Haia Rebecca! Sut byddech chi’n disgrifio beth rydych chi yn ei wneud neu beth mae eich busnes yn ei wneud? 
Gwneuthurwr ffilmiau a sylfaenydd edge21 Studio ydw i. Rydym yn creu apiau, ffilmiau a phrofiadau ymdrochol sy'n dod â straeon yn fyw mewn ffyrdd newydd ac adfywiol. Mae'r busnes wrthi yn datblygu hunaniaeth unigryw yn gyflym fel cwmni i gefnogwyr ffilm a theledu a chrewyr cynnwys.


Sut daethoch chi i wybod am gyllid Clwstwr?
Ces i wybod i ddechrau am Clwstwr drwy ffrind, ac yn dilyn hynny gwnes i gais i ymuno â'r Lab Syniadau cyntaf. Ar ôl hynny, gwnes i gais am arian sbarduno ac yna ymlaen i gyllid pellach.


Beth wnaeth eich ysbrydoli i wneud cais am gyllid?
Pan oeddwn i’n gweithio ar Reel Reality, fy ap ymdrochol cyntaf, sylweddolais i botensial AR a mathau eraill ar dechnoleg ymdrochol. Ro'n i'n gwybod y byddai arian Clwstwr yn fy ngalluogi i edrych ar y maes hwn mewn ffordd gwbl wahanol, i ddatblygu eiddo deallusol creadigol, i agor posibiliadau a chyfleoedd newydd yn y maes.

Beth roeddech chi'n bwriadu ei wneud ar gyfer eich prosiect Clwstwr?
Roedd y syniad sylfaenol yn ymwneud â chyfuno realiti estynedig (AR) a ffilm. Roedd dau brif gwestiwn yr oeddwn yn awyddus eu hateb: Ydyn ni'n gallu defnyddio AR i gysylltu yn ddeallus â rhaglenni ffilm neu deledu? A oes modd sbarduno a chasglu cynnwys AR drwy ap pwrpasol, yna ei ddefnyddio i archwilio naratifau, datrys posau neu gymryd rhan mewn rhaglenni mewn ffyrdd newydd ac addysgiadol?

Pa broses wnaethoch chi ei defnyddio i gyflawni eich prosiect Clwstwr, fesul cam?
Y cam cyntaf oedd profi'r ddamcaniaeth ynghylch defnyddio ffilm fel ffordd o sbarduno cynnwys AR. Tynnais i lawer o luniau prawf o dan ystod o amodau gwahanol. Yna, bûm yn gweithio gyda Sugar Creative, fy nghydweithwyr ar y prosiect, i brofi'r lluniau a'r syniadau gyda'r AR. Gyda'n gilydd, roeddem yn gallu datblygu 'fformiwla' (sy'n gyfrinach!) i beri i’r cysylltedd weithio. ‘Evolvement’ oedd yr enw a roddon ni ar y fframwaith creadigol a'r dechnoleg. Erbyn nyn mae’n gysyniad y gellir ei drwyddedu.

I ddangos sut mae Evolvement yn gweithio a sut y gellir ei gymhwyso i brosiect ffilm, fe greon ni After the Evidence - arddull newydd o ffilm ryngweithiol a gêm sy'n cael ei phweru gan injan Evolvement. Mae'n brofiad stori ymdrochol sy'n cyfuno ffilm gyda chwarae gêm ymchwiliol. Mae chwaraewyr yn casglu'r dystiolaeth wrth wylio'r ffilm ac yna yn defnyddio'r dystiolaeth honno i ymchwilio, i wneud dynnu casgliadau a chau'r achos. 

Beth oedd canlyniadau eich ymchwil?
Oherwydd y gwaith ymchwil a datblygu gwnaethom After the Evidence fel prawf o gysyniad. Ond, yn bwysicach byth, galluogodd y gwaith ymchwil a datblygu i mi archwilio a phrofi damcaniaethau a syniadau, i weithio gydag amrywiaeth o bobl ar draws y diwydiant, i ddatblygu fy nghwmni a'i hunaniaeth a gosod llwybr newydd ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

Beth rydych chi'n meddwl bydd eich cam nesaf, ar ôl cynnal y gwaith ymchwil a datblygu?
Mae After the Evidence bellach ar gylchdaith yr ŵyl fel y profiad ymdrochol (ffilm a gêm) a hefyd fersiwn wedi’i hail-dorri o'r ffilm fel darn annibynnol, sy'n gweithio'n dda fel ffordd o ddenu pobl at y gwaith ac at y cwmni. Mae'n defnyddio ddull deublyg, sef rhannu cynnwys a gwneud cysylltiadau.
Rwy'n parhau i ddatblygu cyfleoedd gydag Evolvement mewn gwaith arall ac yn ceisio datblygu prosiectau partneriaeth i wir wthio ffiniau'r syniad a'r dechnoleg ymhellach. Bydd stiwdio Edge21 yn parhau i ddatblygu fel cwmni profiad ffilm a phrofiad ymdrochol ac rwy'n awyddus i fynd ati i ddatblygu ffyrdd mwy unigryw o brofi ffilm ac adrodd straeon.