Nod arolwg Clwstwr yw rhoi darlun hanfodol o faint, nerth a natur arloesol y diwydiannau creadigol yn Ne Cymru. 

Bydd y canfyddiadau yn llywio'r rhaglen Clwstwr, sy'n bwriadu mynd â'r sector sgrîn gyfredol o nerth i arweinyddiaeth, yn rhyngwladol. 

Mae arolwg Clwstwr ar gyfer busnesau creadigol (cwmnïau ac unig fasnachwyr). Byddwn yn gofyn i chi am weithgareddau arloesedd ac Ymchwil a Datblygu, yn ogystal â gwybodaeth ariannol am eich busnes.

Cliciwch yma i ddechrau’r arolwg. (Fel arfer, mae'n cymryd tua 15 munud i'w lenwi). 

Caiff yr atebion eu dadansoddi'n gyfrinachol, a defnyddir y wybodaeth at ddefnydd mewnol ac er mwyn dadansoddi’r sector yn unig.

Am ragor o wybodaeth neu er mwyn cysylltu â ni, cliciwch yma. 

Diolch am helpu Clwstwr i ddeall yr economi greadigol leol yn well. Rydym yn gwerthfawrogi eich amser a’ch cipolwg ar arloesedd a chreadigrwydd yng Nghymru.