Monnow Media
Monnow Media yw'r enw mae Shirish Kulkarni yn ei ddefnyddio ar gyfer ei gwmni cynhyrchu cyfryngol. Drwy'r cwmni, mae Shirish yn gweithio ar newyddiaduraeth ymchwiliadol, cynhyrchu, golygu, ffilmio gyda dronau a hyfforddiant technoleg.
Ffurfiodd fy ngyrfa sail fy mhrosiect Clwstwr.
Am ddau ddegawd, bûm i'n gweithio i rai o brif ddarlledwyr y DU yn Llundain, yn cynhyrchu rhaglenni’n adrodd y newyddion diweddaraf, dogfennau a darnau ymchwiliadol. Symudais yn ôl i Gymru i weithio'n llawrydd. Drwy gydweithwyr yn y BBC yng Nghymru, lle'r wyf i'n gweithio'n llawrydd, y clywais i am Clwstwr. Doedd gen i ddim syniad ar y dechrau am brosiect, ond wrth feddwl am beth oedd yn bwysig i fi daeth yn amlwg: dyw'r hyn rydyn ni'n ei wneud mewn newyddiaduraeth teledu ac ar-lein ddim yn gweithio.
Yn sylfaenol, mae rhywbeth o'i le gyda'r ffordd rydyn ni'n adrodd straeon.
Dyw'r prif fwletinau ar y teledu ac erthyglau ar wefannau newyddion ddim yn apelio at lawer o bobl, gydag ymddiriedaeth mewn newyddiaduraeth yn rhyfeddol o isel. Rwy'n credu mai'r rheswm yw oherwydd bod diben newyddiaduraeth wedi'i ddatgysylltu o'r hyn mae newyddiadurwyr yn ei wneud. Mae'n anwybyddu beth mae'r gynulleidfa'n ei ddymuno a'i angen; yn lle hynny mae newyddiaduraeth yn gweithredu o dempled brig i lawr gyda newyddiadurwyr yn penderfynu beth rydyn ni'n meddwl sydd angen i bobl ei wybod. Rwy'n credu bod angen i ni symud i ffwrdd o bersonoliaethau a barn a dechrau cyflwyno ffeithiau gyda chyd-destun mewn ffordd hygyrch, ddefnyddiol a diddorol.
Roeddwn i am archwilio ffyrdd arloesol o gyflwyno'r newyddion.
Mae newyddiadurwyr yn defnyddio 'pyramid gwrthdro' trosiadol i greu strwythur eu stori, gan osod y ffeithiau pwysicaf ar y brig, gyda manylion pellach yn dod yn llai ac yn llai pwysig. Pan ymgeisiais i am gyllid gan Clwstwr, roedd yna syniad y gallen ni greu rhywbeth fel dull canghennog, anllinellol o adrodd straeon. Ond yn y pen draw, roedd fy mhrosiect Clwstwr yn rhywbeth dyfnach o lawer oedd yn edrych ar ddiben sylfaenol newyddiaduraeth a sut i gyrraedd cynulleidfaoedd iau.
I ddechrau, ymchwiliais i gysyniad adrodd stori.
Darllenais lyfrau ffeithiol am adrodd straeon, lle dysgais ein bod wedi'n creu i hoffi straeon fel rhan o'n cynhysgaeth enetig ac anthropolegol. Mae gennym awydd cynhenid i wybod beth sy'n digwydd. Hefyd cynhaliais gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol adroddwyr straeon. Siaradais gyda chomedïwyr, pypedwyr, dylunwyr gemau a phobl eraill am y ffordd mae straeon yn eu helpu i gysylltu gyda'u cynulleidfa.
Dangosodd grwpiau ffocws faint mae gwerthoedd newyddiadurol wedi'u hystumio.
Cawsom grŵp ffocws gyda phobl ifanc o leiafrifoedd ethnig, sydd yn bell o fod â chynrychiolaeth ddigonol yn y ffordd mae ystafelloedd newyddion yn meddwl nac yn y dadansoddiad academaidd o'r meysydd hyn. Edrychon ni ar fwletin BBC gyda'n gilydd ac o fewn 15 eiliad roedden nhw wedi'i ddiffodd. Roeddwn i'n gallu gweld pam. Doedd y bwletin ddim yn siarad yn y tôn cywir, ddim yn sôn am bynciau o ddiddordeb iddyn nhw nac yn cyflwyno pethau mewn ffordd sy'n berthnasol iddyn nhw. Roedd hyn yn pwysleisio nad yw gwerthoedd newyddion - sy'n cael eu diffinio'n bennaf gan ddynion gwyn, canol oed, dosbarth canol - yn wrthrychol; maen nhw'n cynnal y strwythurau grym sydd eisoes yn bodoli.
Fe greais i egwyddorion neu flociau adeiladu ar gyfer math newydd o newyddiaduraeth.
Gan ddefnyddio'r data, nodais y pethau yr oedd angen i'r math hwn o newyddiaduraeth feddwl amdanyn nhw’n wahanol sef: strwythur naratif, cynnwys, cyd-destun, pŵer y defnyddwyr, tôn yr ysgrifennu, amrywiaeth, cynhwysiant a thryloywder ynghylch sut y caiff y newyddion ei greu.
