Gwybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ŵyl flynyddol deithiol, sy’n symud bob yn ail flwyddyn rhwng gogledd a de Cymru. Am wyth diwrnod ym mis Awst, mae'n dathlu diwylliant ac iaith Cymru drwy gerddoriaeth, dawns, celf, llenyddiaeth, perfformiad a chyfryngau eraill, yn ogystal â chynnal cystadlaethau. Dyma'r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop, gan ddenu 175,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.  

Cynhelir ein digwyddiad blynyddol mewn caeau, trefi a dinasoedd, ond roeddem am archwilio’r cyfrwng digidol.

Am gyfnod hir, dim ond at ddibenion cyfathrebu y gwnaethom ystyried defnyddio’r cyfrwng digidol. Yn fwy diweddar, sylweddolom y gallem hefyd ei ddefnyddio i gyflwyno, efallai drwy greu profiad digidol rhyngweithiol i’w gynnal ochr yn ochr â'n gŵyl. Po fwyaf yr oeddem yn meddwl amdano, po fwyaf y gwelsom yr angen am ymchwil a datblygu; roedd gennym gymaint o gwestiynau ac roeddem yn teimlo bod llawer o botensial.

Gwnaethom gais am gyllid gan Clwstwr i weithio ar ein syniad.

I ddechrau, gofynnwyd am £140,000 o gyllid i ddatblygu cynllun peilot ar gyfer profiad rhyngweithiol, ymdrwytho sy'n galluogi defnyddwyr i gael mynediad i'r ŵyl yn Gymraeg a chyfathrebu ag eraill o fewn y gofod hwnnw. Roeddem yn gobeithio y gallem osgoi'r cam ymchwil a datblygu cychwynnol a mynd yn syth i'w adeiladu, sy’n esbonio’r swm mawr o arian a geisiwyd gennym, ond credai tîm Clwstwr y dylem wneud ymchwil a datblygu cyn datblygu'r peilot. Felly, cawsom £10,000 o gyllid Clwstwr i ymchwilio i'r cynnig.

Daeth y pandemig yn syth ar ôl inni ddechrau ein prosiect.

Dros nos, aethom o gael syniad o sut y gallem fod yn arloesol – oherwydd, yn rhyfedd ddigon, nid oedd dim byd tebyg i'n syniad yn digwydd ym myd yr ŵyl bryd hynny – i gael ein gorfodi i greu cynnig digidol i fodoli yn unig. Yn ffodus, nid oedd y pandemig yn effeithio cymaint ar ein gwaith ymchwil a datblygu, oherwydd roedd gennym lawer o waith paratoi ac ymchwil i’w gwblhau. 

Gwnaethom amlinellu rhai meysydd yr oeddem am eu harchwilio. 

Roedd gennym lawer o syniadau. Diolch byth, gwnaeth ein mentoriaid Clwstwr yn siŵr ein bod yn aros ar y trywydd iawn drwy ofyn cwestiynau a chwestiynu ein datganiadau, fel y gallem nodi'r pethau pwysicaf i ymchwilio iddynt.

Er enghraifft, yn ogystal â dangos sut olwg allai fod ar gynllun peilot, dywedasom ein bod am ddatblygu ein cynulleidfa. Gwnaeth ein mentoriaid Clwstwr ein cwestiynu am hyn, gan ofyn inni ddeall yn well pwy allai ein cynulleidfa fod cyn ceisio ei datblygu. Dysgom i anghofio am ein cwestiynau mawr am y tro a mynd drwy'r pethau sylfaenol gam wrth gam yn lle hynny. Mae angen i ymchwil a datblygu gynnwys llawer o ymchwil, nid datblygu yn unig. 

Gwnaethom nodi bylchau yn y farchnad drwy ddadansoddi gwyliau ar-lein a oedd yn cael eu cynnig.

