Helo Derick. Sut fyddech chi'n disgrifio Galactig? Mae Galactig, sy'n rhan o grŵp Rondo Media, yn cynhyrchu profiadau digidol dwyieithog o ansawdd uchel. Ei nod yw dod o hyd i ffyrdd o ddod â negeseuon neu straeon cleientiaid yn fyw, gan weithio'n agos mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Wedi'i sbarduno gan syniadau mawr, mae arloesedd yn rhan o'i DNA; mae'n cofleidio technolegau newydd, fel realiti estynedig a dysgu ymdrwythol.
Sut clywsoch chi am gyllid Clwstwr?
Roeddem yn ymwybodol o’r cais Clystyrau Creadigol i Gymru ac yn gwylio gyda diddordeb am gyfleoedd i ymgysylltu.
Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i wneud cais am gyllid?
Cawsom ein hysbrydoli gan y posibilrwydd o roi cynnig ar rywbeth newydd. Mae prosiectau ymchwil a datblygu yn rhoi cyfleoedd i ni fethu; mae hyn yn allweddol i wthio ffiniau technoleg newydd.
Esboniwch yr hyn roeddech yn bwriadu ei wneud yn eich cais
Galactig yw cangen dechnoleg Rondo Media, felly roeddem am archwilio synergedd o ddisgyblaethau rhwng ein gwaith ni a’r teledu. Mae'n bwysig, gydag ymchwil a datblygu, i ddechrau gyda chwestiwn. Gydag Ysglyfaethwyr y Gofod (ein prosiect Clwstwr), ein man cychwyn oedd: sut allwn ni gynhyrchu sioe gêm ar y teledu i bobl ifanc sy'n ymgorffori'r technolegau realiti rhithwir diweddaraf?
Faint o gyllid gawsoch chi?
Cawsom £41,000 gan Clwstwr, gydag £20,000 ychwanegol gan S4C. Gyda hynny, rydym wedi gosod nod i gynhyrchu peilot sy'n barod i’w ddarlledu ar gyfer S4C yn Gymraeg, gan gynhyrchu peilot Saesneg ar hyd y ffordd i brofi a mireinio ein llif gwaith yn llawn.
Disgrifiwch y broses rydych chi wedi bod drwyddi ers derbyn y cyllid
Gwnaethom dreulio misoedd lawer yn adeiladu amgylcheddau 3D prototeip ac yn profi ein dull o ran ffilmio aml-realiti. Roedd ein dull yn unigryw; fe wnaethom ddatblygu datrysiad pwrpasol i ddarparu rendrau o ansawdd darlledu gyda delweddau byw yn deillio o gêm-chwarae realiti rhithwir Meta Quest. Fe wnaethom hefyd ddefnyddio'r amser hwn i ddatblygu curiadau naratif a gêm-chwarae.
Mae ffilmio realiti cymysg gyda thracio, camerâu sy’n symud ac integreiddio di-dor â byd gêm rhyngweithiol yn hynod heriol. Mae’r angen i ni ddefnyddio dwy system ar wahân - Quest a Vive - wedi ychwanegu ymhellach at ein gorbenion datblygu.
Yn yr un modd â'r sector creadigol cyfan, cawsom ein heffeithio'n fawr gan y pandemig byd-eang. Effeithiodd hyn yn aruthrol ar ein hamserlen a'n gallu i weithio yn y stiwdio. Oherwydd ymbellhau cymdeithasol, roedd yn rhaid i ni ailfeddwl rhywfaint o'n gêm-chwarae gwreiddiol. Fodd bynnag, arweiniodd hyn at brofiad gwylio gwell i'r gynulleidfa.
Roedd cam olaf ein prosiect yn cynnwys cyfuno delweddau rhithwir (gan fod pob un o'n setiau yn rhithwir) gyda delweddau gemio byw yn y golygiad i gynhyrchu ein cynlluniau peilot.
Beth fyddech chi'n ei ddweud oedd prif ganlyniadau'r ymchwil a datblygu?
Mae Ysglyfaethwyr y Gofod yn fformat gwreiddiol newydd sbon ar gyfer y teledu sy’n defnyddio technolegau realiti rhithwir arloesol. Gwnaeth y cyllid hwn ein galluogi i ddangos hyfywedd masnachol y cynnig hwn. Rydym wedi llwyddo i gynhyrchu peilot Saesneg a pheilot Cymraeg sy'n barod i’w ddarlledu ar gyfer ein cyd-gyllidwyr, S4C. Mae'n gyflawniad enfawr, o ystyried natur flaengar ein cynnig ymchwil a datblygu. Rydym wedi datblygu IP gwreiddiol a phrosesau arloesol o amgylch integreiddio gêm-chwarae realiti rhithwir a ffilmio realiti cymysg.
I ble'r ewch chi nesaf, yn dilyn y gwaith ymchwil a datblygu?
Mae sioeau gêm gwych yn ddrud. Mae'r Crystal Maze, er enghraifft, yn meddiannu 32,500 troedfedd sgwâr o ofod gyda thîm o 136 o staff cynhyrchu. Mae Galactig a Rondo yn awyddus i gomisiynu cyfres lawn o Ysglyfaethwyr y Gofod. Rydym wedi cyfuno llawer o wahanol dechnoleg - realiti rhithwir, realiti cymysg, technegau ffilmio newydd - i'r hyn a fydd yn y pen draw yn ddatrysiad cost isel.
Trwy ddefnyddio realiti rhithwir, gwnaethom leihau'r costau dan sylw yn aruthrol tra’n creu profiad teledu cyffrous. Mae’r gost o greu amgylcheddau 3D ymdrwythol enfawr o gymharu ag adeiladu set ffisegol yn ddim ond un maes lle arbedwyd costau. Rydym yn gallu creu byd gêm na fyddai'n ymarferol - na’n ddiogel - gyda dulliau traddodiadol.