Nod y Prosiect

Mae Yvonne Murphy (sef Omidaze Production) yn Ymgynghorydd, Cyfarwyddwr Theatr a Chynhyrchydd llawrydd ac yn ymgyrchydd gwleidyddol a chelfyddydol. Bydd ei phrosiect yn gweithio gyda phobl ifanc 16-24 oed, gan gynnwys y sawl o etholaethau lle mae niferoedd isel yn pleidleisio, i gyd-greu a churadu ffurfiau newydd o gyfranogi mewn democratiaeth.

Bydd Yvonne yn parhau i ddatblygu’r gwaith amhleidiol hwn i etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2021, gyda’r nod o greu dull prototeip o sicrhau ymgysylltu dinesig y gellir ei ddatblygu a’i ddyblygu ar draws y DU.

[fideo Saesneg]