Nod rhaglen Clwstwr (2018-2023) oedd rhoi arloesedd wrth wraidd cynhyrchu cyfryngau yn Ne Cymru - gan symud sector cyfryngau Cymru o nerth i arweinyddiaeth.
Creodd Clwstwr nifer o weithgareddau ac ymyriadau, gan fuddsoddi i 118 o brosiectau arloesedd yn niwydiannau creadigol Cymru a’u cefnogi. Mae profiad a hanes Clwstwr, manylir arnynt yn yr adroddiad hwn, yn rhoi tystiolaeth glir i lunwyr polis.au gefnogi buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu fel llwybr i arloesi yn y diwydiannau creadigol.
Daeth adroddiad yn mesur effaith y rhaglen i’r casgliad fod y prosiectau a ariannwyd gan Clwstwr wedi cyfrannu'n uniongyrchol at dros £20 miliwn o drosiant ychwanegol a chreu mwy na 400 o swyddi ychwanegol yn y diwydiannau creadigol. Rhwng 2019 a 2022, cyfrannodd Clwstwr £1 ym mhob £13 o dwf trosiant blynyddol yn niwydiannau creadigol Cymru.
Yn ôl Cyfarwyddwr Clwstwr, yr Athro Justin Lewis: “Mae Clwstwr wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu yn y diwydiannau creadigol. Mae prosiectau Clwstwr wedi nodi manteision hirdymor i’w busnesau, a oedd yn cynnwys gwell cyflawniad a chynhyrchiant a gwell prosesau rheoli prosiect.
“Mae ein hadroddiad yn cyflwyno tystiolaeth glir bod buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yn hanfodol os ydym am arloesi a llywio’r cyfryngau a’r sectorau creadigol.”
Gallwch lawrlwytho'r adroddiad llawn yma:
Yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr
Dr Marlen Komorowski, Dadansoddydd Effaith
Máté Fodor

Ruxandra Lupu, Cydymaith Ymchwil
Sara Pepper, Prif Swyddog Gweithredu
