Ynglŷn â Focus Shift Films
Cwmni cynhyrchu i’r cyfryngau yw Focus Shift Films. Mae'n creu cynnwys digidol ac yn datblygu sgriptiau hir a phrosiectau teledu. Enwebwyd un o'i ffilmiau byr ar gyfer Gwobr BAFTA Cymru yn 2019. Mae bellach yn gweithio ar ap, Viewfinder For Sports, ochr yn ochr â phrosiectau eraill.
Ynghyd â'n partneriaid yn Efrog Newydd, ViewPark, gwnaethom edrych ar greu cynnyrch digidol a allai ddarparu ar gyfer cefnogwyr chwaraeon a thwristiaeth. Mae llawer o arian yn cael ei wario ar dwristiaeth chwaraeon, ond ychydig iawn o gynnyrch sydd ar gael i dwristiaid chwaraeon. Roeddem am greu rhywbeth a oedd yn dod â thwristiaeth a chwaraeon at ei gilydd mewn ffordd ddeniadol, gan roi cynnwys a chyfleoedd unigryw sy'n gysylltiedig â chwaraeon i gefnogwyr chwaraeon pan fyddant yn teithio.
Er mwyn ein galluogi i ymchwilio ymhellach i'r farchnad, gwnaethom gais am grant o £10,000 gan Clwstwr
Cyn dechrau unrhyw fath o adeiladu, roeddem am archwilio ein marchnad a darpar ddefnyddwyr y cynnyrch, yn ogystal â rhoi rhywfaint o ystyriaeth i sut olwg allai fod ar ein cynnyrch a sut byddai’n gweithio. Roeddem hefyd am ystyried pa fath o gynnwys y gallai'r defnyddwyr ymgysylltu ag ef orau a sut y byddent yn ymgysylltu â'r cynnwys hwnnw. Gyda'r wybodaeth hon, roeddem yn gobeithio creu prototeip y gallem ei brofi ar ein defnyddwyr targed.
Fel rhan o raglen Clwstwr, cynhaliodd ADP sawl gweithdy rhagarweiniol
Roedd y gweithdai hyn yn ddefnyddiol; roeddent yn ein hannog i feddwl mwy am y dull y byddem yn ei fabwysiadu a sut y gallem ddarganfod mwy am yr hyn y byddai ein cwsmeriaid targed am ei gael. Gwnaethom ddatblygu arolwg a’i anfon at aelodau o'n cynulleidfa darged, gan ofyn cwestiynau iddynt i'n helpu i gael mewnwelediadau y gellid eu defnyddio.
Ein cam nesaf oedd edrych ar yr hyn a oedd eisoes yn bodoli
Buom yn ymchwilio i apiau a oedd yn canolbwyntio ar wahanol ddiwydiannau i weld beth roeddent yn ei wneud, gan wneud nodiadau ar ffyrdd roeddent yn debyg neu'n wahanol i'n cynnyrch arfaethedig a nodi unrhyw beth y gallem ei ychwanegu at ein syniad i'w wneud hyd yn oed yn well.
Nid oedd cynnyrch presennol a oedd yn gwneud yr hyn roeddem yn bwriadu ei wneud yn y farchnad chwaraeon
Mae gan rai clybiau a sefydliadau unigol ap eu hunain, ond dim byd tebyg i'r hyn roeddem yn ei ragweld. Roeddem am i'r ap weithio ar draws y ddinas, gan ddod â'r holl wahanol chwaraeon a thimau at ei gilydd mewn ardal ar un ap. Yng Nghaerdydd, sef y ddinas gyntaf roeddem am adeiladu'r ap ar ei chyfer, gallem ddod â rygbi, pêl-droed, hoci iâ a chwaraeon eraill yn yr ardal at ei gilydd, a fyddai'n darparu man gwybodaeth i dwristiaid sydd â diddordeb mewn amrywiaeth o chwaraeon.
Gwnaethom droi at ddatblygu rhywfaint o gynnwys ar gyfer ein prototeip
Er mwyn arddangos yr holl chwaraeon yn y ddinas, roeddem am i'r cynnwys ar yr ap annog defnyddwyr i symud o amgylch y ddinas, bron fel pe bai cynnwys yr ap yn gallu darparu taith ar ffurf amgueddfa o hanes a threftadaeth chwaraeon yn y ddinas. Mae hyn yn rhywbeth y credwn y gellid ei wneud drwy ymgorffori ffeithiau, straeon a phethau cofiadwy i'r cynnwys hwnnw a dotio'r cynnwys hwnnw o amgylch mannau penodol. Roeddem yn teimlo y byddai'n gwneud y profiad yn fwy deniadol.
Gwnaethom gynhyrchu cynnwys cyffredinol a lleoliad-benodol mewn amrywiaeth o arddulliau
Mae fideos realiti estynedig cyffredinol, gan gynnwys un lle mae chwaraewr yn cyflwyno'r ddinas. Mae darnau eraill o gynnwys mewn lleoliadau penodol hefyd. Er enghraifft, os bydd defnyddiwr yn mynd i Stadiwm Principality ac yn cyrchu'r ap, byddant yn actifadu cynnwys sy'n unigryw i'r lleoliad hwnnw. Yn yr achos arbennig hwn, mae'r cynnwys yn cynnwys fideos rygbi, uchafbwyntiau rygbi ac animeiddiad 3D o grys Barbariaid Gareth Edwards o'r adeg y sgoriodd un o'r ceisiadau mwyaf mewn hanes yn hen Barc yr Arfau, Caerdydd.
