Fis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Sefydliad Ffilmiau Prydain ei adroddiad diweddaraf (Screen Report), gan ddadansoddi sut roedd gostyngiad treth sector ffilmiau a theledu’r deyrnas wedi effeithio ar fudd-ddalwyr a’r economi yn 2019. Mae’r adroddiad yn cynnwys data cyffredinol a rhai sy’n benodol i amryw wledydd y deyrnas: diben hyn o adroddiad yw crynhoi’r data pwysicaf am Gymru. Mae’n crynodeb yn cymharu Cymru â gweddill y deyrnas hefyd, gan ganolbwyntio ar ddau sector: teledu pen uchel a gwneud ffilmiau.

Sefydlwyd disgownt treth ffilmiau’r deyrnas yn 2007 i ddenu rhagor o gynhyrchu a hybu’r diwydiant. Mae’r disgownt treth a gyhoeddwyd yn 2013 a 2014 yn cynnig yr un buddion i deledu pen uchel, cartwnau i’w darlledu a gêmau fideo. Uned Ardystio Sefydliad y Ffilmiau yw’r ddolen gyswllt ag ymgeiswyr a hoffai dalu llai o dreth.

Mae’r mathau hyn o ddisgownt yn galluogi cwmni cynhyrchu a chanddo brosiect addas i adennill 25% o’i wariant priodol. Mae’r disgownt yn berthnasol i 80% o gyllideb y cynhyrchu. Un o ddibenion y disgownt yw y dylai fod sgil-effeithiau ar y gwledydd a’r rhanbarthau lle mae’r cynhyrchu’n digwydd, gan effeithio’n fawr ar economïau lleol.

Mae’n dadansoddiad o ddata Sefydliad y Ffilmiau yn dangos bod y disgownt wedi effeithio’n fawr ar deledu pen uchel a ffilmiau yng Nghymru. Mae rôl flaenllaw i sectorau teledu pen uchel a gwneud ffilmiau Cymru o’u cymharu â gweddill y deyrnas, o ran gwario’n effeithlon a deilliannau gwerth ychwanegol crynswth fel ei gilydd. Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:

  • O ganlyniad i’r disgownt i sector y gwneud ffilmiau, cynyddodd gwerth ychwanegol crynswth gwariant cwmnïau lleol o naw gwaith.
  • I bob gweithiwr ychwanegol yn sector teledu pen uchel Cymru, daeth £59,000 ychwanegol ar draws cadwyn y gwerth trwy’r disgownt. Yr uchaf ond un yw gwerth ychwanegol crynswth Cymru ymhlith y gwledydd a’r rhanbarthau (tua £57,000 yw cyfartaledd y deyrnas gyfan).
  • Bydd pob £100,000 a ddaw trwy’r disgownt yn galluogi sector gwneud ffilmiau Cymru i gyflogi 14 gweithiwr ychwanegol – cymhareb uchaf y deyrnas ond un ymhlith y gwledydd a’r rhanbarthau.
  • Arweiniodd pob punt a ddaeth trwy’r disgownt ac a wariwyd ar gynhyrchu ffilmiau wedyn at £8.8 o ran gwerth ychwanegol crynswth ar draws cadwyn gwerth cynhyrchu ffilmiau Cymru – ac mae hynny’n uwch o lawer na chyfartaledd y deyrnas, sef £2.5. Yr uchaf ond un ymhlith gwledydd a rhanbarthau’r deyrnas yw ffigur Cymru.
  • Arweiniodd pob punt ychwanegol a wariwyd yng Nghymru o achos disgownt treth i deledu pen uchel at £1.5 ar draws cadwyn y gwerth. Mae hynny ychydig yn is na chyfartaledd y deyrnas, £1.8.

Dyma adroddiad Sefydliad y Ffilmiau yn ei gyfanrwydd: https://www.bfi.org.uk/industry-data-insights/reports/uk-screen-sector-economy

 
 
Máté Fodor headshot

Máté Fodor

Marlen Komorowski

Dr Marlen Komorowski, Dadansoddydd Effaith

Sara Pepper

Sara Pepper, Prif Swyddog Gweithredu

Professor Justin Lewis

Yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr