Hei Jonny! Sut fyddech chi'n disgrifio eich hun a beth rydych chi'n ei wneud?
Rwy'n wneuthurwr ffilmiau dogfen, ond roedd fy hyfforddiant mewn pensaernïaeth. Mae fy musnes yn dod â'r ddwy agwedd ar fy mhrofiad proffesiynol at ei gilydd. Mae'n gwneud hyn drwy adrodd straeon difyr am gynllun y lleoedd a'r gofodau o'n cwmpas trwy wahanol fformatau cyfryngol, gan gynnwys ffilm, animeiddio a phodlediadau.
Sut daethoch chi i wybod am gyllid Clwstwr?
Clywais i am gyllid Clwstwr drwy rwydwaith Caerdydd Creadigol nôl ar ddechrau 2020. Cysylltais â'r tîm a chefais wahoddiad am sgwrs, lle esboniodd rhywun i fi sut mae Clwstwr yn gweithio.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i wneud cais am gyllid?
Roeddwn i wastad wedi mwynhau prosiectau ffilm oedd yn cynnwys yr amgylchedd adeiledig, ond cyn Clwstwr, doeddwn i ddim wedi meddwl symud i'r cyfeiriad penodol hwn. Pan gododd cyfle am gyllid, roeddwn i'n gwybod y gallai fod yn fan cychwyn gwych i archwilio sut y gallwn wneud y gwaith hwn, mewn ffordd drylwyr a thrwyadl.
Esboniwch yr hyn yr oeddech yn bwriadu ei wneud yn eich cais
Y ffordd y trodd fy syniad annelwig yn nod canolog oedd drwy ddatblygu cwestiwn allweddol y byddai'r ymchwil yn ceisio ei ateb, sef: Sut allwn ni ennyn diddordeb pobl yn well yn y prosesau a'r syniadau sy'n siapio'r lleoedd a'r gofodau o'n cwmpas?
Trwy lunio'r cwestiwn hwn fel y man cychwyn, nid yn unig roedd yn helpu i ganolbwyntio'r ymchwil ond hefyd yn ei hagor. Gorfododd fi i feddwl y tu hwnt i adrodd straeon amlgyfrwng confensiynol drwy ddechrau gydag archwilio'r cwestiwn a gweld i ble'r oedd yn arwain. Dros ddau gylch cyllido, derbyniais tua £15,000.
Pa broses ddefnyddioch chi i gyflawni eich prosiect Clwstwr, cam wrth gam?
Defnyddiais i'r model datblygu dylunio diemwnt dwbl, y cyflwynwyd fi iddo gan dîm cymorth Clwstwr a PDR. Siapiodd y model hwn yr holl broses i bob pwrpas.
Y cam cyntaf oedd darganfod pa mor fawr oedd y broblem yr oeddwn wedi'i nodi yn fy nghwestiwn ymchwil, h.y. a oedd yn broblem o gwbl. Felly, roedd y cam hwn yn golygu mynd allan a siarad â phobl ym mhroffesiwn pensaernïaeth a'r amgylchedd adeiledig, yn ogystal â phobl y tu allan i'r proffesiwn. Roeddwn i'n ceisio darganfod a oedd yna ddiffyg pobl yn ymgysylltu â'r sector, ac os felly, pam.
Y cam nesaf oedd cymryd y canfyddiadau hyn a chategoreiddio a chrynhoi'r pwyntiau allweddol, a allai fod yn fan cychwyn ar gyfer cynllunio rhyw fath o ddatrysiad. Cynigiais rai datrysiadau gwahanol, a thrwy broses o ailadrodd a phrototeipio sylfaenol iawn, eu mireinio i greu un datrysiad posibl. Adeiladwyd yr un datrysiad hwn, a oedd ar y pryd ar ffurf platfform digidol lle gallai pobl rannu eu straeon eu hunain am y lleoedd o'u cwmpas, fel math o efelychiad, fel bod gennych ymdeimlad o sut y byddai lle yn edrych ac yn teimlo. Hwn oedd y cam olaf yn y cylch cyllido cyntaf.
Dechreuodd yr ail gylch gyda'r prototeip hwn. Fe'i cyflwynais i'r holl bobl roeddwn i wedi cysylltu â nhw ar ddechrau'r prosiect. Roedd hon yn broses adborth ddefnyddiol dros ben, oedd yn nodi’r hyn oedd ar goll yn ogystal â'r hyn oedd yn ddiangen. Arweiniodd hyn at gyfnodau pellach o fireinio a phrofi, a arweiniodd yn y pen draw at fy nghynnig presennol: cyfres aml-blatfform o gynnwys yn canolbwyntio ar y syniad o gartref o'r enw 'The Block', a'r syniad o'i chwmpas yw adeiladu cymuned ddigidol lle gall pobl rannu eu straeon eu hunain am y lleoedd o'u cwmpas.
Beth fyddech chi'n ei ddweud oedd prif ganlyniadau'r ymchwil a datblygu?
Erbyn hyn mae gen i syniad clir o gynnyrch allweddol, The Block, i adeiladu fy musnes o'i gwmpas. Ar ben hynny, mae mor ddefnyddiol fy mod wedi bod trwy broses drylwyr o ymchwil a datblygu. Mae gwybod sut i wneud hynny yn amhrisiadwy, ac mae'r meddwl yn rhywbeth rwy'n ei gymhwyso i'm gwaith drwy'r amser nawr.
Beth ydych chi'n meddwl fydd eich cam nesaf, yn dilyn y gwaith ymchwil a datblygu?
Rwy'n gobeithio parhau i adeiladu fy musnes yn y sector hwn, yn ogystal â pharhau i gynhyrchu 'The Block', sydd ar hyn o bryd yn y cyfnod peilot. Rwy'n gobeithio parhau i agor y sectorau pensaernïaeth a chreu lleoedd o ran cyfleoedd i adrodd straeon er mwyn ennyn diddordeb mwy o bobl yn y pynciau diddorol hyn.