Yn amlwg, bydd COVID-19 yn effeithio ar y ffurfiau ar gymorth y gallwn eu rhoi i brosiectau Clwstwr presennol yn ogystal â'r rhai hynny a fydd yn gwneud cais yn ystod ein Galwad Agored nesaf. Rydym wedi ceisio lliniaru hyn cymaint â phosibl.

  • Rydym wedi disodli digwyddiadau briffio Galwad Agored 2020 ag amrywiaeth o adnoddau ar-lein.
  • Byddwn yn cynnig cyfarfodydd un-i-un gyda'r tîm Clwstwr o hyd (ar-lein yn lle wyneb yn wyneb) – ar gyfer prosiectau presennol ac ymgeiswyr newydd. Os ydych yn rhan o brosiect Clwstwr eisoes, trefnwch hyn gyda'ch Cynhyrchydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am gyllid Clwstwr, trefnwch gyfarfod un-i-un yma.
  • Byddwn yn dilyn yr amserlen a gynlluniwyd ar gyfer ein Galwad Agored 2020 gan fod llawer o bobl wedi nodi na fyddent yn croesawu unrhyw oedi o ran ariannu prosiectau newydd. I hwyluso hyn, rydym wedi trefnu trosiant mor gyflym â phosibl i adolygu Datganiadau o Ddiddordeb a Cheisiadau llawn, gan roi cymaint o amser â phosibl i ymgeiswyr lenwi'r ffurflenni hyn. Bydd hyn yn golygu y bydd yr adborth ysgrifenedig y gallwn ei gynnig ar gam Datganiadau o Ddiddordeb 2020 yn gyffredinol.

Bydd yr amhariad hefyd yn cael effaith ar y dulliau sydd ar gael i wneud gwaith Ymchwil a Datblygu – felly, er enghraifft, gall fod angen disodli profi defnyddwyr wyneb yn wyneb â phrofi defnyddwyr ar-lein. Gan nad ydym yn gwybod pryd fydd amhariad COVID-19 yn dod i ben, rydym yn annog ymgeiswyr yn gryf i gynllunio ar gyfer hyn.

Yn olaf, mae effaith COVID-19 wedi bod yn ddifrifol a gallai gael effeithiau cymdeithasol parhaol. Efallai y byddwn yn dysgu gwersi yn ystod y cyfnod hwn a fydd yn ein galluogi i feddwl am fathau newydd o greadigrwydd a ffyrdd newydd o weithio – gan ein galluogi, er enghraifft, i symud yn gyflymach tuag at economi carbon isel neu fynd i'r afael â materion o ymneilltuo cymdeithasol. Os yw'n briodol, byddem yn eich annog i ystyried hyn yn eich cais i Clwstwr.