Dyfarnu £90,000 i weithwyr llawrydd yn y garfan Sbarduno Clwstwr gyntaf

Yn dilyn labordy syniadau deuddydd, mae carfan gyntaf Clwstwr o brosiectau sbarduno wedi'u dewis. Bydd y gweithwyr llawrydd a micro-fusnesau'n gweithio gydag arbenigwyr o'r diwydiant ac academyddion i ddatblygu eu syniadau dros gyfnod o dri mis.

Mae carfan sbarduno gyntaf Clwstwr yn cynnwys arloesiadau fydd nid yn unig yn gwella'r diwydiannau sgrin a newyddion, ond a allai hefyd wella cynaladwyedd, twristiaeth, cyfranogi mewn democratiaeth a mynegiant creadigol. Mae'r prosiectau'n cynnwys profiad Dirgelwch Llofruddiaeth Realiti Estynedig, a Ffilm 360 gradd ar gyfer perfformiad byw. 

Bydd y garfan yn ymchwilio ac yn datblygu syniadau yn cynnwys sut i ddweud straeon hanes diweddar Cymru, sut i ennyn diddordeb pobl 16-24 oed yn y broses ddemocrataidd a sut gall technoleg sgrin ddod â haenau newydd o berfformio i bodlediadau.

Yn ôl cyfarwyddwr Clwstwr, yr Athro Justin Lewis: "Mae ein Labordy Syniadau Clwstwr cyntaf wedi arwain at fuddsoddiad gan y rhaglen mewn naw o bobl dalentog fydd nawr yn gallu datblygu syniadau arloesol.

"Mae ein carfan newydd yn fynegiant o ehangder a photensial creadigol. Mae gennym ni arbenigydd mewn ynni cynaliadwy/trefnydd gŵyl gerddorol, awdur/cyfarwyddwr/gwneuthurwr ffilm, un o brif awduron Cymru, cynhyrchydd podlediadau, gwneuthurwr ffilmiau arbrofol, cerddor o fri rhyngwladol, entrepreneur addawol yn yr economi profiad newydd, cyfarwyddwr gŵyl animeiddio a chyfarwyddwr theatr.

Mae'n grŵp gwych, llawn ymrwymiad, dyfeisgarwch ac egni a gallaf i ddim aros i weld eu harloesi'n datblygu.

Meddai Lauren Orme, Cyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Caerdydd ac aelod o garfan sbarduno gyntaf Clwstwr: “Dwi’n falch iawn o gael gweithio gyda Clwstwr ar brosiect ymchwil a datblygu sy’n ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol ym maes animeiddio. Mae cael y cyfle i dreulio amser yn archwilio rhywbeth sy’n golygu cymaint i mi yn gyffrous dros ben.

“Mae Clwstwr wedi gwneud eu gorau i gael gwared ar rwystrau fel bod llawryddion a microfusnesau yn gallu manteisio ar eu cymorth. Ar ôl treulio ambell ddiwrnod gyda gweddill y garfan, dwi’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu fy mhrosiect ochr yn ochr â rhai unigolion ysbrydoledig sy’n gweithio ar syniadau gwirioneddol ddiddorol.

“Mae diffyg darpariaeth benodol yn aml yn broblem yn y sector animeiddio – rydw i wedi gweld hyn drwy redeg cwmni cynhyrchu animeiddio yn ogystal â gŵyl animeiddio. Trwy fy mhrosiect Clwstwr dwi’n gobeithio y medraf helpu cwmnïau eraill fel fy un i i ddatblygu ymagweddau newydd o wneud gwaith cynhyrchu animeiddiadau yn fwy gwyrdd.”

Dyma'r prosiectau Clwstwr sydd wedi eu hariannu gyntaf:

Mi fydd modd cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer Galwad Agored nesaf Clwstwr o ddydd Mercher, 1 Ebrill 2020. Tanysgrifiwch i e-gylchlythyr Clwstwr er mwyn derbyn diweddariadau a chael gwybod pan fydd yr alwad yn fyw.