Yr Ymgynghorydd Llawrydd, Cyfarwyddwr Theatr, Cynhyrchydd ac actifydd gwleidyddol a chelfyddydau Yvonne Murphy sy'n rhannu mwy am ei phrosiect Ymchwil a Datblygu Clwstwr y Blwch Democratiaeth.

Prosiect ymchwil a datblygu gwleidyddol di-blaid a niwtral yn wleidyddol dros flwyddyn o amser yw'r Blwch Democratiaeth.

Fy nod yw datblygu prototeipiau o ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus ac addysgol am ein systemau a'n strwythurau democrataidd yng Nghymru a'r DU.

Rwyf i'n gwneud hyn am fy mod am helpu i greu gwell dealltwriaeth sylfaenol ymhlith canran ehangach o'r boblogaeth.

Mae gennym ni sector Democratiaeth mawr eang eisoes gyda llawer o bobl yn gwneud gwaith rhagorol yn y maes. Felly i ddechrau, rwyf i'n dod i'w hadnabod i gyd a'u meysydd arbenigedd ac yn cydweithio gyda llawer ohonyn nhw ar y prosiect.

Rydym ni wedi colli ein stori gyfunol

Rwyf i'n credu bod angen i ni i gyd wybod a deall ein stori gyfunol fel dinasyddion Cymru a'r DU er mwyn i ni i gyd allu cymryd rhan a helpu i ysgrifennu'r bennod nesaf. Gyda'n gilydd.

Yn gynharach eleni, cadarnhaodd cam cyntaf fy ymchwil a datblygu Clwstwr nad oes gan y rhan fwyaf o ddinasyddion Cymru a'r DU ddealltwriaeth sylfaenol o ddemocratiaeth y DU, a sut mae Llywodraethau lleol, datganoledig a San Steffan yn ffitio gyda'i gilydd a pham.

Felly sut mae ennyn diddordeb cynulleidfa o filiynau a chynnwys cyd-greawdwyr/curadwyr ifanc a chodi chwilfrydedd pobl i ddeall, ymgysylltu a chyfranogi yn ein democratiaeth drwy'r flwyddyn ac nid yn y bwth pleidleisio yn unig?

Os gallwn ni gael hyn yn iawn, rwy'n credu y bydd llawer o bethau da'n dilyn o ymgysylltu ehangach a niferoedd uwch yn pleidleisio ac yn rhannu ymdeimlad o effaith, hunaniaeth a chyfrifoldeb.

Oherwydd mae gwybodaeth yn golygu grym ac os ydym yn gwybod y stori bydd yn ein galluogi gyda’n gilydd i ffurfio’r gymdeithas rydym ni am ei chael, i ni, ein ffrindiau, ein teuluoedd a chenedlaethau'r dyfodol.

Gwrandewch ar y cyd-greawdwyr ifanc yn siarad am gyfnod cyntaf y prosiect yn y mini-bodlediad hwn.

Wrth drafod gwybodaeth am ein democratiaeth dwyf i ddim yn golygu gwleidyddiaeth plaid

Er bod yr angen am wybodaeth ffeithiol niwtral am y prif bleidiau gwleidyddol a'u hanes a'u hideoleg sylfaenol nad yw'n gysylltiedig ag ymgyrchu etholiadol yn ymddangos yn rheolaidd yng ngham cynnar fy ymchwil a datblygu.

The Democracy Box graphic capture

Rwy'n golygu hysbysu ac addysgu pobl am yr hanfodion niwtral.

Y gwahaniaeth rhwng llywodraeth leol, ddatganoledig a San Steffan. Y gwahaniaeth rhwng Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog Prydain, a rhwng Aelod o'r Senedd, Aelod Seneddol a chynghorydd, a chyfrifoldebau pob un. Deall y Cyntaf i'r Felin yn erbyn Cynrychiolaeth Gyfrannol a beth yw etholaeth a beth sydd wedi'i ddatganoli i Gymru a sut caiff ein deddfau eu creu a gan bwy a beth mae ein trethi'n talu amdano a phwy sy'n penderfynu a beth mae'r gair democratiaeth yn ei olygu a sut gallwn gymryd rhan a chael llais drwy'r flwyddyn nid dim ond ar ddydd yr etholiad.

The Democracy Box graphic capture

Wrth galon y prosiect mae'r cyd-greawdwyr ifanc gan gynnwys rhai o etholaethau lle mae niferoedd isel yn pleidleisio, fydd yn cyd-greu a churadu ffurfiau newydd o gyfranogi mewn democratiaeth. Roedd deg o bobl ifanc 16-30 oed yn rhan o gam un. Bydd rhai o'r rhain yn ymuno â ni yn yr ail gam ynghyd â phobl ifanc newydd. Bydd galwad agored i'w recriwtio.

Beth sy'n dod nesaf

Cadarnhaodd fy ymchwil gychwynnol gyda chyllid sbarduno bod angen dau beth:

  • Ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus
  • Ymgyrch gwybodaeth addysgol.

Gyda fy nghydweithwyr rwyf i'n edrych ar bedwar peth... ac yn gweld sut, ac a allaf i, wneud prototeipiau o rai o'r pethau hyn neu bob un.

  1. Gwreiddio'r wybodaeth hon yng nghwricwla ysgolion cynradd ac uwchradd o flwyddyn 5 - 11 drwy greu hyfforddiant ac adnoddau i athrawon.
  2. Ffilmiau Gwybodaeth Gyhoeddus hen ffasiwn a sut i greu fersiwn cyfoes y gellid ei rannu'n hyd a fformatau gwahanol a’u gosod ar fformatau amlgyfrwng, o ddarlledu i'r cyfryngau cymdeithasol.
  3. Sut i gefnogi creu hyb neu stop un siop i'r cyhoedd a allai weithredu hefyd fel yr adnodd i athrawon a'r lle i osod y Ffilmiau Gwybodaeth Gyhoeddus a chyfeirio pawb at y cynnwys gwych sydd eisoes yn bodoli a galluogi pobl i lywio eu ffordd drwy'r sector democratiaeth sydd ar gynnydd.
  4. Sut i lansio ac yna gefnogi hyn i gyd gyda digwyddiadau cyhoeddus byw a pharhaus.

Cewch wylio cyflwyniad o'n gwaith cam un yma a syniadau cychwynnol y cyd-greawdwyr ifanc.

Cydweithwyr y Blwch Democratiaeth sydd wedi'u cadarnhau hyd yma yw...

Cyd-Ymchwilydd Blwch Democratiaeth Clwstwr yw Richard Sambrook.

Yn y cyfamser os hoffech wybod mwy am eich cynrychiolwyr etholedig a sut mae Democratiaeth y DU yn gweithio edrychwch ar ein cydweithwyr uchod a'r dolenni defnyddiol iawn hyn:

Sut i gymryd rhan

Os hoffech gydweithio ar y prosiect, cael sgwrs neu os oes unrhyw wybodaeth yr hoffech ei rhannu, ebostiwch Yvonne y.murphy1@ntlworld.com.