Wrth i Moving Layers, prosiect Clwstwr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ddod i ben, mae Rob Eagle yr artist digidol yn edrych yn ôl ar y broses.

"Rwyt ti wedi dod yn llawer mwy cysurus wrth symud," meddai Fearghus Ó Conchúir, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru sy’n ymadael, wrthyf ar ddiwrnod olaf ein cydweithio. 

ML1

© Kirsten Mcternan 2020

Roedd yntau a minnau wedi treulio blwyddyn yn cynllunio’r Prosiect Ymchwil a Datblygu hwn, Moving Layers, a fu’n bosibl gyda chymorth gan Clwstwr. Yna buom yn cynnal gweithdai ar y cyd gyda dau ddawnsiwr am wythnos ym mis Ionawr ac wythnos arall ym mis Mawrth 2020. Wrth ddyfeisio sut i ddod â gwylwyr i mewn i’r profiad yn gorfforol, yn aml fi oedd y sawl oedd yn cynrychioli aelod dychmygol o’r gynulleidfa yn y dyfodol. Roedd hyn yn cynnwys cael fy nhynnu i mewn i ganol ystafell wrth iddyn nhw hofran yn osgeiddig o’m cwmpas, mor ddiymdrech ag y mae nant yn llifo o amgylch carreg.

Roedd yr hyn a ddywedodd Fearghus yn wir – rwy’n lletchwith yng nghyd-destun dawns. Carreg ydw i. Mae’n well gen i adael y symud i’r arbenigwyr. Rwy’n dod o academia, gwneud ffilmiau a thechnoleg ymgolli. Rwy’n gwneud gwaith am y corff ac i gynulleidfaoedd ei archwilio â’u cyrff, ond rwy’n casáu rhoi fy hun ar lwyfan, oni bai bod hynny i roi darlith. Yn fy myd proffesiynol, rydym yn arsylwi ac yn rhyngweithio â chyrff ein gilydd o bellter oer, neilltuedig (a hyd yn oed yn fwy felly wrth inni symud ymlaen mewn byd ôl-bandemig). Mae gan ddawnswyr synnwyr gwahanol o symud a’r hyn yw lle personol. Wrth i mi geisio dod dros fy anesmwythyd lletchwith, roedd hwn yn gyfle i ddod â’n dwy ffordd wahanol o feddwl a gwneud at ei gilydd.

ML2

© Kirsten Mcternan 2020

Rwy’n dod â’m profiad fel person ‘queer’ i’m hymchwil ac arferion artistig i wneud gwaith sy’n ddiedifar o ‘queer’ o ran deunydd pwnc ac estheteg, ac ar yr un pryd yn ei adael yn ddigon agored i bobl nad ydynt yn ‘queer’ gael eu profiad cyfoethog eu hunain. Yn ddiweddar rwyf wedi canolbwyntio ar ddefnyddio Microsoft’s HoloLens, set pen realiti estynedig, ar gyfer gosodiadau celf ymgolli. Mantais defnyddio realiti estynedig mewn set pen dros ffôn symudol yw bod y gynulleidfa’n gallu rhyngweithio â’r byd â’u dwylo’n rhydd, a chael profiad o haenau digidol chwareus, hudolus ar eu byd ffisegol ar yr un pryd. 

Wrth gynllunio ein gwaith ymchwil a datblygu, roeddem eisiau dod â’n dau ddull ynghyd fel na fyddai’r dechnoleg yn teimlo fel gimig neu fel ôl-ystyriaeth a ddatblygwyd ar wahân a’i ychwanegu ar ben y coreograffi. Byddai’n rhaid i’r elfennau technoleg a dawns gael eu cydblethu cymaint fel na fyddai’r naill na’r llall yn bodoli ar ei ben ei hun yn unigol. 

ML3

© Kirsten Mcternan 2020

Mae’n hawdd cael eich hudo gan dechnoleg newydd - y ffôn symudol neu’r traciwr ffitrwydd neu’r watsh glyfar ddiweddaraf. Ond gyda phob hud sydd gan ddyfais technoleg newydd, mae ochr dywyll neu ganlyniad posibl. Sut mae ein data’n cael eu cloddio gan y corfforaethau sy’n gwneud y dyfeisiadau hyn? Sut mae’r dechnoleg yn newid ein hymddygiad neu sut rydym yn ymdeimlo â’r rhai sydd o’n cwmpas ni? A beth mae hyn yn ei olygu i ffurfiau celf sydd wedi’u sefydlu, fel dawns, os gall technoleg ddisodli setiau a pherfformwyr i greu profiad gwefreiddiol gartref ac ar gais? 

