Holwyd yr Athro Ruth McElroy, yr Athro Justin Lewis a Chynhyrchydd Clwstwr, Adam Partridge, ynglŷn â Galwad Agored Clwstwr 2020.

Cyfarwyddwr Clwstwr Yr Athro Justin Lewis ac un o Gynhyrchwyr Clwstwr Adam Partridge sy'n mynd â chi drwy'r broses o lenwi Ffurflen Gais ar gyfer Galwad Agored 2020. 

Byddwn ni'n cynnal sesiwn gwybodaeth arall ar ddydd Llun, 8 Mehefin 2020 am 2pm - sicrhewch eich bod yn archebu lle gan ddefnyddio'r ddolen yn eich llythyr adborth Datganiad o Ddiddordeb. 

Gwyliwch Gyd-gyfarwyddwr Clwstwr, Yr Athro Ruth McElroy'n cyflwyno sesiwn gwybodaeth am Alwad Agored 2020 yn ystod y cam Datganiad o Ddiddordeb isod: