Nod yr adroddiad hwn yw mapio'r sector gemau fideo yng Nghymru mewn ffordd systematig a manwl.

Ysgrifennwyd y darn newydd hwn o ymchwil gan Gyd-Ymchwilwyr Clwstwr Richard Haurford a’r Athro Ruth McElroy o Brifysgol De Cymru, ac mae’n amlygu’r heriau o ran sgiliau a’r anghenion hyfforddi sydd gan y diwydiant ledled Cymru.

Mae hefyd yn edrych ar y cymorth mae’r diwydiant gemau fideo yn ei gael yng Nghymru, y DU, Ewrop a gweddill y byd. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg cytbwys ar sector nad yw wedi’i ddatblygu’n ddigonol ar hyn o bryd ac nad yw’n cael ei ddeall cystal â’r sectorau ffilm a theledu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Chymru’n ehangach. Mae hefyd yn gwneud cyfres o argymhellion.

Dyma a ddywedodd cyd-awdur yr adroddiad, Cyd-Ymchwilydd Clwstwr Richard Hurdford: "Mae’r adroddiad hwn yn rhoi llwyfan i dynnu sylw at effaith y sector gemau yng Nghymru ac i barhau â’r gwaith i gefnogi datblygu talent. Mae angen i sefydliadau diwydiant a’r sector cyhoeddus fuddsoddi mewn gwell darpariaeth sgiliau i gefnogi sector gemau fideo cynaliadwy yng Nghymru ac i fanteisio ar y galw cynyddol gyflym am sgiliau gemau ar draws y sector sgrin gyfan, gan gynnwys meysydd fel cynhyrchu rhithwir.

Mae sefydlu twf cynaliadwy yn y gymuned yn hanfodol i helpu i greu diwydiant llwyddiannus, cadarn, a chyda’r cymorth a’r hyfforddiant cywir yn eu lle, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair.

Lawrlwythwch adroddiad Arolwg Gemau Clwstwr Cymru yma:

Richar Hurford - Co-Investigator

Richard Hurford, Prifysgol De Cymru

Ruth McElroy

Yr Athro Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru