Wrth baratoi ar gyfer cyhoeddi'r garfan gyntaf o brosiectau a ariennir gan Clwstwr, mae'r Cyfarwyddwr Justin Lewis yn rhannu ei syniadau am amcanion clwstwr ar gyfer y dyfodol a gwneud ymchwil a datblygu yn flaenoriaeth yn niwydiannau creadigol de Cymru.

Professor Justin Lewis

Ac nawr mae’n mynd yn ddiddorol. Ar ôl misoedd o sefydlu prosesau, cynnal digwyddiadau, a llawer o sgyrsiau, mae'r tîm clwstwr yn falch iawn o lansio ein carfan gyntaf o 23 o brosiectau ymchwili a datblygu arloesol yn y sectorau sgrîn a newyddion.

Ein nod yn Clwstwr yw creu ecosystem arloesi yn ne Cymru - a bydd y prosiectau hyn yn rhan bwysig o hynny. Cawsant eu dewis a’u datblygu o blith grŵp cychwynnol o 134 o ddatganiadau o ddiddordeb – sef toreth o syniadau diddorol a phrosiectau sy'n ennyn diddordeb. Roedd llawer gormod i ni allu eu cefnogi ar yn o bryd, ond mae'n amlwg bod dyhead mawr i arloesi yn ein clwstwr a'n bod yn awyddus i helpu i ddatblygu hynny.

Mae'r grŵp cyntaf hwn o brosiectau yn amrywiol ac yn eang ei gwmpas. Maent yn cynnwys cynhyrchu teledu a ffilm, ôl-gynhyrchu, gemau, rhithwir ac AR, y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial ym maes cynhyrchu'r cyfryngau, y cyfryngau cymdeithasol, dawns, addysg, profiadau newydd ar y sgrîn, modelau busnes newydd, rhaglenni dogfennol rhyngweithiol a mathau newydd ar newyddion.

Maent yn mynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion, o drawma plant a lleddfu poen i ddinasyddiaeth a diffyg democrataidd. Mae gan rai'r potensial i wneud cynhyrchu sgrîn a newyddion yn fwy clyfar ac yn fwy effeithiol, a gall rhai eraill greu mathau cwbl newydd o gelf, adloniant neu newyddion.  Mae rhai yn canolbwyntio ar ddatblygu neu ddefnyddio technolegau newydd, ac eraill ar ddulliau newydd o adrodd storïau.

Mae gan y rhan fwyaf ohonynt y potensial i greu a datblygu eiddo deallusol sy'n cael ei wneud a’i leoli yng Nghymru. Wrth i ni symud tuag at yr hyn a alwyd yn 'economi anniriaethol' – lle mae syniadau, straeon, dyluniad, profiadau ac ymchwil a datblygu yn dod yn fwyfwy pwysig – mae hyn yn hanfodol i gynaliadwyedd y sector sgrîn a'r cyfryngau ac i dwf economi Cymru.

Byddwn yn gweithio gyda'r holl brosiectau wrth iddynt roi prawf ar eu syniadau ac yn eu mireinio. Ond mae angen hefyd inni ddysgu oddi wrthynt. Ceir dealltwriaeth dda o beth yw ymchwil a datblygu ym maes gwyddoniaeth a gweithgynhyrchu, ond mae'n gysyniad llai cyfarwydd yn y diwydiannau creadigol. Yn y gorffennol, mae hynny wedi rhoi sectorau creadigol o dan anfantais pan ddaw'n fater o ariannu'r Llywodraeth.

Mae hefyd yn ei gwneud hi'n anoddach i Fusnesau Bach a Chanolig eu maint a’r gweithwyr llawrydd sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o'r sector creadigol yn ne Cymru i gystadlu â'r cwmnïau corfforaethol mawr, yn yr Unol Daleithiau sydd â chapasiti mewnol i wneud ymchwil a datblygu. Rhan o'r hyn rydyn ni'n ei wneud yw sicrhau chwarae teg, gan adael i fusnesau bach fod yn hardd ac yn llwyddiannus.

Mae gan yr holl brosiectau rydyn ni'n eu hariannu un peth yn gyffredin: byddan nhw'n dangos sut olwg sydd ar ymchwil a datblygu yn y ddiwydiannau creadigol, ac yn dangos pam mae hynny'n bwysig. Yn y tymor hirach, bydd hyn yn ein galluogi i symud tuag at ddealltwriaeth fwy soffistigedig a chynhwysol o ymchwil a datblygu yn y Deyrnas Unedig.