Nod y Prosiect
Sut aeth Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ati i archwilio ffyrdd newydd i wneud a phrofi dawns drwy ddefnyddio technolegau realiti haenog gyda'u prosiect, Moving Layers? Gwyliwch y fideo isod.
Bydd arbenigwyr mewn dawns a thechnoleg yng Nghwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn creu ac yn profi ffyrdd newydd i wneud a chael profiad o ddawns yn defnyddio technolegau realiti haenog. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn creu prototeip o brofiad sy'n galluogi amrywiaeth o bobl i dystio a chymryd rhan mewn straeon dawns sy'n newid y berthynas rhwng y gynulleidfa a'r perfformiwr ac sy'n cysylltu pobl â'u helfen gorfforol eu hunain. Bydd y prosiect yn archwilio cyfnewid gwybodaeth rhwng coreograffwyr, academyddion, cynllunwyr realiti cyfunol a rhaglenwyr i adeiladu dangoswr sylfaenol sy'n ymdrin ag uchelgais tymor hirach i gysylltu â chynulleidfaoedd y tu allan i'r model teithio traddodiadol a datblygu marchnadoedd hanfodol newydd ar gyfer dawns.