O hyn, lluniais ddiffiniad o'r hyn y dylai newyddiaduraeth ei wneud, yr wyf i'n ei alw'n 'gyfeiriadedd': 'Dylai newyddiaduraeth ein helpu ni i ddeall y byd, ein lleoli yn ein hamgylchedd a'n galluogi i ryngweithio â'r byd yn ystyrlon. Dylai newyddiaduraeth ein helpu i ffurfio barn, sy'n gyson ag anghenion a buddiannau ein teuluoedd a'n cymunedau.
I roi'r blociau adeiladu ar waith, lluniais saith prototeip.
Roedd pob prototeip yn cyflwyno rhai o'r syniadau hyn. Yna ysgrifennais saith erthygl wedi'u seilio ar erthygl gan y BBC am HS2, yn defnyddio prototeip gwahanol fel strwythur i bob un. Ym mhob prototeip, roedd y tôn yn wahanol i'r hyn fyddai ar wefan y BBC; roedd yn lanach, yn fwy cryno, yn cynnig cyd-destun ac yn hepgor darnau llanw.
Profodd dros 1200 o ddefnyddwyr y pedwar prototeip cryfaf yn erbyn erthygl y BBC.
Ar ôl i'r darllenwyr ddarllen pob un o'r erthyglau, holon ni nhw am y stori i weld a oedden nhw wedi cael yr wybodaeth allweddol. Er bod erthygl y BBC a'r prototeipiau i gyd wedi cyfleu'r wybodaeth, roedd y mwynhad cyffredinol a lefelau ymgysylltu'n is o lawer yn erthygl y BBC na'r prototeipiau. Mae hwn yn ganfyddiad mawr, ac yn cynnig dealltwriaeth dda i ni pam nad oes gan genedlaethau iau gymaint o ddiddordeb mewn newyddion traddodiadol.
Y prototeip gorau oedd yr hyn rwy'n ei alw'n 'acordion naratif'.
I lunio'r erthygl yn defnyddio'r prototeip 'acordion naratif', nodais bum cwestiwn allweddol y gallai unigolyn nodweddiadol ddymuno cael ateb iddyn nhw ar bwnc y stori. Roedd y rhain yn cynnwys: Beth yw HS2?; Beth yw'r problemau y mae'n ceisio eu datrys?; Ydy hyn yn ddatrysiad gwyrdd mewn gwirionedd?
Ysgrifennais yr atebion i'r cwestiynau mewn paragraff, a'u cyflwyno mewn ffordd lle'r ydych chi'n gweld y cwestiynau yn unig. Gallwch eu hehangu neu gau mewn unrhyw drefn i weld yr atebion. Neu gallwch ddarllen drwyddyn nhw o'r dechrau, sy'n creu un stori linellol.
Dechreuais ar hyn gan feddwl y byddwn i'n ymchwilio i ddod o hyd i rywbeth nad oeddwn i'n ei wybod eisoes. Roeddwn i'n meddwl y byddwn yn dod o hyd i ffordd newydd o adrodd straeon. Ond roedd yr hyn wnes i'n fwy pwysig o lawer, rhywbeth mwy sylfaenol.
Rwyf i wedi ail-ddychmygu newyddiaduraeth mewn ffordd sydd wedi taro tant yn y diwydiant.
Mae fy 'acordion naratif' a'r 'gyfeiriadedd' a greais yn gwneud pethau sy'n eithaf amlwg, ond sy'n achosi cyffro. Mae'r ddau'n holi cwestiynau ac yn chwalu'r pyramid gwrthdro traddodiadol, gan ein gorfodi i gamu'n ôl o'r ffordd rydyn ni'n ysgrifennu pethau.
Maen nhw hefyd yn ein gwthio i ailystyried beth rydyn ni yn y diwydiant yn meddwl ein bod ni'n ei wybod am faint mae'r gynulleidfa'n talu sylw. Nid diffyg amynedd i wylio unrhyw beth dros funud o hyd sydd gan bobl ifanc; maen nhw'n gwylio ffilmiau ac yn chwarae gemau fideo hirfaith, sy'n profi os yw'r cynnwys yn ddigon difyr y byddan nhw'n aros i wrando. Yr hyn sydd angen ei newid yw'r ffordd rydyn ni'n cyflwyno newyddion i gynulleidfaoedd iau er mwyn iddyn nhw beidio â digalonni.
Rydyn ni wedi sicrhau ail gylch o gyllid gan Clwstwr i ddatblygu ymhellach.
Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaith sydd wedi'i wneud eisoes. Rwyf i am weld a oes ffordd i osod y technegau adrodd stori newydd hyn ar fodelau creu cynnwys yn seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial.
Caiff dyfodol newyddiaduraeth ei seilio ar ddeallusrwydd artiffisial a chynhyrchu iaith naturiol. Nid yw hyn o reidrwydd yn ddrwg o beth, gan y bydd yn rhyddhau newyddiadurwyr i wneud mwy o waith ymchwiliadol a nodwedd. Gallaf weld amser pan fyddwn yn gallu defnyddio AI a'r egwyddorion newyddiadurol newydd rwyf i wedi'u hamlinellu i greu straeon newyddion a'u cyflwyno mewn ffordd lawer mwy difyr.