Helo Matt. Sut fyddech chi'n disgrifio'ch busnes a’r hyn mae'n ei wneud?
Busnes dylunio cynhyrchu, ymgynghori a rhentu yw SR Production Services sy'n gweithredu yn y sectorau digwyddiadau byw, ffilm a theledu. Rydym ni'n datrys problemau technegol ar gyfer pob math o gynyrchiadau ac yn helpu i drosi syniadau creadigol yn realiti.
Sut clywsoch chi am gyllid Clwstwr?
Roeddem ni'n edrych ar opsiynau amrywiol i helpu i ariannu rhywfaint o ymchwil a datblygu mwy arbrofol ac fe ymddangosodd hwn.
Beth ysbrydolodd chi i wneud cais am gyllid?
Roedd gan fy nghydweithiwr Stacia syniad am osodwaith trochol fyddai angen rhywfaint o dechnoleg nad oedd yn bodoli ar ffurf hygyrch. Doedd y prosiect ddim yn cyd-fynd yn llwyr â chylch gwaith ein gweithgareddau busnes arferol, felly roedd angen edrych y tu allan i'r busnes am gymorth i'w wireddu.
Esboniwch yr hyn roeddech yn bwriadu ei wneud yn eich cais
Roedd dau brif ffactor yn llywio'r cais. Un oedd helpu i greu gosodwaith trochol fyddai'n ddiddorol ac yn gyffrous i gynulleidfaoedd ei brofi. Y llall oedd datblygu technoleg y gellid ei defnyddio i helpu i greu profiadau tebyg yn y dyfodol, yn ogystal â darparu adnoddau ehangach i'r busnes mewn sectorau cysylltiedig eraill. Cawsom £30,000 o gyllid gan Clwstwr.
Disgrifiwch y broses rydych chi wedi bod drwyddi ers derbyn y cyllid
Yn fras, dechreuon ni ar y broses gyda syniad am osodwaith a chysyniad bras o sut y byddai'n gweithio. O fewn yr ychydig fisoedd cyntaf datblygwyd gosodwaith prawf o gysyniad, ac ni weithiodd o gwbl. Canlyniad ymchwil a datblygu safonol!
Felly cymeron ni gam yn ôl a chanolbwyntio ar yr elfennau oedd yn ein rhwystro rhag llwyddo. Rhwystrau technolegol oedd y rhain, heb unrhyw ddatrysiad parod ar gael. Yn gryno, roedd y rhwystrau yn ein hatal rhag creu a) ffordd i chwarae cynnwys fideo oedi isel, rhyngweithiol, wedi'i yrru gan gynulleidfa ar nifer fawr o sgriniau a b) ffordd hawdd o aseinio araeau mawr o fewnbynnau ffisegol i allbynnau meddalwedd mympwyol, gan ddefnyddio protocol cyfathrebu cyffredin ac mewn ffordd ddeallus y byddai modd ei hehangu.
Penderfynwyd mai'r dull gorau fyddai canolbwyntio ar ddatrys y problemau hyn mewn ffordd a fyddai'n rhoi datrysiad cyffredinol i ni y gellid ei gymhwyso i lawer o brosiectau, yn hytrach na dull unllygeidiog o ddatrys yn canolbwyntio ar gyd-destun y gosodwaith yn unig.
Treuliwyd y rhan fwyaf o weddill y prosiect yn gweithio ar y problemau hyn, ac yn y pen draw sefydlwyd dwy system y gallwn bellach eu darparu fel gwasanaethau. Y gobaith yw y bydd y rhain yn y dyfodol yn dod yn gynhyrchion masnachol hyfyw y gallwn eu gwerthu ar eu pen eu hunain.
Yn olaf, daethom ni'n ôl i'r dechrau a chreu ail fersiwn o'r gosodwaith, gan ddefnyddio'r dechnoleg a ddatblygwyd a'r sgiliau a ddysgwyd. Roedd y fersiwn hwn yn gweithio'n llawer gwell ac roedd yn bosibl i ni deithio i'w gyflwyno i gynulleidfaoedd, yn fwyaf arbennig yng Ngŵyl Glastonbury.
Beth fyddech chi'n ei ddweud oedd prif ganlyniadau'r ymchwil a datblygu?
Y canlyniad allweddol yn bendant oedd y dechnoleg sylfaenol a ddatblygwyd. Mae'n werth nodi'n arbennig y system dosbarthu a chwarae fideo rhwydwaith a grëwyd gennym ar gyfer gosod cynnwys y stori ar y sgriniau. Rydym ni wedi parhau i adeiladu ar y system hon ac yn ei ffurf bresennol (a enwir bellach yn Rhwydwaith Thrall), mae'n gyrru pob sgrin ar-set ar gyfer sawl cynhyrchiad teledu safon uchel, gan gynnwys cyfres ddiweddaraf Doctor Who.
Helpodd y broses ni hefyd i ddysgu sut i wneud ymchwil a datblygu, sy'n amlwg os ydych chi'n meddwl am y peth, ond roedd yr adnoddau, y cyngor a'r hyfforddiant oedd ar gael i ni'n amhrisiadwy wrth ffurfioli'r hyn sydd wastad wedi bod yn broses lac braidd. Mae wedi newid ein hagwedd at ymchwil a datblygu creadigol yn llwyr er gwell a bydd yn arwain at fwy o ffocws a safon uwch o gynnyrch.
I ble'r ewch chi nesaf, yn dilyn y gwaith ymchwil a datblygu?
Mae pethau eisoes wedi newid ychydig i ni, o ran ein prosesau mewnol a'r dechnoleg a'r gwasanaethau y gallwn ni eu cynnig i'n cleientiaid. Wrth symud ymlaen, y gobaith yw cydweithio gyda mwy o artistiaid yn y gofod trochol a defnyddio'r wybodaeth a'r profiad rydym wedi'i ennill i helpu i ddarparu gosodweithiau mwy o faint a mwy uchelgeisiol, yn lleol yng Nghymru a thu hwnt.