Heddiw bydd dau glwstwr cyfryngau sy'n tyfu'n gyflym - Clwstwr yng Nghaerdydd a Media City yn Bergen - yn lansio partneriaeth fydd yn cysylltu'r ddau glwstwr.

Bydd Clwstwr a Media City Bergen yn cydweithio ar amrywiol weithgareddau ar y cyd i gysylltu pobl greadigol a busnesau cyfryngau yn y ddau ranbarth i rannu sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth.

Cysylltodd y clystyrau oherwydd eu cryfderau cyffredin a chyflenwol ar ôl cyfarfod am y tro cyntaf yng Nghaerdydd yn 2019. Mae Clwstwr Cyfryngau Norwy yn arwain y byd mewn realiti estynedig, graffeg, deallusrwydd artiffisial, stiwdios rhithwir, fideo darlledu ac IP, roboteg ac offer ar gyfer llif gwaith ac adrodd straeon digidol. Mae clwstwr cyfryngau de Cymru'n seiliedig ar bresenoldeb sylweddol darlledwyr y DU yn y rhanbarth, ynghyd â stiwdios mawr, a sector cynhyrchu annibynnol cryf sy'n allforio cynnwys gwerth uchel i farchnadoedd byd-eang.

Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Clwstwr: “Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda Media City Bergen, ac yn llawn cyffro am y cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd. Mae gennym feysydd diddordeb cyffredin - fel y newyddion a defnyddio'r cyfryngau i wella democratiaeth - yn ogystal â meysydd arbenigedd sy'n ategu ei gilydd, felly rydyn ni'n gweld potensial mawr ar gyfer cydweithio rhwng cwmnïau Cymru a Norwy wrth i ni ddod at ein gilydd i weithio."

Dywedodd Anne Jacobsen, Prif Swyddog Gweithredol, Media City Bergen: "Rydyn ni'n edrych ymlaen at gydweithio'n agos gyda Clwstwr. Ers i ni ymweld â Chaerdydd, rydyn ni wedi bod yn awyddus i sefydlu partneriaeth hirdymor gyda strwythur, oherwydd rydyn ni'n gweld llawer o synergeddau a meysydd diddordeb cyffredin rhwng y ddau glwstwr arloesi. Edrychwn ymlaen at gydweithio ar yr heriau a'r cyfleoedd yn niwydiant y cyfryngau ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y cyfle i ddysgu oddi wrth ein chwaer glwstwr yng Nghymru."

Mae Media City Bergen yn gweithio i rymuso straeon pwysig, sicrhau poblogaeth wybodus, a chryfhau democratiaeth. Eu nod yw cynnal democratiaeth trwy sbarduno datblygiad technoleg ar gyfer defnyddio gwybodaeth defnyddwyr, gwella adrodd straeon digidol a newyddiaduraeth ddigidol, a defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y frwydr yn erbyn camwybodaeth a newyddion ffug.

Mae Clwstwr wedi ymateb i'r dirywiad dramatig yn y ffordd mae pobl dan 35 oed yn ymwneud â newyddiaduraeth ddibynadwy a'r gymysgedd ddilynol o wybodaeth sy'n cyfuno ffynonellau credadwy ac annibynadwy drwy gyllido syniadau sy'n datblygu genres newydd o gyflwyno gwybodaeth gyda ffocws ar ddata a thechnolegau neu lwyfannau newydd sy'n gwella'r model busnes ar gyfer newyddion er budd y cyhoedd.

 

Ar 16 Mawrth cynhaliodd Clwstwr a Media City Bergen ddigwyddiad ar - lein ar y cyd, i lansio eu partneriaeth.

Roedd y siaradwyr canlynol yn y digwyddiad:  

  • Shirish Kulkarni o Monnow Media sydd wedi bod yn ymchwilio, creu a phrofi technegau adrodd straeon newydd a dychmygus gyda Clwstwr ers 2019, gan arwain at Saith Bloc Adeiladu Newyddiaduraeth Fyfyriol.
  • Cyflwynwyd Yvonne Murphy o OmiDaze Productions, o Gymru, hefyd yn y digwyddiad. Nod ei phrosiect ymchwil a datblygu gwleidyddol niwtral ac amhleidiol dros flwyddyn gyda Clwstwr, Blwch Democratiaeth: Ffyrdd Newydd i greu cyfranogiad democrataidd, yw cyflwyno prototeip o ymagwedd at ymgysylltu sifig y gellir ei datblygu a'i hefelychu ar draws y DU.
  • O Bergen clywsom gan Maria Amelie, cyd-sylfaenydd Factiverse. Mae Factiverse yn awtomeiddio canfod camwybodaeth gydag AI ac NLP blaengar. Mae eu datrysiad patent yn helpu newyddiadurwyr a golygyddion i wirio'r newyddion a nodi honiadau sydd angen eu gwirio'n awtomatig, sy'n arbed amser ac adnoddau ac yn atal lledaeniad camwybodaeth ymhellach. Mae technoleg Factiverse yn seiliedig ar ymchwil y sylfaenydd Vinay Setty o Brifysgol Stavanger, Norwy, lle mae'n Athro Cysylltiol mewn Dysgu Peiriant. 
  • Dysgon ni hefyd mwy am Web64 gan y sylfaenydd Olav Hjertåker. Nod Web64 yw defnyddio data i ddeall y byd yn well. Trwy fonitro pa gynnwys sy'n cael ei gyhoeddi, pwy sy'n ei rannu, a ble y caiff ei rannu, gallwn ddarparu offer i gwmnïau cyfryngau, pleidiau gwleidyddol, sefydliadau'r llywodraeth, ac ymchwilwyr lle maen nhw'n cael cipolwg ar y ffordd mae tirwedd y cyfryngau’n newid a beth sy'n achosi'r newidiadau.