Cynlluniwyd ein labordai deuddydd i weithwyr llawrydd a microfusnesau sy’n gweithio yn ne Cymru sydd â’r sgiliau a’r potensial i ddatblygu syniadau arloesol ar gyfer cynnyrch, gwasanaeth neu brofiad newydd yn gysylltiedig â’r sgrin neu newyddion.
Mae’n cynnig cyfle i archwilio, datblygu a mireinio syniadau newydd gyda chefnogaeth partneriaid PDR Clwstwr, gan fynd â chi drwy broses gynllunio defnyddiwr.
Bydd hyd at 20 yn cymryd rhan mewn Labordy gyda chyfuniad o waith grŵp, trafodaeth ehangach, a chyflwyniadau.
Oherwydd cyfyngiadau COVID-19 cynhelir pob labordy sydd ar y gweill ar-lein.
Byddwn yn cefnogi eich presenoldeb yn Labordy Syniadau Clwstwr gyda thâl o £500 am y ddau ddiwrnod ynghyd ag unrhyw gostau gofal plant/gofal eraill.
Mae Clwstwr yn awyddus i ddenu pobl i weithio gyda ni o ystod eang o gefndiroedd. Rydym ni’n awyddus i barhau i edrych ar y byd o'r newydd a dod o hyd i ffyrdd gwahanol o wneud pethau.
Os oes gennych ddiddordeb yn Labordai Syniadau Clwstwr ond yn methu bod yn bresennol ar y dyddiadau uchod, amlinellwch pam yn eich cais, ac os byddwch yn llwyddiannus, bydd aelod o'r tîm mewn cysylltiad i drafod opsiynau eraill. Bydd cefnogaeth mynediad yn cael ei gynnig ar gais - cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.
Esboniad am Labordy Syniadau Clwstwr
Rhagor o wybodaeth am Labordy Syniadau Clwstwr a'r broses ymgeisio gan Gynhyrchydd Clwstwr Adam Partridge a Dylunydd | Ymchwilydd Adolygiad Datblygu Perfformiad Jo Ward.
Ar ddiwedd Labordy Syniadau Clwstwr bydd cyfle i'r cyfranogwyr ymgeisio am hyd at £10,000 o gyllid sbarduno gan Clwstwr i ddatblygu syniad ymhellach. Fel arfer, byddem yn disgwyl i brosiectau gael eu cynnal dros dri mis.
Rydym ni’n argymell eich bod yn darllen Meini Prawf Clwstwr am ragor o wybodaeth am sut rydym ni’n asesu cynigion a’r adran Prosiectau i gael syniad o’r math o brosiectau mae Clwstwr yn eu cefnogi ar hyn o bryd.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Garfan gyntaf i gael cyllid Sbarduno a'u prosiectau yma.
Caiff cyllid sbarduno ei ddarparu yn unol â rheolau De Minimis Cymorth y Wladwriaeth. Rydym ni’n cynghori ymgeiswyr i wneud yn siŵr eu bod yn gymwys i dderbyn cyllid De Minimis cyn ymgeisio. Cewch ganllaw defnyddiol i gyllid De Minimis yma.
Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â ni
Ebostiwch os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Labordy Syniadau Clwstwr neu os gallwn ni eich helpu chi gyda'ch cais.
Cysylltwch â ni os ydych chi'n dymuno cael yr wybodaeth hon mewn fformat gwahanol neu os oes gennych chi anghenion mynediad.