Partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Clwstwr yw Her Amgueddfa Cymru. Bydd yn edrych ar ffyrdd arloesol a chreadigol o ailystyried profiad yn yr amgueddfa trwy archwilio’r casgliadau yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. 

O dan yr alwad hon, dyfernir cyllid i gefnogi ymchwil a datblygu (R&D) ar gyfer ffyrdd arloesol o brofi a rhyngweithio’n gorfforol ac yn ddigidol â chasgliadau Amgueddfa Cymru (rhai Sain Ffagan yn benodol) ar raddfa leol a byd-eang.  

Pwy all wneud cais?

Mae'r ceisiadau nawr ar gau.

Mae cynlluniau grant Clwstwr wedi'u cynllunio i gefnogi sefydliadau o wahanol faint a math, gan gynnwys microfusnesau, unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a sefydliadau ymchwil.

Rydym yn croesawu ceisiadau a chyfleoedd i greu partneriaethau gan bawb.

Rydym yn awyddus i ddenu pobl i weithio gyda ni o ystod eang o gefndiroedd. Rydym yn credu bydd hyn yn ein galluogi i barhau i edrych ar y byd o'r newydd a dod o hyd i ffyrdd gwahanol o wneud pethau. 

Rydym yn croesawu ceisiadau'n benodol gan fenywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, ymgeiswyr LHDT+ a siaradwyr Cymraeg gan nad yw’r grwpiau hyn yn cael eu cynrychioli'n ddigonol o fewn ein carfan ar hyn o bryd.

Faint galla’ i wneud cais amdano?

O dan yr alwad hon, bydd dau brosiect yn cael hyd at £25,000 yr un.

Mae gan y Partneriaid yr hawl i ariannu uwchlaw neu islaw'r ddau brosiect a grybwyllir uchod. Felly, gellir addasu lefel y buddsoddiad i adlewyrchu’r prosiectau a ddyfernir

Sut mae gwneud cais?

Mae'r ceisiadau nawr ar gau.

Cyn i chi wneud cais am gyllid, mae'n ofynnol i chi gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. Mae'r Datganiad o Ddiddordeb yn gyfle i chi rannu amlinelliad sylfaenol o’r syniad yr hoffech ei ddatblygu gyda'r partneriaid.

Dewisir hyd at 10 syniad i'w datblygu ymhellach yn ein Gweithdy Her, ac yn dilyn y gweithdy gallwch gyflwyno cais ffurfiol am gyllid. 

Amserlen

Mae'r ceisiadau nawr ar gau.

  • 20 Medi 2021: Dechrau’r cyfnod cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb
  • 4 Hydref a 5 Hydref 2021: Sesiynau un i un y gellir eu trefnu ymlaen llaw
  • 11 Hydref 2021: Diwedd y cyfnod cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb
  • 18 Hydref 2021: Hysbysu’r ymgeiswyr
  • 20, 21 a 22 Hydref  2021: Gweithdy ar gyfer cyfranogwyr a lansio cais llawn. 3 x sesiynau anghysbell bore 
  • 8 Tachwedd 2021: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
  • 19 Tachwedd 2021: Hysbysu’r ymgeiswyr

 

Prosiectau i'w cyflawni erbyn mis Mai 2022

Sylwer: O ran ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion B/byddar, drwm eu clyw, anabl neu niwroamrywiol, a phobl sydd wedi colli eu golwg, byddwn yn ymdrechu i ddarparu ein Canllawiau a'n Ffurflenni Cais mewn fformatau amgen. Mae rhagor o gymorth ar gael hefyd i gwblhau cais. I drafod eich gofynion gyda ni, ebostiwch clwstwrcreadigol@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02922 511434.

Cwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch ag Adam Partridge, Cynhyrchydd Clwstwr, partridgea3@caerdydd.ac.uk.