Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn fater heriol o hyd i sector ynni a theithio dwys megis y sector ffilm a theledu.

Er gwaethaf y nifer cynyddol o gamau gweithredu penodol sy'n mynd i'r afael ag effaith amgylcheddol sector y sgrîn, ar hyn o bryd mae angen dull mwy holistaidd ac integredig o’i ddatblygu’n sector gwyrddach.

Nod y briff polisi hwn yw mynd i'r afael â chynaliadwyedd amgylcheddol yn sector sgrîn Cymru drwy lens penodol arloesedd gwyrdd. Rydym yn diffinio arloesedd gwyrdd fel y prosesau sy’n creu cynyrchiadau, gwasanaethau a thechnolegau newydd, a chanddynt hefyd y nod o leihau effeithiau amgylcheddol negyddol.

Mae'r briff yn archwilio'r cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig ag arloesedd gwyrdd yn y sector sgrîn yng Nghymru, yn ogystal â sut y gall arloesedd gwyrdd greu newid effeithiol tuag at economi sero-net. Wrth wneud hynny, mae'n ystyried sut y gall ymchwil a datblygu, sef y llwybr at arloesedd gwyrdd, gefnogi dull mwy holistaidd o fynd i'r afael ag ôl troed amgylcheddol y sector.

Yn y briff rydym yn rhoi tystiolaeth o amrywiaeth o astudiaethau ac adroddiadau a gyhoeddwyd gan sefydliadau megis Sefydliad Ffilmiau Prydain (BFI), Llywodraeth Cymru, BAFTA, a Clwstwr sef y rhaglen flaenllaw sy'n rhoi ymchwil a datblygu wrth wraidd y diwydiant sgrîn a newyddion yng Nghymru. Yn seiliedig ar yr adolygiad hwn, rydym yn cynnig fframwaith estynedig ar gyfer ystyried arloesedd gwyrdd yn y sector sgrîn, ac yn ei gefnogi drwy enghreifftiau sy’n astudiaethau achos o brosiectau a ariennir gan Clwstwr.

Dywedodd Dr Ruxandra Lupu, Cydymaith Ymchwil Clwstwr: "Mae ein canfyddiadau'n cadarnhau bod arloesedd gwyrdd wedi dod yn ddull ymarferol o ddatblygu atebion holistaidd ar gyfer sector y sgrîn sy'n creu manteision cystadleuol effeithiol.

"Fodd bynnag, maent hefyd yn amlygu’r angen am ragor o raglenni ariannu wedi'u teilwra sy'n cyfateb i gymhlethdodau prosesau ymchwil a datblygu, ac sydd wedi'u teilwra hefyd i anghenion sector sy’n llawn amrywiaeth ac sy'n cael ei yrru gan brosiectau yn bennaf. Daw'r briff i ben drwy gydnabod yr angen i roi sylw pellach i'r heriau cynhenid sy'n gysylltiedig â'r diffiniadau rhy dechnolegol hynny o ymchwil a datblygu, a'r ffordd y maent yn llunio diwylliant arloesedd diwydiant y sgrîn."

Mae mentrau megis Bargen Newydd Sgrîn (cynllun trawsnewid ar gyfer dyfodol di-garbon, di-wastraff i'r diwydiant sgrîn) a media.cymru (rhaglen ddilynol Clwstwr), yn bwysig gan eu bod yn anelu at wneud cynnydd pellach yn hyn o beth.

Gallwch lawrlwytho’r adroddiad Arloesi Gwyrdd ar gyfer Sector y Sgrîn yma.

Clwstwr Green Sector Policy Brief Infographic Welsh

Greening the Audiovisual Sector: Towards a New Understanding through Innovation Practices in Wales and
Beyond
gan Dr Ruxandra Lupu, Dr Marlen Komorowski, yr Athro Justin Lewis, Cynhyrchydd Gregory Mothersdale a'r Athro Sara Pepper o JOMEC, Prifysgol Caerdydd, ei gyhoeddi yn MDPI - Cynaliadwyedd, fel rhan o'r Rhifyn Arbennig - The Creative and Cultural Industries towards Sustainability and Recovery.

Ruxandra Lupu Headshot

Ruxandra Lupu, Cydymaith Ymchwil

Marlen Komorowski

Dr Marlen Komorowski, Dadansoddydd Effaith

Greg's Headshot

Greg Mothersdale, Cynhyrchydd

Professor Justin Lewis

Yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr