Helo Owain. Sut fyddech chi'n disgrifio'ch busnes a’r hyn mae'n ei wneud?
Mae Golwg Cyf yn gwmni cyfryngau iaith Gymraeg sydd wedi hen ennill ei blwyf. Rydym yn cynhyrchu’r cyhoeddiadau print hyn: Golwg (cylchgrawn newyddion a materion cyfoes wythnosol), Lingo Newydd (ein cylchgrawn deufisol ar gyfer dysgwyr) ac Wcw a'i Ffrindiau (cylchgrawn ysgafn ar gyfer plant 3-7 oed).
Mae gennym hefyd wasanaeth newyddion a materion cyfoes digidol di-dor o’r enw Golwg360 ac yn ddiweddar rydym wedi datblygu rhwydwaith o wefannau newyddion sy’n lleol i fröydd drwy’r prosiect bro360.
Sut glywsoch chi am gyllid Clwstwr?
Cawsom wybod amdano ar lafar yn bennaf a thrwy gysylltiadau yn y diwydiant.
Beth a’ch ysbrydolodd chi i wneud cais am gyllid?
Roedd gennym brosiect penodol mewn golwg, ac roeddem am arbrofi ag o. Unwaith i ni ddysgu ynghylch y gronfa, roeddem yn meddwl y byddai swm y cyllid a’r gefnogaeth oedd yn cael ei gynnig gan y prosiect yn rhoi’r cyfle perffaith i ni.
Esboniwch yr hyn roeddech yn bwriadu ei wneud o ran eich cais
Bwriad y prosiect oedd arbrofi gyda datblygu gwasanaeth fyddai’n targedu cynulleidfa benodol iawn, sef platfform ar gyfer pobl ifanc fyddai’n rhoi’r cyfle iddynt ddysgu am wleidyddiaeth Cymru a’i thrafod, ac a fyddai’n ennyn eu diddordeb yn y pwnc. Roeddem am wneud rhywfaint o ymchwil i’r farchnad i weld pa ffurf oedd orau gan y gynulleidfa ar gyfer y cynnwys yr oeddem yn ei greu, yna arbrofi o ran creu’r cynnwys hwnnw. Cawsom £10,000 o gyllid Clwstwr i gyflawni hyn.
Disgrifiwch y broses rydych chi wedi bod drwyddi ers derbyn y cyllid
Roedd ein prosiect yn un penodol iawn o ran amser gan fod etholiadau’r Senedd ar ddod ar y pryd, felly bu’n rhaid i ni fwrw ati â chyflawni’r gwaith yn syth. Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu platfform cyfrwng Cymraeg ar gyfer pobl ifanc, â’r nod o helpu i bontio’r diffyg democrataidd. Roeddem am gyflawni hyn drwy greu platfform a gwasanaeth newydd yn ymwneud â democratiaeth a fyddai’n rhoi llais i nifer o bobl nad oeddent yn cael eu clywed yn y cyd-destun hwn.
Fe wnaethom ni lawer o ymchwil mewn amser byr, gan anelu at gyrraedd ystod mor eang â phosibl o bobl. Buom yn gweithio'n agos gydag ysgolion i wneud hynny, ac i sicrhau bod cymaint o amrywiaeth â phosibl ymhlith y grwpiau ffocws. Y grwpiau ffocws oedd yn ei arwain o ran y cyfeiriad roedd y prosiect yn mynd iddo, ac o ran pennu ar y math o blatfform y byddem yn ei gynnig. Roedd nifer o bobl ifanc o'r grwpiau ffocws yn rhan o’r gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth hwnnw y bu inni ei ddarparu yn ystod yr etholiad.
Beth fyddech chi'n ei ddweud oedd prif ganlyniadau'r ymchwil a datblygu?
Y prif ganlyniad oedd ein bod yn gallu ymgysylltu’n llwyddiannus â chynulleidfa darged benodol a gweithio gyda nhw ar gyflwyno cynnwys perthnasol a oedd yn apelio at eu cyfoedion.
Ers i’r prosiect ddod i ben, rydym wedi adolygu canlyniadau’r prosiect yn barhaus wrth wneud cynlluniau ar gyfer cyflwyno ein cynnwys ac yn sicr wedi dysgu llawer yn sgîl y broses. Mae wedi helpu i lywio’n cynlluniau ar gyfer ein platfform yn y dyfodol, yn enwedig wrth gyflwyno cynnwys gwleidyddol a materion cyfoes i gynulleidfaoedd iau.