Mae hwn yn blatfform i arddangos nerth creadigol Cymru: amlygu ei chryfderau ac archwilio ei dyfnderoedd, helpu i greu cysylltiadau a bod yn offeryn defnyddiol i'r rheini sy'n dymuno dysgu mwy am ecosystem greadigol Cymru.

Gwaith ar y gweill yw'r Atlas hwn a bydd yn parhau i esblygu a thyfu ochr yn ochr â'r diwydiannau creadigol.

Mae'r Atlas yn archwilio dosbarthiad daearyddol a graddfa'r diwydiannau creadigol ar draws Cymru yn ôl sector creadigol. 

Gallwch ddefnyddio'r atlas i ddarganfod gweithgaredd y diwydiannau creadigol ledled Cymru, megis nifer y cwmnïau a gweithwyr mewn sectorau creadigol penodol, ymhle mae mannau cydweithio ar gael neu ddaearyddiaeth prosiectau clwstwr creadigol. 

Hoffech chi gael eich cynnwys yn yr atlas neu oes gennych chi set data a fyddai'n ychwanegu gwerth? Rhywbeth ar goll? Oes gennych chi gwestiwn? Cysylltwch â ni: clwstwrcreadigol@cardiff.ac.uk