Mae Clwstwr wedi creu'r erthygl byw hon er mwyn cyfeirio prosiectau Clwstwr i gamau nesaf posibl yn ogystal â rhannu ffynonellau eraill o arian gydag unigolion, busnesau a sefydliadau. Byddwn ni'n parhau i ddiweddaru'r rhestr sy'n cynnwys: opsiynau arian yn sgil cyngor a chefnogaeth busnes, graniau, cronfeydd a gwybodaeth am gyfalaf menter. 

Yn ein digwyddiad diweddaraf Sesiwn Clwstwr: Cyflwyno'r Buddsoddwyr ar yr 22ain o Orffennaf fe glywon ni gan gynrychiolwyr o Gymru Greadigol, Angels Invest Wales/Banc Datblygu Cymru, Lloegr Creadigol a Rhaglen SETsquared Scale-Up. Gwyliwch y sesiwn: 

Rydym wedi dosbarthu'r rhestr o ffynonellau eraill o arian i mewn i'r themâu canlynol: 

Cyngor a Chefnogaeth Busnes

Grantiau a Chronfeydd

Comisiynu

Addysg

Cronfeydd COVID-19

Mae pob sefydliad sy'n derbyn arian gan Clwstwr ar gam gwahanol ac efallai y bydd rhai yn sefydlu is-gwmni, yn ail-lunio'r sefydliad neu'n edrych ar lwybrau eraill o arian er mwyn datblygu eu syniadau ym mhellach.

Rydym ni'n gwerthfawrogi bod sefydliadau angen rhagor o sgiliau a chefnogaeth er mwyn cwblhau ceisiadau ar gyfer arian ac mae nifer o sefydliadau a chwmnïoedd proffesiynol yn bodoli er mwyn cynnig yr arbenigedd hwn.

Cronfeydd COVID-19

Busnes Cymru

UKRI