Helo Nida! Sut fyddech chi'n disgrifio Little Bird Films fel busnes?
Mae Little Bird Films yn gwmni cynhyrchu teledu o Gaerdydd sy'n arbenigo mewn cynnwys ffeithiol, yn bennaf ar gyfer y BBC, S4C a Channel 4. Mae'n gwmni dwyieithog, dan arweiniad benywaidd sydd wedi bod yn rhedeg ers ychydig dros bum mlynedd.
Sut daethoch chi i wybod am gyllid Clwstwr?
Yn ystod y cyfnod clo, gwelsom rai hysbysebion am y cyfle i ennill cyllid drwy Clwstwr a chlywon ni amdano ar lafar.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i wneud cais am gyllid?
Rydym bob amser wedi bod â diddordeb mewn achosion gwyrdd. Roeddem wedi delio â chynllun albert BAFTA ers peth amser, gan adrodd a chyflwyno data amgylcheddol yn rheolaidd. Roedd y cyfle i wneud cais am gyllid i helpu i ddatblygu rhywbeth a allai wneud ein diwydiant yn wyrddach yn hynod gyffrous.
Beth roeddech chi'n bwriadu ei wneud ar gyfer eich prosiect Clwstwr?
Nod ein cais am gyllid oedd archwilio ffyrdd o wneud cynaliadwyedd amgylcheddol yn haws i gwmnïau cynhyrchu cyfryngau. Gan ddechrau o sylfaen o'n profiadau ein hunain gyda chyflwyno ar gyfer achrediad albert, roeddem am ddod o hyd i ffordd o wneud y broses yn gyflymach ac yn haws i gwmnïau heb gyllidebau mawr logi timau arbenigol i oruchwylio'r rôl. Dros ddau gylch ariannu, cawsom gyfanswm o £35,000.
Pa broses wnaethoch chi ei defnyddio i gyflawni eich prosiect Clwstwr?
Yn gyntaf, gwnaethon ni gyflogi ymchwilydd a dadansoddwr i archwilio'r maes a diffinio'r broblem yr oeddem am fynd i'r afael â hi. Aethon ni i weithdai a gwneud defnydd o adnoddau a ddarparwyd gan Clwstwr a PDR i gefnogi ein taith Ymchwil a Datblygu. Yna, gwnaethon ni ymchwil a chasglu data am y farchnad, gan gynnal cyfweliadau â phobl a sefydliadau ym maes cynaliadwyedd. Helpodd hyn ni i ddeall statws y diwydiant ar y pryd a nodi bwlch.
Gwnaethom nodi problemau lluosog: y ffordd y mae data ôl troed carbon yn cael ei gasglu, natur wasgarog rôl swyddogion cynaliadwyedd a diffyg ymgysylltiad ehangach y criw â nodau cynaliadwyedd.
Roedd y cam nesaf yn cynnwys prototeipio. Fe wnaethom ddylunio a datblygu prototeip o raglen we a allai symleiddio'r broses o gasglu data cynaliadwyedd. Er mwyn ei brofi, gwnaethom gynnal astudiaethau defnyddioldeb gyda 10 gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant, a roddodd adborth inni a'n helpu i fireinio'r dyluniad UI. Yna, gwnaethon ni gyflogi datblygwr i greu fersiwn beta o'r cymhwysiad yn seiliedig ar y prototeip, gydag adborth yr astudiaeth defnyddioldeb, a chynnal treialon peilot gyda chwe chwmni cynhyrchu gwahanol i gael adborth o'r ap yn cael ei ddefnyddio mewn amgylchedd cynhyrchu byw.
Beth oedd canlyniadau eich ymchwil?
Fe wnaethom ddatblygu a lansio Green Wing — rhaglen we a symudol ar gyfer symleiddio cynaliadwyedd a chasglu a rheoli'r data ôl troed carbon sydd ei angen ar gyfer achrediad albert gorfodol.
Beth ydych chi'n meddwl fydd eich cam nesaf, yn dilyn y gwaith ymchwil a datblygu?
Rydym wedi cwblhau pum treial yn llwyddiannus gyda chwmnïau cynhyrchu ac mae tri threial yn parhau, gan gynnwys treial â thâl gyda Sky Studios ar ddrama deledu o'r radd flaenaf. Fe wnaethom gyflwyno canlyniadau ein prosiect mewn nifer o arddangosion a chynadleddau, gan dderbyn llawer o ddiddordeb gan y diwydiant. Mae Green Wing wedi cael ei chymeradwyo gan PACT. Rydym yn y broses o sicrhau cyllid pellach i gwblhau rownd arall o ddatblygu meddalwedd yn seiliedig ar yr adborth treial a dderbyniwyd hyd yn hyn.