Buom yn chwilio am wyliau sy'n ymgysylltu'n weithredol â chynulleidfaoedd ar-lein, yn hytrach na rhoi mynediad i gynnwys sy'n bodoli eisoes yn unig. Gwnaethom fapio'r hyn a ganfuwyd gennym, sef fersiynau ffisegol a digidol o wyliau. Yna, gan ddefnyddio'r hyn yr oeddem wedi'i ddysgu o enghreifftiau sy'n bodoli eisoes, gwnaethom ystyried ein platfform ein hunain – e economi o ran maint, y seilwaith dan sylw, anghenion ein cynulleidfaoedd a'n perfformwyr a pha dechnoleg y dylem ei defnyddio (h.y. a ddylem ddefnyddio technoleg chwarae gemau cyfrifiadurol neu roi cynnig ar blatfformau ffynhonnell agored).

Roedd y rhan fwyaf o wyliau â chynnig ar-lein yn rhoi profiad goddefol i wylwyr.

Dim ond ffrydio cynnwys oedd y rhan fwyaf o'r gwyliau a welsom ar-lein yn ei wneud, yn hytrach na rhoi rhywbeth i ddefnyddwyr ryngweithio ag ef. Roedd un enghraifft yr oeddem yn ei hoffi, Shangri-La yn Glastonbury, a oedd wedi edrych ar sut y gallech ddefnyddio technoleg gemau cyfrifiadurol i greu profiad ymdrwytho ar-lein lle daeth y defnyddiwr yn afatar. Gyda hyn i gyd mewn golwg, roeddem yn teimlo bod angen i ni fynd â phethau i'r lefel nesaf. 

Gwnaethom gynnal sgyrsiau gyda gwyliau eraill, rhai tebyg i ni a rhai gwahanol. 

Gofynnwyd iddynt a fyddai ein syniad am gynnyrch sy'n darparu cynnwys digidol rhyngweithiol, sy'n ymgysylltu y tu hwnt i'r hyn sy'n bodoli eisoes, yn rhywbeth y byddai ganddynt ddiddordeb ynddo. Roedd llawer ohonynt yn awyddus i ddarganfod mwy a bod yn rhan o'n taith. Dywedodd rhai wrthym eu bod wedi cael syniadau tebyg eu hunain ond nad oeddent wedi mynd â nhw ymhellach, a oedd yn dangos i ni fod galw am ein cynnyrch. 

Pe baem yn mynd ati yn y ffordd iawn, gallem gael cynnyrch i’w glonio neu ei fenthyg i fusnesau eraill er mwyn codi incwm ar gyfer yr Eisteddfod. A gallem gael pobl i’n cefnogi er mwyn ein helpu i ddefnyddio platfformau neu gynhyrchion sy'n bodoli eisoes i wireddu’r syniad, yn hytrach na dechrau o'r dechrau. 

Ar ôl cadarnhau bod angen ein cynnyrch, ystyriwyd ein camau nesaf. 

Roeddem am symud i ail gam ymchwil a datblygu, un lle byddem yn bartner gyda Lost Horizon, y cwmni a greodd brofiad Shangri-La yn Glastonbury, i ddechrau gwneud ein cynllun peilot. Byddem yn dechrau drwy wneud profiad digidol ar gyfer Maes B, y ddarpariaeth ieuenctid, ac yna ei gynyddu. Gwnaethom gyflwyno cais am ragor o arian Clwstwr, ond yn anffodus ni chawsom hynny. Roedd hyn yn drueni oherwydd bod gennym gynlluniau mawr ar gyfer y peilot, ond gwnaethom elwa llawer o'r gwaith yr oeddem eisoes wedi'i wneud. 

Pan fydd gennym syniadau newydd yn y dyfodol, gallwn ddefnyddio'r egwyddorion a ddysgodd Clwstwr i ni. 

Os ystyriwn ddechrau cynllun peilot gwahanol yn y dyfodol, byddwn yn mynd drwy'r holl gamau a brofwyd gennym yn Clwstwr – yr ymholiadau, y marciau cwestiwn, yr ymchwil ac yn y blaen – fel bod gennym ddealltwriaeth gadarn o'n syniad a phrawf o gysyniad. Os daw cyllid, byddem yn teimlo'n barod i ddechrau datblygu ein cynllun peilot ar gyfer y platfform. Credwn fod y dyfodol yn hybrid, felly os nad ydym yn cymryd y cam hwnnw, er ei fod yn beryglus, rydym yn atal ein hunain rhag esblygu a thyfu mewn ffyrdd newydd.