Fel rhan o Ŵyl Ddemocratiaeth Llywodraeth Cymru, GWLAD, bu Cyfarwyddwr Clwstwr ac Athro Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, Justin Lewis, yn cadeirio panel o newyddiadurwyr ifanc yn y Senedd.

Roedd y drafodaeth fywiog yn ymdrin â rhai o’r heriau mwyaf difrifol sy’n wynebu newyddiaduraeth yn yr oes sydd ohoni gyda Seren Jones o BBC Worldwide/BBC Radio 4, Ciaran Jenkins o Channel 4 News a Catrin Haf Jones, gohebydd seneddol newydd BBC Cymru, yn rhannu eu barn.

Roedd y drafodaeth, sydd ar gael i’w gweld yn ei chyfanrwydd ar wefan GWLAD, yn ymdrin â materion didueddrwydd, gwirionedd, amrywiaeth a sut mae cyfryngau yng Nghymru a ledled y DU yn adrodd am ddatganoli.

Mynegodd Justin Lewis ei farn am bwysigrwydd yr Ŵyl a'i feddyliau am y digwyddiad, ‘Oes angen newyddiadurwyr?’:

"Roedd hi'n bwysig nodi ugain mlynedd o ddatganoli yng Nghymru. Roedd hi'n gyfle i ni ddathlu'n llwyddiannau, myfyrio ar ein heriau a thrafod ein hamcanion ar gyfer y ddegawd nesaf. Roedd hi hefyd yn gyfle i ni drafod y problemau rydyn ni'n wynebu fel cymdeithas yn yr oes sydd ohoni. Un o'r rheiny yw'r her sy'n wynebu newyddion a newyddiaduraeth. 

Roedd clywed safbwynt newyddiadurwyr ifanc ynghylch rôl y newyddion a chyfryngau yn ddiddorol, ac, yn benodol, trafod eu syniadau am ymgysylltu pobl ifanc â'r newyddion a materion cyhoeddus. Mae hyn yn broblem fawr i ddarlledwyr gan fod cynulleidfaoedd ifanc yn troi'u cefnau ar newyddion darlledu ac yn defnyddio'r we yn lle. Mae angen i ni ddarganfod ffyrdd newydd, mwy diddorol i adrodd straeon er mwyn ymgysylltu â'r genhedlaeth ddigidol, ac mae newyddiadurwyr ifanc yn allweddol i'r ymdrech honno." 

Seren Jones, ar amrywiaeth mewn newyddiaduraeth: “Fe hoffwn i weld mwy o amrywiaeth yn yr ystafell newyddion. Mae'r diwydiant newyddiaduraeth 94% yn wyn a 55% yn ddynion. ‘Dwi ddim hyd yn oed yn siarad am amrywiaeth rhyw, hil neu rywioldeb, ond amrywiaeth meddwl. Pobl sydd â phrofiadau gwahanol, pobl na fyddech chi byth yn meddwl dod â nhw i'r diwydiant, oherwydd does dim anfantais mewn ystafell newyddion amrywiol. Mi fyddai’n datrys llawer o bethau ac mi fyddai’n datrys problemau’r prif gyfryngau pe byddem ond yn dechrau adlewyrchu cymdeithas.”

 

Ciaran Jenkins, sylwadau am y cyfryngau yn adrodd am faterion datganoledig: “Dw i ddim yn credu bod datganoli yn air deniadol y mae cynulleidfaoedd o reidrwydd yn ei hoffi. Yn lle hynny, pe bydde ni’n siarad am gymunedau a phobl a'u bywydau ledled y DU, mae'n debyg y byddai hynny'n cael mwy o effaith. Ac os ydych chi'n meddwl ble mae'r mwyafrif o newyddiadurwyr yn gweithio, maen nhw yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Pobl sy'n byw yn ne ddwyrain Lloegr sy’n ysgrifennu ar gyfer papurau newydd, sy’n cael eu darllen gan newyddiadurwyr sy’n penderfynu ar yr agenda ddarlledu ar gyfer y diwrnod - yr her i ddarlledwyr yw ceisio camu allan o hynny.”

Catrin Haf Jones, sylwadau am y cyfryngau yn adrodd am faterion datganoledig: “Ar lefel y DU, dwi ddim yn credu bod darlledwyr yn arbennig o dda am ei wneud. Dyw’r rhwydwaith, sydd wedi’i leoli yn Llundain ddim yn dda iawn. Rwy'n gweithio i'r BBC, ond rwy’n gallu edrych ar y sefyllfa’n wrthrychol. Fe gafodd Question Time ei ddarlledu o'r Senedd yr wythnos hon a chlywsom ni ddim sôn am ddatganoli na materion datganoledig tan y tri munud olaf. Dylai fod hynny wedi cael ei gyflwyno ynghynt. Mae llawer o gynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael eu newyddion o'r rhaglenni rhwydwaith ac felly mae'n gwneud anghymwynas â gwylwyr yn gyffredinol. Mae yna le i wella. ”

Mae’r mater o archwilio ffyrdd newydd o adrodd straeon ac ymgysylltu cynulleidfaoedd â’r newyddion wrth wraidd rhaglen Clwstwr. Mae nifer o’r prosiectau a ariennir gan y rhaglen yn 2019/20 yn ffocysu ar arloesi'r diwydiant newyddion gan gynnwys prosiect Monnow Media, Adrodd y Newyddion drwy Newyddiaduraeth Fodiwlaidd, FutureNews Labs Tinint, Casefinder Caerphilly Observer, Newyddion Ysgolion Core a phrosiect AMPLYFI, Deallusrwydd Artiffisial yn yr Ystafell Newyddion. 

Gallwch weld holl ddigwyddiadau GWLAD sy’n nodi ugain mlynedd o ddatganoli ar eu gwefan.