ISE 2022

Am y tro cyntaf eleni cynhaliwyd yr ISE yn Barcelona (yn hanesyddol fe'i cynhaliwyd yn Amsterdam), ac yn sicr roedd yn brofiad newydd i fi ac aelodau carfan Clwstwr Yassmine Najime, rheolwr stiwdio Painting Practice ac Andy Taylor, sylfaenydd Bwlb. 

Producer Gavin Johnson with cohort members in Barcelona.

Cynhaliwyd y gynhadledd ar draws 7 neuadd, gydag arddangoswyr, sgyrsiau, gweithdai a rhwydweithio: cynhadledd enfawr yn cwmpasu popeth yn y sector clywedol. 

Eleni, er mai hwn oedd fy ymweliad cyntaf, roedd yn hawdd gweld nifer o dueddiadau a themâu at y dyfodol sydd wedi cyflymu dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd y pandemig.  Rwyf i wedi dethol ambell beth oedd i'w gweld yn gyffredin i'w rhannu gyda chi:

Gweithio Hybrid / Gartref

Dyma'r un mawr, gyda phawb, o'r cwmnïau technoleg mawr i fusnesau newydd bach, yn cynnig datrysiadau unigryw ar gyfer gweithio gartref. Nododd bob un thema gyffredin a'i galw'n 'degwch gweithio hybrid' - yn ystod COVID roedd rhaid i ni ddefnyddio beth bynnag oedd ar gael; gliniaduron gyda seinyddion gwael, meicroffonau oedd ddim yn gweithio, cathod yn torri ar draws galwadau a dysgu aros eich tro cyn siarad. 

Roedd y cwmnïau i gyd yn awyddus i ddangos eu cynhyrchion a dangos sut y gall meicroffonau clyfar olygu a lleihau sŵn cefndir yn fyw, sut gall camerâu ffocysu ar y llygad dynol a gwybod pwy sy'n siarad a beth i ffocysu arno. Erbyn hyn mae datrysiadau safon uchel ganddynt ar gyfer yr holl anghenion gwaith hybrid hyn; wedi'u hintegreiddio ar gyfer y rheini sy'n mynd i gyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ogystal â'r rhai sydd yno ar-lein. I fi, datrysiadau Google i'r anghenion hyn oedd â'r nodweddion gorau, gan gynnwys camerâu cain jazzy oedd yn eistedd ar fyrddau ac yn gallu gweld pwy oedd yn siarad, a sicrhau eu bod yn y blaen a'r canol.  Roedd digon o offer aml-weithio eraill ar y gweill hefyd.  

Images from exhibits at ISE Conference

Sgriniau ac LEDs

Y mwyaf clyfar ac ynni-effeithlon y gorau; maen nhw'n gallu rholio sgriniau, eu plygu'n siapiau, mewnosod camerâu i'ch tracio, ac roedd y delweddau wir yn anhygoel. Gall y wyddoniaeth y tu ôl i bob picsel fod yn llethol, ond sgriniau yw'r dyfodol a gallaf ddychmygu y byddant yn gorchuddio pob panel posibl. 

Roedd hologramau hefyd yn amlwg iawn yn y sioe yn ogystal â sgriniau tryloyw, ond roedd y cymwysiadau'n edrych fel gimic braidd am y tro; dangos byrgyr neu dracio person oedd y brif thema. 

Images from exhibits at ISE Conference

Sain

Yn y thema hon yn y sioe roedd sain ofodol, sain gyfeiriadol, sain haptig a sain sy'n creu rhywbeth i ymgolli ynddo. Yn amlwg, gall pob cwmni gyflenwi sain mewn ffordd unigryw a gwell na'r un nesaf, ond lled-ddargludyddion yw'r brenin, a pho uchaf yw safon y cydrannau, y gorau. Gellir trin a thrafod sain yn helaeth fel na wnaed erioed o'r blaen, ac mae'n ysgogwr economaidd cryf ar gyfer cwmnïau’r dyfodol sy'n awyddus i gyflwyno profiadau trochol ar raddfa fawr. Mae cwmnïau sain yn mabwysiadu tueddiadau newydd ac yn awyddus i lunio eu datrysiadau meddalwedd eu hunain sy'n cyd-fynd â chynyrchiadau rhithwir, y metaverse a phrofiadau trochol.

Images from exhibits at ISE Conference

Bydoedd rhithwir 

Mae hyn yn cynnwys Realiti Rhithwir (VR), MetaVerse, cynyrchiadau a phrofiadau Rhithwir. Caiff y tueddiadau uchod eu pecynnu i roi profiad i ni ar lefel arall. 

