Nod y Prosiect
Bydd y prosiect hwn yn treialu cynllun peilot ar gyfer gwasanaeth newyddion rheolaidd a gyflwynir i ddisgyblion o fewn oriau ysgol, y gellir ei addasu gan athrawon i fodloni anghenion y cwricwla wrth greu arferiad ymhlith y genhedlaeth nesaf i wylio newyddion. Mae Core yn credu bod cyfle i: ddatrys angen sydd heb ei ddiwallu ymhlith disgyblion ac athrawon; bodloni gofynion y cwricwlwm ac ymgysylltu â meddyliau ifanc; a datblygu cyfleoedd masnachol drwy ddefnyddio dulliau technolegol newydd. Bydd hyn yn mynd i’r afael â’r her ledled y diwydiant i adfywio’r gynulleidfa ar gyfer gwylio newyddion, gan wneud Cymru’n arweinydd o ran defnyddio newyddion mewn addysg a chreu dinasyddion mwy gwybodus yn y dyfodol.