Clwstwr Clecs: Dal i fyny'n gyflym gyda'n aelod o'r Garfan a ariennir gan Krystal Lowe, dawnsiwr, coreograffydd, awdur a chyfarwyddwr hunangyflogedig.
Helo Krystal!
Dywedwch wrthym amdanoch chi a'ch busnes.
Rwy'n ddawnsiwr, coreograffydd, awdur a chyfarwyddwr hunangyflogedig. Rwy'n hunan-gynhyrchu ac yn creu gweithiau theatr ddawns ar gyfer y llwyfan a mannau cyhoeddus.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i wneud cais am gyllid?
Cefais wybod am gyllid Clwstwr drwy'r cyfryngau cymdeithasol ac roeddwn i eisiau cael rhagor o wybodaeth. Cefais gyfle i siarad ag un o aelodau tîm Clwstwr am y cyllid, sut mae’n gweithio ac ar gyfer pa fath o bethau y gellir ei ddefnyddio. Sylweddolais y byddai’n gweddu’n dda i mi ac yn cefnogi ochr ymchwil a datblygu fy ngwaith, felly penderfynais fynd amdani. Yn dilyn fy nghais llwyddiannus, derbyniais £10,000 mewn cyllid.
Beth oeddech chi'n bwriadu ei wneud ar gyfer eich prosiect Clwstwr?
Roeddwn i eisiau archwilio sut mae'r diwydiant sgrin yn rhannu straeon am bobl o leiafrifoedd ethnig. Teimlais fod pobl o leiafrifoedd ethnig yn aml yn cael eu hystyried fel grŵp, yn hytrach nag unigolion â’u straeon personol, eu profiadau, eu harsylwadau a’u gwybodaeth eu hunain. Ar ôl gallu ymchwilio i’r maes hwn, roeddwn yn gobeithio cael cipolwg ar sut y gallai'r diwydiant sgrin wella'r profiad i gyfweleion, cyfwelwyr a chynulleidfaoedd o'r cynnwys er mwyn cynrychioli unigolion o leiafrifoedd ethnig yn well.
Disgrifiwch y broses yr aethoch drwyddi.
Yn gyntaf, cysylltais â fy nghefnogaeth academaidd berthnasol a rhai o gysylltiadau Clwstwr i'w cyflwyno i syniad fy ymchwil. Gyda fy nhîm, dechreuais ymchwilio i sut mae’r diwydiant sgrin yn rhannu straeon am bobl o leiafrifoedd ethnig, gan dynnu ar wybodaeth y cyhoedd trwy arolygon a grwpiau ffocws.
Beth oedd canlyniadau eich ymchwil?
Yn dilyn y cyfnod ymchwil, casglais yr holl ddata i werthuso'r canfyddiadau. Profodd fy ymchwil yr hyn roeddwn i'n ei amau o'r cychwyn, sef bod y diwydiannau sgrin yn aml yn adrodd straeon am bobl o leiafrifoedd ethnig fel pe baent yn grŵp, yn hytrach nag yn unigolion â'u straeon personol eu hunain. Gyda'r wybodaeth yma, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw rhoi straeon unigolion ar flaen y gad yn fy ngwaith wrth symud ymlaen a gallaf annog eraill i wneud hynny hefyd; nid un hunaniaeth yn unig yw grwpiau lleiafrifoedd ethnig ond llu o unigolion y dylai eu straeon gael eu hadrodd a'u clywed yn unigol.
Beth ydych chi'n meddwl bydd eich cam nesaf, ar ôl cynnal yr Ymchwil a Datblygu?
Etifeddiaeth fy ymchwil a datblygu a ariennir gan Glwstwr yw sut y mae wedi ac y bydd yn parhau i effeithio ar fy ngwaith. Rwyf bellach yn gweld fy ymarfer o safbwynt newydd, ac rwy'n gallu gweld sut y gall cyd-destunau newydd fy nghefnogi i ddysgu rhagor a datblygu pethau yn fy ymarfer fy hun. Rwy'n sicrhau fy mod yn cyflwyno hunaniaethau pobl eraill fel unigolion ac nid grwpiau, yn ogystal â rhannu'r dysgu a'r archwilio hwn drwy fy holl waith fel perfformiwr, person creadigol ac ymarferydd.
Er nad oes gennyf gynlluniau i wneud unrhyw ymchwil a datblygu pellach yn y maes hwn, mae'r ymchwil wnes i wedi cael effaith arna i. Trwy greu gwaith sy’n ystyried y canfyddiadau, rwy’n gallu parhau i archwilio a darganfod elfennau newydd o’r ymchwil cychwynnol hwn a dangos arfer gwell. Rwyf wedi cael fy enwebu ar gyfer gwobr gelfyddydol yn dilyn yr ymchwil, a fydd yn fy helpu gyda’r cam nesaf hwn yn fy ymarfer proffesiynol.