Yn gyntaf, Realiti Rhithwir, offeryn rhyfedd ond sy’n dal i fod o gwmpas; yn wahanol i deledu 3D gwelais lawer o bensetiau VR yn cael eu defnyddio naill ai i helpu i arddangos cynnyrch, gwasanaeth neu brofiad neu ddangos datrysiadau gweithio gartref, hyfforddiant ac iechyd. Mae'r pensetiau a'r gweinyddwyr yn sicr yn cael eu huwchraddio, mae defnydd o VR yn cynyddu, ac wrth i gwmnïau weld y gwerth mewn gefeilliaid digidol neu Web 3.0, mae'r profiadau VR hyn yn cynnig IP ehangach nag yr oeddem yn ei feddwl i ddechrau. 

Mae Metaverse yn gysyniad rhyfedd ar hyn o bryd; mae'r cwmnïau offer, meddalwedd a chyfathrebu sy'n darparu band eang yn barod i'w gofleidio, ond mae amheuaeth o hyd am y defnyddiwr neu sut y bydd pobl gartref yn ei ddefnyddio. Bydd cysyniadau ehangach Web 3.0 yma'n fuan, gyda chontractio blockchain eisoes yn y gadwyn gyflenwi. Er enghraifft, mae'r gadwyn gyflenwi yn defnyddio'r system hon, gan nad oes modd ei golygu na'i thrin, sy'n golygu os ydw i'n rhan o'r gadwyn gyflenwi ac yn cyflenwi cydran a'r holl waith papur perthnasol, bydd yn dangos yr hyn a ychwanegais, pryd a phwy a'i cadarnhaodd. Felly, os oes dogfen ar goll, gall y blockchain ddangos yn rhwydd pwy sy'n gyfrifol a phwy a'i cadarnhaodd, gan roi atebolrwydd i bobl yn y gadwyn gyflenwi; dim ond un enghraifft yw hon, ac mae disgwyl mwy. Wrth gwrs, cododd NFTs yn ystod sgwrs, ond unwaith eto mae'r defnydd a hirhoedledd yn destun trafod o hyd. 

Images from exhibits at ISE Conference

Mae cynyrchiadau rhithwir a'r ecosystem ddilynol yn tyfu'n gyflym.

Fel y soniais i, mae paneli LED, sain ofodol, datrysiadau meddalwedd piblinellau i gyd yn cael eu datblygu ar gyfer cymwysiadau annibynnol, ond nawr mae cwmnïau'n mynd ati i ddatblygu datrysiadau meddalwedd ar gyfer cynyrchiadau rhithwir. Holoplot yw un cwmni sy'n mynd ati i gynllunio datrysiadau meddalwedd annibynnol sy'n cyfathrebu'n reddfol gydag unreal engine neu unity. Cyn hyn byddai cyfluniad eu seinyddion yn gweithio gyda pheiriannau cynhyrchu rhithwir fel ategion ac ar y cyd â datrysiadau meddalwedd eraill. Nawr, mae cwmnïau'n cydnabod y byd cynhyrchu ac yn rhoi offer i ddefnyddwyr gyda chefnogaeth wych ac uwchraddiadau, ac sy'n gallu defnyddio'r cyfarpar go iawn. Felly mae gan system sain Holoplot sydd â sain gyfeiriadol bellach ddatrysiad meddalwedd penodol ar gyfer cynhyrchu rhithwir, ac unwaith eto mae eraill yn y byd cynhyrchu rhithwir yn ymuno yn y ras.

O'r diwedd, mae profiadau sy'n dod â'r dechnoleg i gyd at ei gilydd ac yn cynnig profiadau trochol unigryw i gynulleidfaoedd bron â chyrraedd. Illumanrium yw un sefydliad sy'n anelu at greu mannau creadigol trochol o gwmpas y byd sy'n defnyddio adeiladau sy'n bodoli eisoes fel canolfannau siopa a ffatrïoedd gwag. Eu gweledigaeth yw cynhyrchu profiadau artistig pen uchel a defnyddio'r mannau hyn i ddenu artistiaid byd-eang a chyfleoedd twristiaeth i'r economïau lleol, gan gynhyrchu swyddi a thwf ehangach o fewn clystyrau a rhanbarthau sydd â'r cyfoeth hwn o arbenigedd ar stepen y drws. Mae'n argoeli'n gyffrous iawn i'r rheini sydd â diddordeb mewn profiadau gwirioneddol drochol. 

Images from exhibits at ISE Conference

Cadw Cysylltiad yn Ddigidol

Y peth olaf i mi ei drafod am ISE ac un a fydd yn parhau i dyfu rwy'n credu, yw'r dull hybrid hwn o gadw cysylltiad yn defnyddio technoleg, boed hynny drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, rhyngrwyd pethau, gweithio hybrid a chyfathrebu, hyd at fydoedd digidol newydd. Cadwch olwg ar y datblygwyr meddalwedd mawr, datblygiadau arloesol mewn pŵer a thechnoleg cyfrifiadura, neu becyn fydd yn mynd â ni i fannau nad oeddem ni'n credu eu bod yn bodoli. 

Diolch Barcelona am y croeso; mae'n werth ymweld â'r ddinas os nad ydych chi wedi bod yno!

Gavin Johnson

Gavin Johnson, Cynhyrchydd