Ychydig iawn o brofiad oedd gen i o adeiladu apiau neu ddatblygu pethau o gysyniad i brototeip
Roeddwn i'n arfer gweithio mewn asiantaeth ddigidol lle byddem yn datblygu pethau i gleientiaid, ond nid oedd yn ddim byd i'r lefel hon. Dyma’r tro cyntaf i ni archwilio ein ap ein hunain. Er mwyn ein helpu i adeiladu prototeip yr ap, rydym wedi'i alw'n Viewfinder For Sports, buom yn gweithio gydag asiantaeth a oedd â digon o brofiad mewn adeiladu apiau. Cawsom nifer o gynghorwyr, gan gynnwys Robin Moore, cyn-bennaeth arloesedd BBC Cymru, a Jamie Graham, o Who Knows Wins, yn ogystal â phobl eraill a oedd wedi datblygu syniadau o'r dechrau. Gwnaethant roi lawer o arweiniad i ni ar hyd y ffordd.
I brofi'r prototeip, gofynnwyd i grŵp defnyddwyr roi cynnig ar yr ap mewn lleoliadau o amgylch Caerdydd
Roedd gan y grŵp defnyddwyr bobl o'n marchnad darged, sef dynion 30 i 50 oed yn bennaf. Pobl sy'n teithio gyda phartner neu gyda'u teulu sydd am brofi ychydig o chwaraeon tra byddant yno.
Gwnaethom roi’r ap ar ffôn pob defnyddiwr, dangos iddyn nhw sut roedd yn gweithio a chaniatáu iddyn nhw archwilio'r ap a'i wahanol swyddogaethau.
Roedd yr adborth a gawsom gan ddefnyddwyr yn gadarnhaol iawn
Gofynnwyd iddynt ddweud wrthym beth roeddent yn ei hoffi amdano, beth yr hoffent weld mwy ohono a'r hyn nad oeddent yn ei fwynhau gymaint. O'r fan honno, gallem fireinio ein cynnig, ei ddatblygu a'i esblygu ymhellach.
Dywedodd y defnyddwyr profi eu bod yn hoffi'r ffaith bod gwahanol chwaraeon i gyd yn cael eu casglu at ei gilydd mewn un lle. Roeddent hefyd yn hoffi sut roedd elfennau o hanes a threftadaeth. Ar y cyfan, roeddem yn falch iawn.
Roedd gwaith i'w wneud o hyd i esblygu'r cynnyrch ar ôl prosiect Clwstwr
Gwnaethom barhau i weithio ar yr ap, gan ei ddatblygu ymhellach yn seiliedig ar yr adborth. O safbwynt sefyllfa fasnachol, roedd angen inni nodi'n union pa fath o dwristiaid chwaraeon roeddem yn eu targedu. Er enghraifft, os ydych chi'n ymwelydd chwaraeon sy'n dod i Gaerdydd ar gyfer y Chwe Gwlad, rydych chi'n fwy tebygol o gael ychydig ddyddiau llawn yfed na phenwythnos yn llawn gweithgareddau treftadaeth. Treuliwyd peth amser yn ymchwilio i hyn, ymhlith pethau eraill, a gwella ein cynnyrch yn unol â hynny.
Yn yr iteriad presennol, rydym yn edrych ar hwyluso’r broses o werthu tocynnau chwaraeon a chymryd ffi archebu. Mae potensial hefyd i ni ddatblygu model tanysgrifio ar gyfer rhywfaint o'n cynnwys unigryw.
Mewn byd delfrydol, byddem wrth ein bodd yn creu cynnwys ar yr ap ar gyfer pob dinas sy’n cynnal llawer o chwaraeon
Credwn fod cyfle i ehangu’r ap. Byddai'n golygu, os ydych yn gefnogwr chwaraeon, a'ch bod yn mynd ar wyliau i ddinas fawr, y byddech yn gallu gweld pa gyfleoedd sydd yn y lleoliad hwnnw i ymgysylltu â brandiau chwaraeon, cwmnïau chwaraeon, digwyddiadau chwaraeon a phrynu nwyddau chwaraeon. Gallai hwyluso'r pethau hyn fod yn ffrwd incwm bosibl i ni.
Rydym yn gobeithio datblygu’r ap drwy raglen deori
Rydym wedi cyflwyno’r ap i leAD, sefydliad sydd wedi'i leoli yn yr Almaen a sefydlwyd gan wyrion Adi Dassler, a ddechreuodd Adidas. Mae gan leAD raglen deori technoleg chwaraeon, a fyddai'n gyfle gwych i ni fod yn rhan ohoni. O broses Clwstwr a'r hyn rydym wedi'i ddysgu a'i ddatblygu, rydym yn llunio ap cryf. Os ydynt yn buddsoddi yn y cynnyrch ac yn ein rhoi ar y rhaglen chwe mis hon, byddai'n rhoi llwyfan gwych i ni fynd ag ef ymhellach.
Byddai buddsoddiad, mynediad i amrywiaeth o wahanol arbenigwyr a sefydliadau drwy'r rhwydwaith, ac, ar ddiwedd hynny, byddai cyfle i gyflwyno i fuddsoddwyr am fwy o arian i wneud gwaith adeiladu llawn i'r farchnad.
Roedd proses Clwstwr yn ddiddorol iawn ac yn fuddiol
Roedd y tîm yn gymwynasgar iawn ac yn dangos i ni sut i feddwl yn wahanol am yr hyn roeddem yn ei wneud, gan ein hannog i archwilio gwahanol ffyrdd o fanteisio i'r eithaf ar y cyfle sydd gennym. Fydden ni ddim ar y cam rydyn ni ar hyn o bryd heb Clwstwr.