Edrychon ni ar enghreifftiau lle roedd technoleg, boed yn fapio tafluniadau, realiti rhithwir neu realiti estynedig, yn creu byd wedi’i droshaenu ar y llwyfan, gan greu set rithwir. Ond roeddem ni, yn hytrach, eisiau gweld beth fyddai’n digwydd petai’r ddawns yn cael ei byrfyfyrio â’r dechnoleg ac yna beth fyddai’n digwydd i aelodau unigol y gynulleidfa. Byddai’n rhaid i’r set pen ddod yn rhan weithredol o brofiad y dawnswyr, nid i’r gynulleidfa ei gwisgo’n unig. 

ml4

© Kirsten Mcternan 2020

Dechreuon ni weithio ag ap parod o’r enw Crayon yn siop apiau Microsoft. Mae’r ap yn galluogi’r person yn y set pen i wasgu ei fysedd at ei gilydd a thynnu llun tri dimensiwn o gwmpas yr ystafell. Byddai un dawnsiwr yn creu dyluniad 3D, a fyddai yn y pen draw yn dod yn sgôr iddo ef neu i’r dawnsiwr arall ei dehongli. Llwyddodd y dechnoleg i hwyluso cyfnewid chwareus rhwng y dawnswyr.

Ond beth am y gynulleidfa? Cynhalion ni sesiynau bras ymchwil a datblygu i gynulleidfaoedd bach, unwaith ym mis Ionawr ac eto ym mis Mawrth, a gofynnon ni am adborth y ddau dro. Dewison ni beidio â thaflunio’r rhannau gweledol ar sgrin ond yn hytrach gadael i’r gynulleidfa ddychmygu beth oedd yn cael ei greu gan y dawnswyr yn y set pen. Yn ôl adborth y gynulleidfa, roedd hyn yn adeiladu ymdeimlad o ‘chwilfrydedd’ ac ‘edrych ymlaen’. Roedd hwn yn gyfle i adael i’n cynulleidfa gael ei hudo gan y set pen drwy ei diddordeb, ei hawydd i ddeall rhagor. Ar ddiwedd y cyfnewid Crayon yn unig y bydden ni’n trosglwyddo’r set pen i’r gynulleidfa iddi gael gweld beth oedd wedi cael ei greu.

Elfen allweddol arall o’r set pen realiti estynedig hon yw’r teimlad o ymgolli mewn byd hybrid digidol-ffisegol. Roedden ni’n gofyn beth yw ystyr ‘ymgolli’ mewn technoleg fel realiti estynedig neu realiti rhithwir, sut deimlad yw cael eich amgylchynu, efallai dan y dŵr, drwy set pen. Cyd-ddigwyddodd hyn â delwedd bryfoclyd y mae Fearghus wediysgrifennu amdani ar ei flog, y darlun o Hylas a’r Nymffau.

Cymeron ni’r darlun yn ysbrydoliaeth ar gyfer ail bennod i’r arddangosiadau bras ymchwil a datblygu. Drwy osod y gynulleidfa i eistedd o gwmpas yr ystafell, llunion ni siâp tebyg i bwll dŵr i’n dawnswyr, ein nymffau, i chwarae ac yn y pen draw i ddenu aelodau unigol o’r gynulleidfa i ymuno â nhw. Ar ôl gwisgo’r set pen HoloLens, bydden nhw’n ymgolli mewn byd realiti estynedig hudol llawn swigod wedi’i ysbrydoli gan ddŵr (ap neilltuol a ddylunion ni gyda help datblygwr). Byddai ein dawnswyr nymffau yn mynd â nhw drwy’r gofod rhithwir-ffisegol hybrid hwn, yn union fel roedd Hylas wedi cael ei hudo a’i dynnu o dan y dŵr gan y nymffau yn y chwedl.

Rwy’n falch o’r hyn y llwyddon ni i’w ddatblygu yn ein gwaith ymchwil a datblygu. Llwyddon ni i ddangos bod y math hwn o dechnoleg yn gallu gweithio, nid i ddisodli perfformiad byw neu i greu set rithwir lawn gimigau yn unig. O’i rhoi i ddawnswyr, mae’r dechnoleg hon yn gallu cynnig cyfnewid byrfyfyr sy’n ddiddorol ac yn farddonol i’r gynulleidfa ei wylio. Ac o’i rhoi i’r gynulleidfa, gall y dechnoleg hwyluso profiad chwareus, agos-atoch, sy’n ennyn, fel y dywedwyd yn yr adborth, ymdeimlad o ‘syfrdanu a rhyfeddu’.

Dewch i wybod mwy am sut aeth Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ati i archwilio ffyrdd newydd o wneud a phrofi dawns gan ddefnyddio technoleg realiti haenog gyda'i prosiect, Moving Layers, ar dudalen eu prosiect neu drwy wylio'r fideo isod.