Ar ôl galw am geisiadau arloesi a phroses hynod gystadleuol, dewiswyd y garfan gyntaf o brosiectau Y&D Clwstwr.

Mae cwmnïau ffilm a theledu, busnesau technoleg, sefydliadau creadigol a gweithwyr llawrydd ymysg y rhai fydd yn derbyn arian ac yn gweithio gydag academyddion i ddatblygu eu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd.

Mae'r prosiectau cychwynnol yn cynnwys gwasanaeth newyddion ar gyfer ysgolion, cyfleusterau golygu o bell i dyfu'r sector ôl-gynhyrchu yn y rhanbarth, a defnyddio technoleg i drawsnewid y ffyrdd y mae pobl yn creu a phrofi dawns.

Bydd cyfranogwyr yn ymchwilio i fformatau newydd ar gyfer adrodd storïau gan gynnwys dogfennau rhyngweithiol, gemau afliniol a hybrid rhwng ffilm, teledu, theatr a gemau realiti amgen.

Bydd y garfan yn ymchwilio ac yn datblygu syniadau sy'n cynnwys deallusrwydd artiffisial yn yr ystafell newyddion, canolfan ar gyfer cynnwys pêl-droed menywod a stiwdio ffilmiau realiti rhithwir.

Yn ôl cyfarwyddwr Clwstwr, yr Athro Justin Lewis:

"Mae ein carfan Clwstwr gyntaf yn cynnig amrywiaeth gyffrous o brosiectau ac mae safon y ceisiadau a ddaeth i law yn brawf o'r sector cyfryngau lewyrchus sydd yma yn ne Cymru. Yn ogystal â gwella'r diwydiannau sgrîn a newyddion, mae gan y prosiectau a ddewisir hefyd y potensial i wella sectorau eraill fel addysg, gofal iechyd a busnes.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'r garfan wrth iddynt droi eu syniadau'n gynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau cyffrous fydd yn rhoi gwell cyfleoedd iddynt dyfu ac y byddant, yn eu tro, yn helpu i sicrhau enw da cynyddol de Cymru fel canolfan cynhyrchu ac arloesedd ar gyfer y cyfryngau."

Meddai’r Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru:

“Mae’r diwydiannau creadigol yn werth bron i £1 biliwn i Gymru bob blwyddyn ac mae’n un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae Cymru wedi mwynhau mwy o lwyddiant nag erioed dros y blynyddoedd diwethaf. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn helpu i ddenu a chynhyrchu dramâu teledu llwyddiannus, ffilmiau a llwyth o bethau eraill. Mae’n arddangos Cymru i’r byd ac yn cefnogi swyddi lleol a rhoi hwb i’r economi ar yr un pryd.

“Rydym ar adeg dyngedfennol pan mae sawl cyfle yn dod ynghyd. Os bydd y gefnogaeth gywir ar gael dros y blynyddoedd nesaf, gall y diwydiant fynd o nerth i nerth gan gynnig hyd yn oed yn fwy o fanteision i Gymru.

“Rydym yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol hwn mewn Ymchwil a Datblygu yn y Diwydiannau Creadigol ac yn falch o allu cynnig yr arian cyfatebol a helpodd i sicrhau’r rhaglen i Gymru.”

Dyma'r prosiectau Clwstwr sydd wedi eu hariannu gyntaf: 

Mae’r Clwstwr yn dod â holl brif ddarlledwyr Cymru, gan gynnwys BBC Cymru Wales, S4C ac ITV Cymru ynghyd â chwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu annibynnol, cwmnïau cenedlaethol a chyrff creadigol Cymru, mannau cydweithio creadigol, cwmnïau technegol newydd, asiantaethau strategol gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, awdurdodau lleol gan gynnwys Cyngor Caerdydd a'r llywodraeth at ei gilydd.