Mae cyllid wedi'i ddyfarnu i bobl greadigol yn ne Cymru droi eu syniadau'n realiti.

Mae carfan Clwstwr 2021 yn cynnwys gweithwyr llawrydd, busnesau newydd, gwyliau, cwmnïau cynhyrchu, stiwdios creadigol, datblygwyr gemau a thechnolegwyr.

Bydd y garfan greadigol ddiweddaraf yn archwilio meysydd sy’n cynnwys: cynhyrchu rhithwir, ffotograffiaeth, realiti rhithwir ac estynedig i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd.

Bydd prosiectau hefyd yn mynd i'r afael â ffyrdd o weithio ar ôl COVID, llwybrau at gyflogaeth a datblygu gyrfa, cynaladwyedd amgylcheddol a chynhwysiant yn sector y cyfryngau.

Ymhlith y rheini fydd yn cychwyn ar brosiectau arloesi fydd yn newid pethau mae Sugar Creative, Small and Clever Productions, Yeti Media a Gwobr IRIS.

Mae nifer o'r rhai sydd wedi'u dewis wedi ymgymryd ag ymchwil a datblygu cychwynnol gyda rhaglen Clwstwr eisoes, a bellach wedi derbyn cyllid i fynd â'u syniad i'r lefel nesaf. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys: Ffilm gynhwysol gan gwmni theatr Hijinx, Kids News gan y cyflwynwyr newyddion teledu Hannah a Lewis Vaughan-Jones, Pecyn Cymorth Digidol y cwmni cynhyrchu Triongl ar gyfer Cynhyrchion Amlieithog a Green Screen Cymru gan Little Bird Films.

Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Clwstwr: "Mae carfan Clwstwr 2021/22 yn cynnwys amrywiaeth cyffrous o brosiectau a fydd, gobeithio, yn arwain at gynnydd yng ngalluoedd arloesi sector y cyfryngau yn y rhanbarth yn ogystal â llu o gynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd.

Ymhlith y themâu allweddol yn y cylch hwn mae cynhyrchu rhithwir, cynhwysiant mewn ffilm a theledu, gwyliau ôl-COVID, sero net, realiti estynedig ac arloesiadau ym maes adrodd straeon. 

Bydd y prosiectau cyffrous hyn nid yn unig yn cyfoethogi ac yn amrywio'r sectorau sgrin a newyddion wrth i ni agosáu at sero net, ond byddan nhw hefyd yn gwella dealltwriaeth pobl o'u hamgylchedd, yn cyfoethogi profiad cynulleidfaoedd byddar ac â nam ar eu golwg, yn creu ffrydiau refeniw newydd i elusennau a gwella hyfforddiant gofal iechyd yn y GIG.

Tiny Rebel Games, sydd wedi ennill gwobrau am ddatblygu gemau a phrofiadau realiti estynedig/cymysg yw un o'r cwmnïau sydd wedi'u dewis ar gyfer carfan Clwstwr 2021.

Dywedodd y cyd-sylfaenydd Susan Cummings: "Rydym ni yn Tiny Rebel Games yn llawn cyffro i gael ein dewis i ymuno â charfan Clwstwr 2021. Bydd yr arian hwn yn ein helpu i fynd ar drywydd ymchwil a datblygu lefel uwch mewn realiti estynedig ar gyfer dyfeisiau symudol a gwisgadwy, gan ddefnyddio technoleg flaengar, ynghyd â'n sgiliau arobryn mewn datblygu gemau ac adrodd straeon, i ddod â gweledigaeth sy'n arwain y meddwl o ran sut rydyn ni'n meddwl am brofiadau chwarae gemau mewn realiti estynedig."

Ewch i'n tudalen prosiectau i wybod mwy am y 27 prosiect.