Mae'r Briff Polisi hwn wedi'i lunio ar sail canfyddiadau prosiect ymchwil a datblygu a gyllidwyd gan Clwstwr, Adrodd y Newyddion drwy Newyddiaduraeth Fodiwlaidd, ac yn cyflwyno saith bloc adeiladu newyddiaduraeth fyfyriol.

Mae data a gasglwyd mewn cyfweliadau, grwpiau ffocws ac wrth ddatblygu prototeipiau arloesol - a brofwyd yn helaeth gan dros 1000 o aelodau'r gynulleidfa - yn awgrymu sawl ffordd newydd o adrodd straeon naratif sy'n dangos y ffordd at fathau mwy effeithiol o newyddion.

Drwy ganolbwyntio ar gynnwys sy’n wirioneddol ddefnyddiol i ddarllenwyr a gwylwyr, gan ddefnyddio naratifau llinol, cynnig cyd-destun ehangach, a rhoi mwy o rym i ddefnyddwyr o ran y ffordd maen nhw’n ymgysylltu â straeon, daw’n amlwg ei bod yn bosib darparu newyddion y mae modd ymddiried ynddo, sy’n addysgiadol, ac sy’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd o bob demograffeg.

Prif awdur yr adroddiad yw'r newyddiadurwr Shirish Kulkarni, sydd hefyd wedi bod yn ymchwilio ac yn datblygu Adrodd y Newyddion drwy Newyddiaduraeth Fodiwlaidd fel ffocws i'w brosiect Clwstwr ers mis Medi 2019.

Dywedodd Shirish: “Mae'r diwydiant newyddiaduraeth yn wynebu nifer o heriau dirfodol sy'n cyd-gysylltu ac sydd angen ymatebion radical. Mae ein hymchwil ar adrodd straeon yn darparu tystiolaeth glir y gall newid y meddylfryd newyddiadurol i ganolbwyntio'n gliriach ar anghenion gwybodaeth dinasyddion gael effaith ddramatig.

"Drwy ailgysylltu â diben sylfaenol newyddiaduraeth, a defnyddio'r ystod lawn o offer digidol sydd ar gael i ni, mae'n bosibl cynhyrchu straeon newyddion sy'n fwy addysgiadol, yn fwy difyr ac yn fwy effeithlon. I newyddiadurwyr, i ystafelloedd newyddion ac - yn bwysicaf oll - i ddinasyddion, mae hyn yn fantais enfawr."

Gallwch lawrlwytho'r adroddiad llawn yma: 

Awduron yr adroddiad ymchwil hwn: 

 

Headshot of Shirish Kulkarni

Shirish Kulkarni

Marlen Komorowski

Dr Marlen Komorowski, Dadansoddydd Effaith

Professor Justin Lewis

Yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr

Headshot of Dr Richard Thomas

Dr Richard Thomas