Rebecca Hardy yw Cyfarwyddwr edge21 ac mae ei phrosiect sbarduno Clwstwr, Realiti Reel, yn archwilio ffyrdd newydd o ymgysylltu â chynnwys sgrin. Yma mae'n rhannu ei mis cyntaf o ymchwil a datblygu.
Rwyf i bob amser wedi bod yn ffan enfawr o ffilmiau a theledu. Dros y blynyddoedd rwyf i wedi prynu llawer gormod o nwyddau, sefyll mewn ciw ar gyfer dangosiadau premiere a llarpio erthyglau difyr.
I lawer ohonon ni ein profiad diwylliannol cyntaf oedd ymweld â'r sinema - mae'n sicr yn brofiad cynnar rydyn ni'n debygol o allu ei gofio. Rwy'n cofio eistedd ar lin mam yn gors o ddagrau'n gwylio E.T. (dwyf i ddim wedi maddau i'r heddlu yn y ffilm honno hyd y dydd hwn) ac mae'r atgof, a grym yr eiliad honno, wedi aros gyda fi.
Ar gyfer y rhan fwyaf o fy ngyrfa, rwyf i wedi sianelu'r angerdd hwn i wneud ffilmiau: promos, ffilmiau byr, dramâu a dogfennau ac rwy'n gobeithio symud i ffilmiau nodwedd pan fydd y byd yn lle gwell unwaith eto.
Ond rwyf i wastad wedi eisiau gwneud rhywbeth mwy fel 'ffan'. Chi'n gwybod, stwff cŵl i ffans. Dathliad o ffilm a theledu, rhannu gwybodaeth, profiad a rhyngweithiadau sy'n bwydo ein hangerdd mewnol a'n cariad at y math hwn o ddiwylliant.
Pan soniodd ffrind am Labordy Syniadau Clwstwr a'r cyllid sbarduno dilynol ar gyfer ymchwil a datblygu, cododd fy nghlustiau (nid mewn ffordd Star Trek-aidd). Ond ar ôl 20 mlynedd yn y diwydiant a chryn dipyn o brofiad digidol roeddwn i'n dal i fy amau fy hun. Amau a fyddwn i'n ddigon 'da' i gael y math hwn o gyllid, ac yn fwyaf pwysig, a fyddai fy syniad yn ddigon cryf? Wedi dweud hynny, roeddwn i'n gwybod y byddai hwn yn gyfle rhyfeddol i wireddu syniad sydd gen i am leoliadau, AR a chynnwys ffilm a theledu estynedig.
Ar ôl clywed fy mod wedi llwyddo i gael y cyllid sbarduno roeddwn i fel Gremlin yn bwydo ar ôl hanner nos (llawn cyffro a gorfwyta bwydydd dathliadol) ond a fyddwn i'n mwynhau'r broses ymchwil a datblygu? A beth fyddai hyn wir yn ei olygu i fi a fy musnes?
Yna tarodd COVID-19 ac fel cynifer o bobl lawrydd eraill sychodd y gwaith a newidiodd y byd. Roedd yn bryder enfawr.
Ar ôl cael cacen a chyfnod o drawsnewid sylweddolais fod cyllid sbarduno Clwstwr yn fwy fyth o rodd; roedd gen i amser i fuddsoddi ynddo, mwy o le yn fy mhen i drochi fy hun yn yr ymchwil a mwy o gyfle i droi hwn yn rhywbeth a allai helpu fy ngyrfa yn y tymor byr, canolig a hir.
Yn dilyn hynny, rwyf i wedi mwynhau'r elfen ymchwil yn aruthrol. Rwyf i wedi dysgu cymaint am greu apiau, cyfraith busnes, datblygu cynhyrchion, IP, ymchwil defnyddwyr a ffyrdd amgen i rannu cynnwys ffilm a theledu. Rwyf i wedi derbyn cefnogaeth ragorol gan dîm Clwstwr sydd wedi fy ngalluogi i feddwl mewn ffyrdd gwahanol a chreu cyswllt rhyngof i â phobl ragorol. Wnaf i ddim dweud celwydd - rwy'n teimlo fel Miss Marple ar un o'i hachosion gorau.
Felly falle, jest falle, gyda fy nghariad at ffilm a theledu a chefnogaeth Clwstwr, gallaf ddod â fy nghynnyrch/cynhyrchion i'r farchnad a neidio i dir breuddwydion plentyndod.
Os ydych chi hefyd yn eich ystyried eich hun yn ffan ffilm a theledu, byddwn i'n ddiolchgar pe baech chi'n cwblhau fy arolwg ymchwil ffilm a theledu (diolch ymlaen llaw): https://www.surveymonkey.co.uk/r/FilmandTVResearch
Mae gan Clwstwr Ffenest Galwad Agored ar hyn o bryd - alla i ddim ei argymell yn ddigon cryf! Cymerwch ran yma