Y mis hwn, siaradodd aelod carfan Clwstwr, Painting Practice - stiwdio greadigol yng Nghaerdydd sydd wedi ei henwi’n 100 o’r rhai i’w gwylio, gan Createch 2020 - mewn dwy ŵyl diwydiant technoleg.

Canolbwyntiodd y ddwy drafodaeth ar Plan V, yr ap bwrdd gwaith rhad ac am ddim i'w lawrlwytho a’i ddefnyddio gan hobïwyr a gweithwyr cynhyrchu proffesiynol. Mae'n caniatáu i chi ddelweddu setiau, golygfeydd a bydoedd rhithiol, gan gyfuno VR ac AR i roi ymdeimlad realistig o raddfa a manylder i’r defnyddiwr. Mae hefyd ategyn ar gael sy'n caniatáu i ddefnyddwyr Unreal gysylltu eu iPad i'w ddefnyddio fel camera fideo yn yr engine.

Lluniwyd y syniad ar gyfer Plan V wrth weithio ar gyfres o Black Mirror ar gyfer Channel 4. Trwy gefnogaeth ac arian Clwstwr daeth yn realiti, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn ystod cynhyrchiad His Dark Materials (BBC / HBO).

Siaradodd Yassmine Najime, rheolwr stiwdio Painting Practice, dros fideoffon yn ystod Wythnos Dechnoleg Cymru gyntaf erioed. Trafododd sut mae Plan V yn gyfle i gael dyfodol gwell ar gyfer ffilmio rhithwir, un lle mae piblinellau a phrosesau yn fwy effeithlon, mae'r cynyrchiadau cyffredinol yn fwy gwyrdd ac mae ansawdd y cyn-ddelweddu wedi gwella'n aruthrol. 

 

Yn yr un wythnos, rhoddodd Dan May, cyd-sylfaenydd Painting Practice, gyflwyniad ar-lein yn Unreal Fest 2020. Aeth i fanylder ynglŷn â sut y daeth Plan V, a wnaed i weithio gydag Unreal engine, i rym yn ystod cynhyrchiad His Dark Materials. Siaradodd hefyd am sut roedd creu'r offeryn cynhyrchu yn anhygoel o amserol; gan ei fod yn caniatáu i ddefnyddwyr archwilio amgylcheddau 3D a deunyddiau rhagwelediad o bell, gallai llawer o staff cynhyrchu Painting Practice barhau i weithio yn ystod cyfnod clo COVID-19. 

COFRESTRWCH ar gyfer Unreal Fest Online.

Gallwch hefyd wylio Painting Practice dan chwyddwydr Unreal Engine yma a chael rhagor o wybodaeth am eu prosiect Clwstwr yma.