Cynhaliodd tîm Clwstwr sesiwn hysbysu ym Mrwsel i rannu a chysylltu gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant cyfryngau, academyddion, llunwyr polisïau ac asiantaethau strategol o bob rhan o Ewrop.
Rhaglen Clwstwr: Cynhaliwyd 'Lle mae Syniadau'n Blaguro' yn Nhŷ Cymru a oedd yn cynnwys cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr, yr Athro Justin Lewis, a'r Prif Swyddog Gweithredu, Sara Pepper.
Daeth cynrychiolwyr o ardal Gwlad y Basg, Catalonia, Leuven, Llysgenhadaeth Prydain a'r Cyngor Prydeinig.
Bu'r tîm hefyd yn cynnal cyfarfodydd un-i-un gyda Vienna Business Agency, DataScouts, ScreenBrussels, Creative Ring, y Comisiwn Ewropeaidd, Screen Flanders, Flanders Audiovisual Fund, Flanders DC a MediaArte.
Dywedodd yr Athro Justin Lewis: "Roedd yn hynod addysgiadol cwrdd â phobl o bob rhan o Ewrop sy'n gweithio ar arloesedd yn y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol. I fenter ifanc fel Clwstwr, mae'r cyfnewidiadau hyn yn hynod werthfawr. Maent yn caniatáu i ni ddysgu gan eraill yn ogystal â chreu posibiliadau i gydweithio'n rhyngwladol. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu'r perthnasoedd hyn yn y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod."
Gwnaeth y tîm hefyd gwrdd ag academyddion o imec-SMIT-VUB (Astudiaethau'r Cyfryngau, Arloesedd a Thechnoleg) sy'n cydweithio gyda Marlen Komorowski, Dadansoddydd Effaith Clwstwr.
Uchelgais Clwstwr yw parhau i wneud cysylltiadau gyda chlystyrau'r cyfryngau ar draws Ewrop er mwyn annog cydweithio a rhannu gwybodaeth o Gaerdydd.