Nod y Prosiect
Nod y prosiect hwn yw creu man digidol prydferth i blant gael gafael ar straeon newyddion. Yr her yw cyfuno technegau adrodd stori hirffurf creadigol â chyfyngiadau amser cylch newyddion cyflym. Bydd Lewnah yn ymchwilio sut y gall darlunio, animeiddio, realiti estynedig, rhithwiredd ac ati helpu i egluro digwyddiadau’r byd i gynulleidfaoedd iau. Bydd yr amgylchedd digidol hwn yn canolbwyntio ar y gwersi bywyd y gall plant a’u rhieni/gwarcheidwaid eu dysgu o’r byd o’u cwmpas, gan gynnig ffordd newydd i blant sy’n iau na’r arddegau ddeall ac ystyried y byd o’u cwmpas, a’r adnoddau i arwain at gyfranogi dinesig yn y dyfodol.
Wrth wraidd ein prosiect mae dau gwestiwn pwysig. Sut y gall plant iau wrando ar newyddion yn ddiogel? A beth yw'r ffordd orau o gyflwyno newyddion ar y sgrîn i blant pedair i saith oed? Byddwn yn ystyried a ellir cyfuno poblogrwydd animeiddio â chynnwys newyddion. Byddwn yn archwilio ymarferoldeb cynhyrchu cast o gymeriadau plant wedi'u hanimeiddio sy'n rhyngweithio â newyddion o'r byd go iawn i egluro straeon newyddion pwysig bob wythnos. Mae'r prosiect ymchwil hwn yn uchelgeisiol. Er hynny, rydym ni yn Lewnah Ltd yn credu y gallai arwain at ffordd arloesol a chyffrous newydd o adrodd straeon newyddion ar ein sgriniau.