Wrth i ni groesawu ein carfan gyntaf o brosiectau sy'n cael eu hariannu sbarduno y mis hwn, rydym yn clywed gan aelodau o Reolwyr Tîm y Clwstwr, Robin Moore a Gareth Jones, am yr hyn i'w ystyried wrth i chi gychwyn ar waith ymchwil a datblygu.

Mae Robin yn dechnolegwr ac yn rheolwr creadigol gyda thros ddau ddegawd o brofiad o ddatblygu cynnwys a gwasanaethau ar gyfer y platfformau digidol diweddaraf. Ar hyn o bryd, mae’n Bennaeth Arloesedd yn BBC Wales, ac yn gweithio gyda thîm Ymchwil a Datblygu’r BBC ar dreialu profiadau newydd yn defnyddio technolegau megis VR, AR a sain gofodol.  Ei awgrymiadau yw:

  • Ymddiried yng ngwerth eich arbenigedd a'ch persbectif unigryw eich hun, a bod yn ddigon hyderus i dderbyn arbenigedd gan eraill.
  • Mae'n rhaid i chi ddysgu methu'n gyflym – anelu at gael dull sy'n profi eich meddwl yn gyflym ac yn derbyn gwerth methu ag addysgu'r gwersi cliriaf. Dysgu gwersi gan eich methiannau chi a rhai pobl eraill a byddwch yn llwyddo'n gyflymach. 
  • Ceisio peidio â bod yn hunanfodlon – mewn byd o biliynau o bobl nid chi yw'r un cyntaf i gael y math hwn o syniad. Dod o hyd i rywun sydd eisoes wedi gwneud rhywbeth tebyg a dysgu oddi wrthyn nhw.
  • Peidio â mynd ar goll yn newydd-deb cyffrous y dechnoleg! Mae'n arf. Mae'r arloesedd gorau hefyd yn bodloni angen defnyddiwr newydd ac yn creu model busnes neu gymdeithasol i'w gynnal. Sut y bydd yn gwneud bywyd defnyddiwr yn well yn y tymor hir?

Profodd Gareth y poen a’r llawenydd o sefydlu ac arwain un o gymunedau mwyaf y DU o entrepreneuriaid. Mae wedi buddsoddi amser ac egni ym mhob agwedd o'r sîn cychwyn busnesau yng Nghymru ac mae'n aelod ymgynghorol ar Gyngor y Prif Weinidog dros Fusnesau Bach ac Entrepreneuriaeth, a Cardiff Start. Fe yw Prif Swyddog Gweithredol TownSq, gan arwain lansio mannau newydd ledled y DU. Ei gynghorion yw: 

  • Peidio â syrthio mewn cariad â'r syniad, ymrwymwch i'r cwestiynau – a yw hyn yn rhywbeth y mae ar y byd ei angen?
  • Creu ffordd o allu myfyrio ar ble rydych chi yn ystod y broses ymchwil a datblygu. Weithiau mae'n anodd gweld eich cynnydd pan fyddwch chi yn ei chanol hi. 
  • Dod o hyd i ffyrdd o gael adborth oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaeth a chleientiaid posibl yn gyson a newid wrth i chi fynd

Bydd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer Galwad Agored nesaf y Clwstwr yn lansio ddydd Mercher, 1 Ebrill 2020. Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr y Clwstwr  i gael gwybod pan fydd yr alwad yn fyw.