Ar 31 Ionawr 2020, gadawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd (UE). Mae natur y gydberthynas yn y dyfodol yn cael ei thrafod ar hyn o bryd. Mae eisoes yn glir bod Brexit yn ddigwyddiad gwleidyddol digynsail â goblygiadau economaidd sylweddol o bosibl.
Er y bu llawer o drafodaeth ynglŷn â sectorau penodol yng Nghymru (fel pysgodfeydd), nid oes cymaint o sylw wedi’i roi i effaith Brexit ar y diwydiannau creadigol – sector economaidd allweddol sy’n tyfu lle y mae gan Gymru gryfder sylweddol .
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r ffordd y mae amrywiaeth o fusnesau creadigol yn gweld Brexit – eu gobeithion a’u hofnau, yn ogystal â rhai o’r goblygiadau busnes ymarferol.
Gwelsom fod lefelau uchel o bryder am effaith bosibl Brexit ymysg busnesau creadigol yng Nghymru, gyda phedwar allan o bob pump busnes creadigol yn mynegi pryderon.
Mae gan fusnesau creadigol bryderon sy’n amrywio o newidiadau strwythurol ac economaidd eang i’r problemau beunyddiol ymarferol y gall Brexit eu creu.
Mae'r adroddiad yn anelu at gynnig argymhellion allweddol ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a busnesau creadigol.
Lawrlwythwch yr adroddiad cyfan yma:
Casglwyd y data ar gyfer yr adroddiad hwn cyn pandemig COVID-19. Mae'n rhoi darlun o ddiwydiannau creadigol Cymru cyn yr amhariad achoswyd gan COVID-19, sydd wedi cael effaith dwys ar nifer o fusnesau a gweithwyr llawrydd creadigol, gyda nifer ohonynt yn colli incwm sylweddol. Mae'r adroddiad hwn yn waelodlin y bydd yn ein galluogi ni, yn y dyfodol, i wneud dadansoddiadau manwl o effaith COVID-19 ar y diwydiannau creadigol yn y tymor canolig a hir.
Awduron yr adroddiad ymchwil hwn: