Ynglŷn â Mission Digital
Mae Mission Digital yn ddarparwr gwasanaethau delweddu digidol, ail-chwarae fideos a brysluniau digidol i'r diwydiant ffilm a theledu, gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain. Labordy brysluniau digidol yw'r hyn sy'n cyfateb heddiw i labordy prosesu ffilmiau gwreiddiol. Mae'n troi data fideo (deunydd ffilm amrwd neu frysluniau) i'r hyn sydd ei angen nesaf yn y biblinell gynhyrchu. Mae Mission hefyd yn gofalu am gadw data drwy archifo a chopïo.
Mae golygfeydd effeithiau gweledol yn gofyn am ffeiliau arbennig sy'n rhoi fersiwn o ansawdd uchel o'r delweddau ac yn cynnwys metadata. Rydym yn aml yn gyfrifol am leoli, prosesu a dosbarthu'r ffeiliau hyn a'u hanfon at y cwmni VFX cywir. Gan fod angen mynd yn aml i'r camera gwreiddiol a archifwyd yn negyddol (OCN), rydym yn galw hyn yn 'tynnu o'r archif', neu 'dyniadau VFX' yn fyr.
Roedd ein proses tyniadau VFX â llaw yn cymryd llawer o amser ac yn golygu llawer o waith
Roedd gennym syniad a oedd yn cynnwys ailwampio'r sefyllfa bresennol o'r broses â llaw hon, ond nid oedd gennym yr arian i'w wneud. Pan glywsom am Clwstwr, rhannwyd ein syniad mewn cais am gyllid. Roeddem eisiau awtomeiddio'r broses tyniadau VFX drwy greu platfform hawdd ei ddefnyddio sy'n caniatáu i olygyddion o bell gyflawni tyniadau VFX ac anfon y ffilm ofynnol i'w tai ôl-gynhyrchu VFX. Roeddem yn gallu gweld y posibilrwydd o wneud y broses yn awtomataidd, hepgor y camau canol ac osgoi'n ddiangen mynd yn ôl ac ymlaen, gan wneud y broses yn gyflymach, yn haws, yn fwy dibynadwy a diogel yn y pen draw.
Roedd un cynnyrch ar y farchnad sy'n cwmpasu maes tebyg i'n syniad, ac mae’n parhau i fod
Fodd bynnag, nid oeddem yn bryderus. Gall y cynnyrch arall wneud rhai pethau tebyg i'r hyn a adeiladwyd gennym yn y pen draw, ond mae sawl rhinwedd gwerthu unigryw i'n fersiwn ni. Un ohonynt yw bod y gost gymaint yn is oherwydd ei bod wedi'i datblygu'n ddarbodus. Mae gan Mission ethos 80:20, lle rydym yn anelu at ddarparu 80% gydag 20% o'r costau, felly roeddem yn dilyn hynny i raddau helaeth.
Credwn fod ein cynnyrch yn un modiwl o fewn cynnyrch mwy y gallem ei ddatblygu yn y dyfodol. Mae'n cynnig llawer iawn o hyblygrwydd, yn gallu cael ei ddefnyddio'n llawn naill ai ar y Cwmwl neu ei gynnal ar seilwaith ar y safle. Gwnaethom hefyd gynnwys awtomeiddio yn y ffordd y mae'r cynnyrch wedi’i drefnu yn y Cwmwl – rhywbeth nad yw'n cael ei gynnig ar hyn o bryd gan unrhyw un arall.
Mae datblygu meddalwedd yn anhygoel o ddrud
Cawsom tua £50k o gyllid gan Clwstwr, a ariannwyd yn gyfatebol gennym. Yna, gwnaethom barhau i fuddsoddi mewn datblygu ar ôl i nodau Clwstwr gael eu cyflawni. Roeddem yn gobeithio y byddai'n ddigon i gael prototeip gweithredol y gallem ei ddefnyddio i gryfhau'r farn am ein prosiect – a enwyd bellach yn Origami – ac arwain at waith datblygu pellach. Roedd yr arian yn lleddfu’r broses drefnu gychwynnol hanfodol ac yn dangos bod rheswm dros barhau i ariannu'r prosiect.
Aeth cyfran fawr o gyllid Clwstwr tuag at dalu am sgiliau
Roedd gwir angen datblygwr stac cyflawn arnom i ddechrau adeiladu modiwl cyntaf Origami, 'Phoenix', gyda'n harweiniad technegol, Gary. Gyda'i gilydd, byddent yn eu hanfod yn ffurfio adran feddalwedd yn Mission. Ar ôl llawer o chwilio, gwnaethom logi datblygwr cyflawn talentog o'r enw Joe, a oedd yn hanfodol i roi Origami Phoenix ar waith. Roedd yn gwybod sut i ddefnyddio'r stac technoleg yr oeddem am weithio ynddo ac roedd yn gyfrifol am sefydlu'r llwyfannau ar gyfer adeiladu'r prosiect a chyflwyno gweithdrefnau profi. Roedd darnau unigol o offer yr oedd eu hangen arnom hefyd, felly roedd y costau hynny hefyd yn cael eu cynnwys ochr yn ochr â'r offer a'r adnoddau roedd Mission wedi buddsoddi ynddynt cyn y prosiect.
Cynhaliwyd y rhan fwyaf o'r gwaith yn yr adran feddalwedd newydd hon
Yn gyntaf, gwnaethant dorri’r cais arfaethedig i nifer o ddarnau bach o'r enw microwasanaethau y gellid eu dewis neu eu dad-ddethol gan olygyddion, yn dibynnu ar yr hyn a oedd ei angen arnynt. Roedd adeiladu'r microwasanaethau hyn yn unol â'n cynlluniau i gynyddu yn y pen draw; maen nhw’n diogelu’r cynnyrch ar gyfer y dyfodol. Datblygwyd y microwasanaethau gennym, yna gwnaethom adeiladu gwefan pen blaen ar gyfer Origami Phoenix gyda rhyngwyneb y gallai defnyddwyr ei lywio a'i ddefnyddio'n hawdd. O'r fan honno, gwnaethom barhau i ailadrodd y ddwy ochr, gan ddylunio'r nodweddion roedd eu hangen arnom a'u haddasu nes i ni gael ein cynnyrch hyfyw lleiaf.
Roedd cael cynnyrch hyfyw lleiaf (MVP) ar gyfer Origami o ganlyniad i Clwstwr yn ein galluogi i brofi ein cysyniad
Rydym wedi parhau i ddatblygu'r MVP, gyda chymorth a llawer o adborth gan ddefnyddwyr. Cawsom rai ymatebion gwerthfawr gan oruchwylwyr ôl-gynhyrchu am yr hyn roeddent yn teimlo bod y cynnyrch presennol ar y farchnad yn ei golli. Rydym wedi ychwanegu llawer mwy o nodweddion ar gyfer pethau a oedd yn 'rhaid eu cael' – pethau nad oeddem yn gwybod amdanynt cyn i ni ddechrau'r prosiect. Sylweddolom hefyd fod angen i ni dacluso’r pen blaen cyn ei gyflwyno i ddarpar gleientiaid, y buom yn gweithio arno, ac rydym wedi cadarnhau'r ffordd y mae'r cynnyrch yn cael ei drin a'i wydnwch. Gwnaethom hefyd gyflymu ein cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau a gynhelir gan y Cwmwl yn gyfan gwbl.
Rydym bellach yn chwilio am ein defnyddwyr Origami cyntaf
Mae ein diwydiant mor seiliedig ar brosiectau fel y gallai gymryd sawl mis cyn i ddefnyddiwr fod yn barod i ymgymryd â phrosiect newydd y gallant roi cynnig ar Origami arno. Gyda llawer yn y fantol a therfynau amser byr, mae bob amser yn her argyhoeddi rhywun i fod y mochyn cwta cyntaf, er ein bod yn hyderus y byddwn yn pasio'r rhwystr hwn ac yn gweld cynnydd mawr. Rydym bellach mewn man lle rydym ar fin lansio'n gyhoeddus gydag ymgyrch farchnata, gan gynnwys gwefan, deunydd caled, presenoldeb mewn ffeiriau diwydiant ac erthyglau mewn cylchgronau masnach yn sôn am y gwasanaeth newydd.
Mae gennym gynlluniau hirdymor ar gyfer Origami
Adeiladwyd Origami gennym fel platfform a fydd yn cynnal sawl ap/offer, a'r un cyntaf yw Phoenix ar gyfer tyniadau VFX. O'r fan hon, byddwn yn adeiladu'r platfform i gynnig offer sy'n datrys problemau ar draws gwahanol rannau o'r biblinell gynhyrchu a fyddai'n elwa ar awtomeiddio. Yn y pen draw, bydd Origami yn wasanaeth un stop lle gall defnyddwyr ddewis yr apiau neu'r offer y maent am eu cael. Enghraifft dechnegol fyddai rhywbeth fel AWS; mae ganddo wasanaethau ar wahân y gallwch eu defnyddio gyda'i gilydd neu'n unigol. Enghraifft lai technegol fyddai sut y gallwch ddewis ychwanegu llety, car llogi ac yn y blaen pan fyddwch yn trefnu hediad drwy gwmni awyrennau. Byddwch yn gallu dewis cymryd rhan, ac yn aml mae swm y rhannau yn werth mwy na rhai unigol.
Mae cael cyllid Clwstwr i gyrraedd y cam hwn wedi newid bywydau
Gwnaeth ganiatáu inni fynd allan i feysydd newydd a chyflawni rhywbeth roeddem eisiau ei wneud am gyfnod mor hir. O ganlyniad i hynny, rydym wedi adeiladu adran feddalwedd ac mae gennym gynlluniau mor gyffrous ar gyfer y dyfodol. Mae'n fwy na'r arian yn unig; roedd cael y mentoriaid ag arbenigedd perthnasol a gweddill tîm Clwstwr i alw arnynt am gyngor yn ein hannog i ganolbwyntio a’n cadw ar y trywydd iawn. Ni allem fod wedi cyrraedd yma heb Clwstwr ac rydym mor gyffrous i ailfuddsoddi yng Nghymru wrth i ni dyfu ein meddalwedd a'n cynigion gwasanaeth yn y dyfodol. Rydym yn gobeithio creu swyddi newydd wrth i ni chwilio am dalent newydd, a defnyddio Origami i ategu'r gwaith rydym yn ei wneud yn niwydiant Cymru a thu hwnt.