol) ddod ynghyd a defnyddio eu hamryfal feysydd cyllidebol ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd, ymgysylltu, a chyfranogi mewn modd mwy cydgysylltiedig, creadigol ac effeithiol.
Mae The Talking Shop, ymgyrch gwybodaeth i’r cyhoedd The Democracy Box, ymgyrch addysg The Democracy Box a’r pecyn cymorth ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc sy’n Gyd-grewyr bron wedi’u cwblhau, eu profi a’u treialu yn llwyr.
Ar ôl cwblhau fy mhrototeipio a’r prawf o gysyniad yn haf 2023, bydd y pedwar prototeip yn barod i gael eu huwchraddio a'u cyflwyno. Erys y cwestiynau sut, a chan bwy? Yn ystod fy ngwaith ymchwil a datblygu a ariannwyd gan Clwstwr, dechreuais ystyried yr union beth hynny. Rwy'n credu'n sylfaenol y dylai'r gwaith hwn gael ei ariannu gan y wladwriaeth, ac edrychais ar dri sefydliad cyhoeddus sydd hyd braich o'r llywodraeth ac y mae’r gwaith hwn yn un o’u dibenion creiddiol. Drafftiais femorandwm cyd-ddealltwriaeth a chynigais i’r BBC, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a’r Comisiwn Etholiadol y dylent fod yn warcheidwaid modelau The Democracy Box/Talking Shop ac ymgorffori a datblygu’r gwaith ar y cyd. Ffurfiodd Omidaze bartneriaeth gyfreithiol â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a daeth yn bartner Llais Ieuenctid Cymru y Comisiwn Etholiadol. Rwyf ar hyn o bryd yn sgwrsio â chyd-weithwyr yn y BBC ac rwy’n dal i drafod a datblygu’r modd y gall modelau The Democracy Box/Talking Shop gael eu cyd-berchnogi a’u datblygu gan y tri sefydliad rhanddeiliad, neu ragor o bosibl.
Fy ngweledigaeth yw y gallaf gamu oddi wrth y gwaith yn raddol, a bod pobl ifanc sy'n dod i’r amlwg yn y mudiad yn gallu ei redeg. Os yw am lwyddo, mae angen iddo newid ac esblygu'n barhaus. Bydd y llwyfannau yr ydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd wedi darfod ac yn cael eu disodli gan dueddiadau a thechnoleg newydd yn ystod fy oes, a’r unig ffordd y gallwn greu model cynaliadwy yw sicrhau bod pobl ifanc 16-26 oed yn cael eu recriwtio, eu hyfforddi a’u talu’n gyson mewn rôl Cyd-grewyr.
Roedd y gefnogaeth a gefais gan Clwstwr yn anhygoel ac yn llawer mwy na chyllid yn unig.
Darparodd y rhaglen gyfleoedd a dysg anhygoel, gan fy ngalluogi i feithrin cynghreiriau annhebygol, a chreu cydweithrediadau, partneriaethau a rhwydweithiau newydd anhygoel. Mae’n anodd mesur pa mor bwysig y mae Clwstwr wedi bod i mi, a hynny’n broffesiynol ac yn bersonol. Roedd tîm Clwstwr yn gwbl gefnogol ac roeddent ar gael (ac maent yn dal i fod ar gael) i'm cynorthwyo ar bob cam o'm taith ymchwil a datblygu, ac yn fy rôl o fod yn artist llawrydd ac yn ymarferydd creadigol. Mae hynny’n amhrisiadwy.